Ynysoedd y Shiant

Grŵp o ynysoedd sydd mewn eiddo preifat yn y Minch, i'r dwyrain o Harris yn yr Ynysoedd Heledd Allanolyr Alban ydy'r Ynysoedd y Shiant (Gaeleg: Na h-Eileanan Seunta neu Na h-Eileanan Mòra). Fe'u lleolir pum milltir i'r de-ddwyrain o Lewis.[1]

Ynysoedd y Shiant
Mathgrŵp o ynysoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.899°N 6.3641°W Edit this on Wikidata
Map
Delwedd Landsat o'r Minch Fach Mae Ynysoedd y Shiant  yng nghanol ynysoedd llawer mwy Lewis ac Harris i'r gorllewin a gogledd Skye, i'r de.

Geirdarddiad

golygu

Daw'r "Shiant" (yngannir "Shant") o Gaeleg yr Alban: Na h-Eileanan Seunta pronounced [nə ˈhelanən ˈʃiant̪ə] ( gwrando) pronounced [nə ˈhelanən ˈʃiant̪ə] ( gwrando), sy'n golygu "hudol", "sanctaidd," neu'r "ynysoedd swynol". Mae'r clwstwr hefyd yn cael ei adnabod fel Na h-Eileanan Mòra, "yr ynysoedd mawr" [nə ˈhelanən ˈmoːɾə]. Y prif ynysoedd yw Garbh Eilean (Ynys Garw) ac Eilean yn Taighe (Ynys Tŷ), sydd yn cael eu uno gan guldir, ac Eilean Mhuire (Ynys y Forwyn Fair) i'r dwyrain. Galwyd Eilean an Taighe yn Eilean na Cille (Ynys yr Eglwys) cyn y 19g.[2][3][./Shiant_Isles#cite_note-4 [Nodyn 1]]

Mae siart gan John Adair o'r 17eg-ganrif yn galw Garbh Eilean Ynys Nunaltins, Eilean Mhuire yn Ynys Santes Fair ac Eilean an Taighe yn Ynys Santes Columba. Awgrymir bod capel ar Ynys Eilean an Taighe wedi ei gysegru i Santes Columba, (John E. Moore, "John Adair's Contribution to the Charting of the Scottish Coasts: A Re-Assessment", Imago Mundi, cyf. 52 (2000), tt. 43-65).

Daeareg a daearyddiaeth

golygu
 
Golygfa o Garbh Eileen tuag at Eilean an Taighe ar y dde gyda Eilean Mhuire yn y pellter.  Mae hwn yn lun  a gymerwyd gan ddefnyddio 'fisheye' neu lens angel gor-lydan ac nid yw'n gynrychiolaeth o beth fyddai rhywun yn ei weld ar y ddaear.

Mae Ynysoedd y Shiant yn gorwedd i'r dwyrain o Swnt Shiant. Mae Garbh Eilean ac Eilean an Taighe yn ymestyn hyd at 143 hecter (350 o aceri),


ag Eilean Mhuire 75 hectar (190 acr) sydd yn llawer mwy ffrwythlon.[4] Yn ogystal â'r prif ynysoedd hyn, mae'r cadwyn o greigiau Galtachan sy'n gorwedd i'r gorllewin yn cynnwys Galta Beag, Bodach, Stacan Laidir, Galta Mòr, Sgeir Mhic' Ghobha a Damhag.[5] Yn nhermau daearegol, mae'r ynysoedd hyn yn cynrychioli estyniad o benrhyn Trotternish ar Yr Ynys Hir. Mae'r creigiau hyn yn folcanig, ac am 60Ma, yn ifanc iawn mewn safonau Heledd. Mae colofnau Dolerit ar ochr ogleddol Garbh Eilean dros 120 medr o uchder a tua 2 fedr mewn diamedr. Yn debyg i'r rhai ar Staffa ac y Sarn y Cewri ac yn uwch o lawer mewn mannau. Cawsant eu ffurfio gan y oeri araf y creigiau folcanig yn ddwfn o dan y ddaear.[6] Dangosir siliau ymwthiol gynnydd yn eu cyfansoddiadau cemegol, o greigiau olifin-gyfoethog ar waelod y creigiau gydag ychydig iawn neu dim olifin ar y brig.

Credir i'r siliau gael eu ffurfio gan waddodion grisial. Mae astudiaeth ddiweddar wedi awgrymu bod o leiaf un o'r siliau yn cynrychioli ymyrraeth lluosog.[7] Mewn rhai mannau mae'r basalt wedi'i orchuddio gan garreg laid o gyfnod y Jurasig,  sydd yn hindreulio i ffurfio pridd llawer mwy ffrwythlon nag mewn mannau eraill yn y Ynysoedd y Gorllewin.

