Ysgol Gynradd Groes-Wen

Ysgol ddywieithog yn ardal Plasdwr, gorllewin Caerdydd

Ysgol gynradd yn rhan o Gyngor Dinas Caerdydd yw Ysgol Gynradd Groes-wen. Mae wedi lleoli ger ystâd dai Plasdŵr ar gyrion maestref Radur yng ngorllewin Caerdydd am dir Cyngor Bro Morgannwg. Agorwyd yr ysgol yn 2023. Dyma'r ysgol Model Iaith Ddeuol gyntaf yng Nghymru, model sydd fwyaf tebyg i "model B Gwlad y Basg" yn ôl yr sosio-ieithydd, Colin H. Williams yn 2024.[1]

Ysgol Gynradd Groes-Wen
Enghraifft o'r canlynolysgol gynradd Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMedi 2023 Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthSain Ffagan Edit this on Wikidata
Lleoliad maestref Plasdŵr o fewn ffiniau Cyngor Dinas Caerdydd

Lleolir yr ysgol ar Rhodfa Plasdŵr, Sain Ffagan, Caerdydd, CF5 2FG.[2] Nid yw'r ysgol wedi lleoli ym mhentref Y Groes-wen ger Caerffili.

Sefydlwyd yr ysgol gydag sefydlu ystâd dai anferth Plas-dŵr ar gyrsion maestref Radur yng ngorllewin Caerdydd ar ddechrau'r 2020au. Dyma'r unig ysgol gynradd i'r stâd. Er bu galw gan fudiadau megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i'r ysgol fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg o'r cychwyn,[3] bu anghytuno ag hynny.[4] Penderfynnodd Cyngor Dinas Caerdydd ar gyfaddawd gan sefydlu ysgol ddwyieithog cyntaf o'i bath yn y ddinas.[5]

Prifathro gyntaf yr ysgol yw Richard Carbis bu'n gynbennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Derwen ger Caerffili, Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James ym Mhontypridd ac Ysgol Pencae yng Nghaerdydd.[6]

Cyfrwng iaith yr Ysgol

golygu

Dywed gwefan yr ysgol, "Ein bwriad bydd i ddysgu trwy Gymraeg a Saesneg 50/50 ar gyfartaledd." Dyma'r ysgol gyntaf o'i math yng Nghaerdydd oedd yn cynnig o ffrwd addysg 'iaith ddeuol' newydd ochr yn ochr â ffrwd Gymraeg. Hynny yw, does dim ffrwd uniaith Saesneg i'r ysgol.[7]

Prosesau Pob Dydd

golygu

Yn ôl gwefan yr ysgol yn 2024, prosesau cyfrwng iaith dysgu'r ysgol yw:

  • Cymraeg a Saesneg am yn ail bydd Iaith y Dydd
  • Gwasanaeth Ysgol - Cymraeg gydag elfen o Saesneg
  • Gwasanaeth Adran Iaith Ddeuol - Cymraeg / Saesneg
  • Bydd y plant yn clywed cerddoriaeth Cymraeg yn aml
  • Bydd y staff i gyd yn rhugl yn y Gymraeg felly ar sail pa iaith bydd y plant yn clywed, Cymraeg bydd prif iaith oedolion yr ysgol.
  • Bydd arddangosfeydd yn ddwyieithog h.y. Nid oes angen cadw at un iaith yn unig wrth arddangos gwaith disgyblion

Pryder am y polisi iaith

golygu

Tra bod ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg heb eu hargyhoeddi y bydd y ffrwd Saesneg yn helpu i gynhyrchu plant byddai'n gallu siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl, anghytunodd eraill. Dywedodd Huw Thomas, Cadeirydd Cyngor Caerdydd yn 2021 bod angen gweld sut byddai'r model yn gweithio. Nododd, petai'r model yn llwyddiannus y gellid ei ehangu i "ysgolion sydd ar hyn o bryd yn gwbl Saesneg eu hiaith".[8]

Mewn cynhadledd yn 2024 galwodd yr Athro Williams yr ysgol yn "rhyw fath o arbrawf ac yn eithriad" (o'i gymharu â Model B Gwlad y Basg oedd â "holl gefnogaeth y wladwriaeth a'r rhieni").[1]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Panel: Tafoli'r Gorffennol ar gyfer Heriau'r Dyfodol - What does the past have to offer the future?". Sianel Youtube Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru. 17 Hydref 2024. t. oddeutu 31 munud i'r drafodaeth.
  2. "Ysgol Groes-wen". Gwefan Cyngor Dinas Caerdydd. 2024. Cyrchwyd 24 Hydref 2024.
  3. "NA i agor ysgol ddwyieithog ym Mhlasdŵr yng Nghaerdydd lle fydd hanner y disgyblion yn cael eu trin yn eilradd. IE i ysgol benodedig Gymraeg!". Cyfrif X Cymdeithas yr Iaith. 17 Ionawr 2020. Cyrchwyd 24 Hydref 2024.
  4. "Anghytuno am iaith ysgol newydd Plasdŵr, Caerdydd". BBC Cymru Fyw. 25 Ebrill 2019. Cyrchwyd 24 Hydref 2024.
  5. "Croeso gan Mr Carbis". Gwefan Ysgol Gynradd Groes-Wen. Cyrchwyd 24 Hydref 2024.
  6. "About Us". Gwefan Ysgol Gynradd Groes-wen. Cyrchwyd 24 Hydref 2024.
  7. "Croeso gan Mr Carbis". Gwefan Ysgol Gynradd Groes-Wen. Cyrchwyd 24 Hydref 2024.
  8. "Galw am wneud mwy o ysgolion Caerdydd yn rhai Cymraeg". BBC Cymru Fyw. 19 Hydref 2021.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.