Y Gwir Iforydd

cyfnodolyn

Sefydlwyd y cylchgrawn chwarterol Y Gwir Iforydd [1] gan aelodau Urdd Ddyngarol y Gwir Iforiaid dros Undebiaeth Gwrecsam, ym mis Hydref 1841. Cyhoeddwyd eraill ganddynt hefyd dros gyfnodau o amser - gweler [2][3][4][5], isod. Mudiad dyngarol oedd yr Iforiaid a'r Iforesau a ffurfiwyd yn ystod y cyffro cymdeithasol oherwydd y Siartwyr Llanidloes (1839), Terfysg Casnewydd (1839), a Merched Becca Caerfyrddin/Abertawe (1843), sef Morgannwg a Gwent yn bennaf. Roedd y cylchgrawn hwn yn cynnwys erthyglau ar hanes, daearyddiaeth, byd natur, newyddion cartref a thramor, barddoniaeth, materion cyfoes a'r iaith Gymraeg. Yn ogystal â hyn, byddai'n cyflwyno neu'n atgyfnerthu prif ddyletswyddau a gweithgareddau'r Cymdeithasau ar hyd a lled Cymru. Cyhoeddwyd llyfryn ganddynt o'r enw Yr Iforydd: neu, Gyfrwng Gwybodaeth Gyffredinol i'r Cymry (1842) i hyrwyddo'r achos, yn ogystal ag adroddiadau o'u cynadleddau blynyddol. Ar gyfer aelodau ymroddedig y 'gyfrinfa' Iforaidd, argraffwyd nifer o gyhoeddiadau ychwanegol, megis y canlynol;

  • Deddfau a Rheolau i'w Cadw gan Aelodau Cymdeithas y Gwir Iforiaid, sef. 30 Medi, 1836 (1840)
  • Deddfau a Rheolau Diwygiedig (1844) & (1850)
  • Rheolau Urdd y Gwir Iforiaid a sefydlwyd yn 1836 dan nawdd 18+19 Vic Pen 63, er 1859 wedi ei ddiwygio (1865)
Y Gwir Iforydd
Math o gyfrwngcyfnodolyn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1841 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiCaerfyrddin Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Cynhaliwyd y cyfrinfeydd gan "Urdd y Gwir Iforiaid" o Flaenau Gwent i Wrecsam, ac o Ynys Mon i UDA. Yn aml hefyd (ers 1845) defnyddiwyd yr enw Undeb Dewi Sant ganddynt i gynrychioli yr unig gymdeithas ddyngarol yng Nghymru. Bu gweithgareddau'r Undeb hwn yn weithredol am o leiaf hanner canrif, ac mae'r cyhoeddiad mwy diweddar, Y Llith-lyfr: Cyfeillgarwch, Cariad a Gwirionedd (1903) yn dystiolaeth o hynny. Ers troad y ganrif a diwedd y Rhyfel Byd 1af, newidiwyd ychydig ar yr enw i 'Cymdeithas Dewi Sant', ac ers argraffu Cymdeithas Gatholig Dewi Sant (1917), sefydlwyd llawer mwy ohonynt mewn gwledydd tramor trwy ddylanwad a gweithgareddau Cymdeithas Y Cymry Ar Wasgar.

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/browse/2034565
  2. Yr Iforydd (Caerfyrddin), c.1842
  3. Ifor Hael (Caerfyrddin), c.1850
  4. Y Gwladgarwr (Llanidloes), 1843
  5. Y Gwladgarwr (Caerfyrddin), c.1851