Mae'n bosibl ymweld yr ynysoedd drwy amrywiol mordeithiau o  ynysoedd  Ynysoedd Heledd eraill ac o dir mawr yr Alban.

 
Ogof môr Toll' Roimh ar Garbh Eilean
 
Machlud Galtachan. O'r chwith i'r dde: Galta Beag, ynysig dienw, Bodach (gyda silwét y plygedig yr "hen ddyn") Stacan Laidir a Galta Mòr.

Yn 1549 ysgrifennodd Donald Monro, Deon yr Ynysoedd:

ane ile callit Ellan Senta, that is in English a Saw, ane ile mair than twa myle lang, verey profitable for corne, store, and fishing, perteining to M’Cloyd of the Lewis. On the eist side of this ile ther is a bore, maid like a vylt, mair nore an arrow shot of any man under the eirde, through the quilk vylt we use to row ore saill with our bottis, for fear of the horrible breake of the seas that is on the outwar side thereof, bot na grate ships can saill ther.[8][9]{{#tag:ref|Translation from Scots: "an isle called Ellan Senta, which means in English "fable island", an isle more than two miles long, very profitable for grain, stock-rearing and fishing, pertaining to McLeod of Lewis. On the east side of this isle there is a bore, made like a vault, longer(?) than the arrow shot of any man on earth, through which gulping vault we used to row our sail boats, for fear of the horrible break of the seas that is on the outward side, but no large ship can sail through it." Nicolson (2002) calls this "vault" on Toll a' Roimh at the north east end of Garbh Eilean the "Hole of the Seals" and describes rowing a dinghy through it.[10]

Ganrif a hanner yn ddiweddarach datganwyd Martin Martin fod

… mae'r ddwy ynys ddeheuol yn cael eu gwahanu yn unig gan lanw'r gwanwyn, ac mae iddynt ddwy filltir o gylchedd. Mae capel wedi ei chysegru i'r Santes Fair ar Ynys-More, sydd yn ffrwythlon mewn ŷd a gwair; mae'r ynys sydd yn ymuno â hi ar y gorllewin  ar gyfer tir pori'n unig.[11]

Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, roedd poblogaeth o wyth ar Ynysoedd Shiant. Roedd y llenor a'r gwleidydd Compton Mackenzie yn berchen ar yr ynysoedd o 1925 hyd 1937. Roedd yn caru ynysoedd, ac ar wahanol adegau yn ei fywyd bu iddo rentu Herm yn y Ynysoedd y Sianel. Ni fu erioed i fyw ar y Shiants, ond fe wnaeth nifer o ymweliadau byr yn ystod ei amser fel perchennog.

Yn 1937 cafwyd yr ynysoedd eu caffael gan Nigel Nicolson, yna'n israddedig o Rydychen, gan arian a adawyd iddo gan ei nain. Fel MacKenzie, daeth  Nicolson yn ddiweddarach yn awdur, llenor a gwleidydd.Cyhoeddodd mab yr awdur, Adam Nicolson, lyfr diffiniol ar yr ynysoedd, Sea Room yn 2016. Mae'r Shiants yn awr yn perthyn i Adam Nicolson. Mae defaid wedi pori ar yr ynysoedd ers yn gynnar yn y 19g ac yn 2016 fe symudwyd nifer ohonynt oddi yno. Adferwyd  y bothy ('bwthyn" yn Gymaeg neu hefyd "bothán" (cwt) yn Gaeleg) syml gan Nigel Nicolson ar Eilean an Taighe a hwn yw'r unig strwythur preswyliadwy ar yr ynysoedd.[12] Mae ymweliad i'r ynysoedd yn cael ei ddisgrifio yn The Old Ways gan Robert Macfarlane.[13]

Bywyd gwyllt

golygu
 
Ynysoedd y Shiant.[14]
 
Nyth err gynffon wen ar Ynysoedd y Shiant yn 1888.

Mae poblogaeth mawr o adar y môr, ar Ynysoedd y Shiant gan gynnwys degau ar filoedd o Pâl yr Iwerydd sy'n magi eu cywion mewn tyllau ar lethrau  Garbh Eilean, yn ogystal â nifer sylweddol o  wylogod cyffredin, llursod, gwylanod y graig y gogledd, gwylanod coesddu, cyffredin mulfrain gwyrdd cyffredin, gwylanod a'r sgiwen fawr. Er fod mwy o bâl ar ynys anghysbell St Kilda mae'r dwysedd ar Ynysoedd y Shiants yn fwy.[15]

