Zilia Sánchez
Artist Puerto Rico a aned yn Havana, Ciwba oedd Zilia Sánchez Dominguez (12 Gorffennaf 1928 - 18 Rhagfyr 2024). Dechreuodd ei gyrfa fel dylunydd set a pheintiwr haniaethol ar gyfer grwpiau theatr yng Nghiwba cyn chwyldro Ciwba 1953-59.[1] Mae hi'n cael ei chofio am uno cerflunio a phaentio, i ryw raddau, trwy greu cynfasau gyda haenau a siapiau tri dimensiwn. Ychydig iawn o liw sydd yn ei gweithiau ac mae iddynt naws erotig.[2][3][4][5]
Zilia Sánchez | |
---|---|
Ganwyd | 12 Gorffennaf 1928 La Habana |
Bu farw | 18 Rhagfyr 2024 San Juan |
Man preswyl | Sbaen, Unol Daleithiau America |
Dinasyddiaeth | Ciwba |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, artist |
Blodeuodd | 1971 |
Ganed Sánchez yn Havana ar 12 Gorffennaf 1928.[6][7] Hanodd ei mam o Giwba a'i thad o Sbaen.[8] Ym 1943 aeth i astudio yn Ysgol Genedlaethol Celfyddydau Cain San Alejandro yn Havana ac yn 1953 cafodd ei harddangosfa gelf unigol gyntaf.[9] Wedi i Fidel Castro ddod i rym, symudodd Sánchez i Efrog Newydd lle astudiodd y grefft o greu printiau yn Sefydliad Pratt.[6]
Roedd hi'n arloeswr ffeministaidd mewn celf gyfoes, ac yn 2020 cafodd ei gwaith sylw yn y sioe ysgolheigaidd Fy Nghorff, Fy Rheolau, yn Amgueddfa Gelf Pérez Miami; Mae gwaith Sánchez, Untitled, o'r gyfres Topología Erótica o 1970 wedi'i gynnwys yng nghasgliad Sefydliad Diwylliannol Caribïaidd yr amgueddfa.[10][11]
Mae ei chyfres Amazonas yn cynnwys rhyfelwyr benywaidd sy'n amlygu'r ffurf a'r siap fenywaidd[12] ac mae ei gwaith wedi'i ddisgrifio fel un sydd â "amlinellau synhwyraidd" ("sensual contours").[13] Newidiodd arddull celf Sánchez dros y blynyddoedd: yn gynnar yn ei gyrfa canolbwyntiodd ar greu darnau am arferion anffurfiol mynegiant haniaethol ac iaith weledol. Erbyn canol y 1960au roedd hi wedi dechrau gweithio ar ei gwaith cynfas unigryw a synhwyraidd.[14]
Mae ei gwaith celf wedi’i ddisgrifio fel un sydd “wedi’i esgeuluso” ac “yn anaml y’i gwelir y tu allan i Puerto Rico.” [15]
Anrhydeddau
golygu
Rhai arlunwyr eraill o'r un cyfnod
golyguRhestr Wicidata:
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cotter, Holland (2013-06-13). "Zilia Sánchez". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2019-02-07.
- ↑ "Three Cuban Artists Take On the Moon at Galerie Lelong". Vogue (yn Saesneg). 30 Ebrill 2016. Cyrchwyd 2019-02-07.
- ↑ Gwefan theartofpainting.be; adalwyd Rhagfyr 2016.
- ↑ Rhyw: Union List of Artist Names. dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2018. dyddiad cyrchiad: 14 Mai 2019.
- ↑ Dyddiad marw: "Zilia Sánchez Domínguez Obituary - San Juan, PR" (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2024.
- ↑ 6.0 6.1 Furman, Anna (2019-11-29). "An Artist Who Transforms Paintings Into Cosmic Sculptures". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2019-12-01.
- ↑ "Zilia Sánchez". AWARE Women artists / Femmes artistes. Cyrchwyd 22 Ebrill 2023.
- ↑ Sretenovic, Vesela (2019). Zilia Sánchez : Soy Isla. New Haven, CT: Yale University Press. t. 2. ISBN 9780300233902.
- ↑ Steinhauer, Jillian (2020-02-06). "Zilia Sánchez's Island of Erotic Forms". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-03-10.
- ↑ "Untitled, from the series Topología erotica – Caribbean Cultural Institute" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-22.
- ↑ "MY BODY, MY RULES • Pérez Art Museum Miami". Pérez Art Museum Miami (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-08.
- ↑ D'Addario, John (2017-05-30). "Canvas is just a starting place for Puerto Rican contemporary artists at Newcomb show". The New Orleans Advocate (yn Saesneg).
- ↑ "Puerto Rican Painters Who Fold, Cut, and Tear the Canvas". Hyperallergic (yn Saesneg). 2017-06-26. Cyrchwyd 2019-02-07.
- ↑ Guerrero, Marcela. "Zilia Sánchez". Aware.
- ↑ Pogrebin, Robin; Sokol, Brett (2015-11-26). "Art Basel Miami Beach: A Focus on Female Artists". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2019-02-07.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan biography.com Archifwyd 2019-04-23 yn y Peiriant Wayback