Y Ganolfan Ddarlledu, Caerdydd

pencadlys BBC Cymru yn Llandaf, Caerdydd

Y Ganolfan Ddarlledu oedd cyn-bencadlys BBC Cymru yn ardal Highfields, Llandaf, gogledd Caerdydd. Roedd yn gartref i wasanaethau radio, teledu ac arlein BBC Cymru. Fe'i adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer y BBC ac agorodd yn 1966, pan oedd yn cynnwys tri bloc gyda stiwdios, swyddfeydd a chyfleusterau technegol. Symudodd BBC Cymru i bencadlys newydd yng nghanol Caerdydd gyda'r gwaith o drosglwyddo gwasanaethau yn cychwyn yn 2019 a chwblhau erbyn Medi 2020. Gwerthwyd y tîr i gwmni Taylor Wimpey a bydd y cwmni yn dymchwel y ganolfan ac adeiladu 400 o dai ar y safle.

Y Ganolfan Ddarlledu
 
Ty Oldfield (chwith) gyda rhan o'r Ganofan Ddarlledu yn y cefndir

Cynlluniwyd yr adeiliad gan y pensaer Cymreig Dale Owen (1924-97).[1][2] Fe'i agorwyd yn 1966 a roedd yn bencadlys ar gyfer BBC Cymru hyd at 2020. Roedd yn gartref i stiwdios, swyddfeydd a chyfleusterau technegol. Lleolwyd yr adeilad yn ardal Llandaf, gogledd Caerdydd ger Afon Taf. Mae'n agos at orsaf reilffordd Danescourt a mae sawl gwasanaeth Bws Caerdydd yn rhedeg heibio. Symudodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) a Chorws Cenedlaethol Cymru'r BBC allan o Stiwdio 1 yn y Ganolfan Ddarlledu i adeilad newydd, Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2009. Symudodd cyfleusterau stiwdio drama teledu'r BBC allan yn 2011 i adeiladau pwrpasol newydd ym Mhorth y Rhath, Bae Caerdydd.

Ym mis Awst 2013, cyhoeddwyd bod y Ganolfan Ddarlledu a Thŷ Oldfield, ochr draw y ffordd, ar werth, gyda chynlluniau i symud i un pencadlys pwrpasol newydd yng Nghaerdydd erbyn 2018. Dywedodd y BBC fod y "seilwaith sy'n heneiddio yn Llandaf yn amlwg wedi cyrraedd y diwedd ei oes ac mae'n amser i edrych i'r dyfodol". Edrychwyd ar dri safle posib yng Nghaerdydd;

Cadarnhaodd y BBC yn 2015 mai Sgwâr Canolog fyddai lleoliad eu pencadlys newydd.[4]

Rhaglenni

golygu

Roedd y Ganolfan yn gartref i Pobol y Cwm ers iddo gychwyn yn 1974 a ffilmiwyd nifer o gyfresi drama a chomedi yma yn cynnwys The Chatterley Affair, Perthyn, High Hopes, Satellite City a The District Nurse.[angen ffynhonnell]. Mae'r ganolfan yn cynnwys stiwdios ar gyfer rhaglenni newyddion BBC Wales Today a Newyddion. Cynhyrchwyd nifer o raglenni plant Cymraeg yma yn cynnwys Yr Awr Fawr a HAFoc.

Cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2009 y byddai'r BBC yn symud ffilmio sioeau megis Casualty a Crimewatch i stiwdios porth y Rhath yng Nghaerdydd.[5]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Obituary: Dale Owen". The Independent. 28 Tachwedd 1997. Cyrchwyd 25 Medi 2017.
  2. "BBC Wales to move to new Foster-designed Cardiff HQ". Architects' Journal. 10 Mehefin 2014. Cyrchwyd 25 Medi 2017.
  3. "BBC Wales to locate its new £170m headquarters at Cardiff's Capital Square scheme". Wales Online. 9 Mehefin 2014. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2015.
  4. "New headquarters for BBC Cymru Wales expected to be confirmed shortly at heart of Central Square scheme". Wales Online. 30 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2015.
  5. Douglas, Torin (15 Hydref 2008). "Entertainment | BBC evicts top shows from London". BBC News. Cyrchwyd 17 Medi 2013.

Dolenni allanol

golygu