Ynysoedd Erch

Ynysfor yn y Môr y Gogledd
(Ailgyfeiriad o Ynysoedd Orkney)

Ynysoedd ger arfordir gogledd-ddwyrain yr Alban yw Ynysoedd Erch (Saesneg: Orkney, Gaeleg yr Alban: Arcaibh). Mae'r ynysoedd, tua 200 ohonynt i gyd, tua 16 km oddi ar arfordir Caithness. Gelwir yr ynys fwyaf yn Mainland, ac yma y ceir y brif dref, Kirkwall, gyda phoblogaeth o tua 7,000. Mae trigolion ar tua 20 o'r ynysoedd i gyd, gyda chyfanswm y boblogaeth yn 19,900 yn 2001.

Ynysoedd Erch
Mathynysfor, un o gynghorau'r Alban, registration county, lieutenancy area of Scotland, Scottish islands area, siroedd yr Alban, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PrifddinasKirkwall Edit this on Wikidata
Poblogaeth22,270 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd988.7994 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Gogledd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau59°N 3°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS12000023 Edit this on Wikidata
GB-ORK Edit this on Wikidata
Map
Baner Ynysoedd Erch

Ymsefydlodd y Llychlynwyr yma yn yr 8fed a'r 9g, a chawsant ddylanwad parhaol ar ddiwylliant yr ynysoedd. Hyd y 19g roedd iaith Norn, iaith Lychlynnaidd, yn cael ei siarad yma.

Mae Gŵyl Sant Magnus yn ŵyl gerddorol sy'n digwydd ym mis Mehefin yn flynyddol .

Lleoliad Ynysoedd Erchyn yr Alban

Ynysoedd golygu

Yr ynysoedd pwysicaf yw:

Hynafiaethau golygu

Dynodwyd pedair safle Neolithig ar Ynysoedd Erch yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1999, dan yr enw Calon Ynysoedd Erch Neolithig.

Eraill golygu

Enwogion golygu

Gweler hefyd golygu