Ynysoedd Gogledd Mariana
(Ailgyfeiriad o Ynysoedd Mariana Gogleddol)
Tiriogaeth dramor yr Unol Daleithiau yng ngorllewin y Cefnfor Tawel yw Ynysoedd Gogledd Mariana neu'r Marianas Gogleddol. Lleolir y diriogaeth rhwng Hawaii a'r Philipinau ym Micronesia. Mae'n cynnwys 15 o Ynysoedd Mariana i'r gogledd o ynys Gwam. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn byw ar Saipan, yr ynys fwyaf.
Math | ardal ynysol, endid tiriogaethol gwleidyddol, tiriogaeth anghorfforedig yr Unol Daleithiau, tiriogaeth yr Unol Daleithiau, cymanwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ynysoedd Mariana, gogledd, Mariana o Awstria |
Prifddinas | Capitol Hill |
Poblogaeth | 47,329 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Gi Talo Gi Halom Tasi |
Pennaeth llywodraeth | Arnold Palacios |
Cylchfa amser | UTC+10:00, Chamorro Time Zone, Pacific/Saipan |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Tsiamoreg, Carolinian |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Micronesia, US-UM |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 464 km² |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 16.705°N 145.78°E |
US-MP | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of the Northern Mariana Islands |
Corff deddfwriaethol | Northern Mariana Islands Commonwealth Legislature |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of the Northern Mariana Islands |
Pennaeth y Llywodraeth | Arnold Palacios |
Arian | doler yr Unol Daleithiau |
Y Chamorros a'r Caroliniaid yw pobloedd brodorol yr ynysoedd. Cyrhaeddodd nifer fawr o fewnfudwyr o'r Philipinau, Tsieina a gwledydd Asiaidd eraill o'r 1970au ymlaen ond mae llawer ohonynt wedi gadael yr ynysoedd mewn blynyddoedd diweddar.
Cyfeiriadau
golygu- Northern Mariana Islands. CIA World Factbook. CIA. Adalwyd ar 4 Awst, 2011.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Llywodraeth Ynysoedd Gogledd Mariana Archifwyd 2009-04-28 yn y Peiriant Wayback