Roedd yr ynysoedd hefyd yn gartref i boblogaeth o lygod mawr du, Rattus rattus, mae damcaniaeth iddynt gyrraedd yn wreiddiol oddi ar llongddrylliad.[16] Ar wahân i un neu ddau o ynysoedd bach yn Aber Gweryd, Ynysoedd y Shiants oedd yr unig le yn y DU lle oedd y llygoden fawr ddu (neu llygoden fawr y llong) yn byw[17] Cooler fod poblogeth gaeafol oddeutu 3,500 o lygod mawr ar yr ynysoedd, gyda'r niferoedd yn codi gynt a chynt yn ystod yr haf. Roedd dadansoddiad o gynnwys eu stumogau'n dangos bod llygod mawr Ynysoedd y Shiant yn bwyta adar y môr, ond roedd yn amhosibl i ddweud os oeddynt yn ysglyfaethu'r ar adar byw neu yn syml yn sborioni ar weddillion meirw.[18] Am flynyddoedd lawer roedd eu niferoedd o amgylch y bothy'n cael eu rheoli.[19]

Yn ystod  gaeaf  2015/16, bu i lawer mwy o lygod mawr gael eu difa, dan  arweiniad Wildlife Management International Limited fel rhan o Brosiect Adfer Adar Môr Ynysoedd y Shiant.Roedd y prosiect penair blynedd yma, a ariannwyd gan gyfraniadau gan yr UE, Scottish Natural Heritage (a elwir yn NatureScot ers 2020), yr RSPB  a llawer o rhoddwyr unigol, a gychwynnwyd i ddifa llygod mawr o holl Ynysoedd y Shiant yn barhaol.[20][21][22].Ym mis Mawrth 2018, bodlonodd Ynysoedd y Shiant gytundeb-rhyngwladol cyfnod dwy flynnedd ar ddileu poblogaeth y llygod mawr, ac fe'u datganwyd yn swyddogol i fod yn rydd o lygod mawr.[23]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Benvie, Niall (2004). Scotland's Wildlife. Aurum Press.
  • Mac an Tàilleir, Iain (2003) Placenames/Ainmean-àite le buidheachas Archifwyd 2010-12-25 yn y Peiriant Wayback (pdf). Pàrlamaid na h-Alba. Retrieved 6 Hydref 2009.
  • Martin, Martin (1703) A Description of The Western Islands of Scotland (Circa 1695) Archifwyd 2007-03-13 yn y Peiriant Wayback. Appin Regiment/Appin Historical Society. Adalwyd 3 Mawrth 2007
  • Nicolson, Adam (2002) Sea Room. London: HarperCollins.

Cyfeiriadau

golygu
  1. J. Keay a Keay, Collins Encyclopaedia of Scotland (Llundain: 1994).
  2. Haswell-Smith (2004) tud. 275-76
  3. Mac an Tàilleir (2003) tud. 105
  4. Nicolson (2002) tud. 143
  5. Get-a-map Archifwyd 2009-11-19 yn y Peiriant Wayback. Ordnance Survey. Adalwyd 10 Ebrill 2011.
  6. "Western Isles Guide Book: Shiant Islands". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2007.
  7. Kathryn Goodenough (September 1999). "Geological Conservation Review: Shiant Isles SSSI" (PDF). Scottish Natural Heritage. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-07-09. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2007.
  8. Monro (1594) "Ila" No. 175
  9. Nicolson (2002) tud. 217
  10. Nicolson (2002) tud. 73, 78
  11. Martin (1703) tud. 35
  12. Nicholson, Adam Sea Room: An Island Life in the Hebrides Harper Collins, 2001)
  13. Macfarlane, Robert (2012) The Old Ways Hamish Hamilton.
  14. Harvie-Brown, J. A. & Buckley, T. E. (1889), A Vertebrate Fauna of the Outer Hebrides. Pub. David Douglas, Edinburgh. yn wynebu tud. XIV.
  15. "Birds of the Shiant Islands: 1970 & 1971 census". Shiant Islands. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-07-02. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2007.
  16. Haswell-Smith (2004) tud. 276-77
  17. "Developing a mammal monitoring programme for the UK" (PDF). Joint Nature Conservation Committee. Archifwyd o'r gwreiddiol (pdf) ar 2012-08-31. Cyrchwyd 1 Chwefror 2007.
  18. Stapp, Paul (2002) "Stable isotopes reveal evidence of predation by ship rats on seabirds on the Shiant Islands". Scotland Journal of Applied Ecology 39 (5), 831–840.
  19. A. Nicolson, personal comment.
  20. "Black rat cull project on Shiant Islands gets EU funding". BBC News. 9 Mehefin 2014. Cyrchwyd 4 April 2017.
  21. McKenzie, Steven (16 Mehefin 2014). "Super infuriating animals? The business of tackling unwelcome animals". BBC News. Cyrchwyd 4 April 2017.
  22. "EU gives £450,000 to project aiming to clear islands of rats". The Herald. 7 Mehefin 2014. Cyrchwyd 4 Ebrill 2017.
  23. "Shiant Islands in the Minch declared rat-free". BBC News. BBC. 2 Mawrth 2018. Cyrchwyd 2 March 2018.

Dolenni allanol

golygu