Rhyfeloedd Napoleon

(Ailgyfeiriad o Y Rhyfeloedd Napoleonaidd)

Rhoddir yr enw Rhyfeloedd Napoleon ar gyfres o ryfeloedd yn Ewrop rhwng 1804 a 1815. Ymladdwyd y rhyfeloedd rhwng Ffrainc dan Napoleon a nifer o wledydd, yn cynnwys Prydain, Rwsia, Awstria, Prwsia, Sbaen ac eraill a ffurfiodd sawl cynghrair gwahanol yn erbyn Napoleon.

Rhyfeloedd Napoleon
Math o gyfrwngcyfres o ryfeloedd Edit this on Wikidata
Rhan oCoalition Wars Edit this on Wikidata
Dechreuwyd18 Mai 1803 Edit this on Wikidata
Daeth i ben20 Tachwedd 1815 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganRhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc Edit this on Wikidata
LleoliadEwrop Edit this on Wikidata
Yn cynnwysWar of the Third Coalition, War of the Fourth Coalition, War of the Fifth Coalition, War of the Sixth Coalition, War of the Seventh Coalition Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brwydr Austerlitz

Ffurfiwyd y Cynghrair Cyntaf (1792-1797) rhwng Awstria, Prwsia, Prydain, Sbaen a'r Iseldiroedd yn y cyfnod ar ôl y Chwyldro Ffrengig a chyn i Napoleon ddod i rym. Roedd y cyngheiriaid yn gobeithio dinistrio'r drefn weriniaethol yn Ffrainc, ond ni chawsant lwyddiant. Daeth Napoleon i amlygrwydd yn ystod Gwarchae Toulon yn 1793, a daeth yn rheolwr Ffrainc yn 1796.

Ffurfiwyd yr Ail Gynghrair (1798-1801) gan Rwsia, Prydain, Awstria, yr Ymerodraeth Ottoman ac eraill. Ni lwyddodd ymosodiadau'r cynghrair ar Fffrainc ei hun. Ymosododd Napoleon ar yr Aifft yn 1798, a gyrrwyd byddin Ffrengig fechan i Iwerddon yr un flwyddyn, ond methodd y ddwy ymgyrch. Gwnaed cytundeb Heddwch Amiens rhwng Ffrainc a Phrydain yn 1802, ond ail-ddechreuodd yr ymladd ar 18 Mai 1803. Coronwyd Napoleon yn Ymerawdwr Ffrainc ar 2 Rhagfyr 1804.

Crëwyd y Trydydd Cynghrair (1805) gan Awstria, Prydain, Rwsia a Sweden. Dechreuodd Napoleon gynllunio ymosodiad ar Loegr, a chasglwyd 150,000 o filwyr yn Boulogne yn barod ar hynny, ond ni allwyd gweithredu ar hyn. Gorchfygwyd y llynges Ffrengig gan y llynges Brydeinig dan Horatio Nelson ym Mrwydr Trafalgar ar 21 Hydref. Ar 2 Rhagfyr enillodd Napoleon fuddugoliaeth dros Rwsia ac Awstria ym Mrwydr Austerlitz.

Ffurfiwyd y Pedwerydd Cynghrair (1806-1807) gan Prwsia, Sachsen a Rwsia. Gorchfygwyd Prwsia gan Napoleon yn Mrwydr Jena yn Hydref 1806, a meddiannwyd Berlin gan y Ffrancwyr. Ymladdwyd Brwydr Eulau yn Chwefror 1807 rwng Ffrainc a Rwsia, heb i'r un o'r ddwy ochr gael buddugoliaeth bendant.

Roedd y Pumed Cynghrair (1809) rhwng Prydain ac Awstria. Gorchfygwyd Awstria ym Mrwydr Wagram ym mis Gorffennaf, a gorfodwyd hi i gytuno i heddwch a Napoleon. Cythaeddodd ymerodraeth Napoleon ei maint mwyaf yn 1810.

Ffurfiwyd y Chweched Cynghrair rhwng Rwsia, Prydain, Prwsia, Sweden, Awstria a nifer o wladwriaethau bychain yr Almaen, gyda'r Unol Daleithiau yn awr yn cefnogi Ffrainc. Ymosododd Napoleon ar Rwsia gyda'r Grande Armée, yn cynnwys tua 600,000 o filwyr, dim ond 270,000 ohonynt yn Ffrancwyr. Ar 7 Medi ymladdwyd Brwydr Borodino rhwng Ffrainc a Rwsia, gyda cholledion trwm ar y ddwy ochr. Meddiannwyd Moscow gan y Ffrancwyr, ond rhoddwyd y ddinas ar dân. Bu raid i Napoleon encilio, a rhwng y tywydd ac ymosodiadau'r Rwsiaid, collodd bron y cyfan o'i fyddin; dim ond tua 30,000 o filwyr a groesodd afon Berezina i adael Rwsia.

 
Brwydr Waterloo

Enillodd Arthur Wellesley, yn ddiweddarach Dug Wellington, fuddugoliaethau dros y Ffrancwyr yn Sbaen. Ym Mrwydr Leipzig ar 16-19 Hydref 1813, gorchfygwyd Napoleon gan fyddin fawr o Rwsiaid, Prwsiaid ac eraill. Gorfodwyd ef i ildio ar 6 Ebrill 1814, wedi i'r cyngheiriad feddiannnu Paris. Gyrrwyd ef i Ynys Elba.

Crëwyd y Seithfed Cynghrair (1815) wedi i Napoleon ddianc o Elba a cheisio adfeddiannu ei orsedd. Gorchfygwyd ef ym Mrwydr Waterloo, a gyrrwyd ef i ynys Saint Helena.

Cyfeiriadau

golygu