10 Rillington Place

ffilm ddrama am berson nodedig gan Richard Fleischer a gyhoeddwyd yn 1971

Ffilm ddrama am y llofrudd cyfresol Seisnig John Christie, gan y cyfarwyddwr Richard Fleischer yw 10 Rillington Place a gyhoeddwyd yn 1971. Fe'i cynhyrchwyd gan Martin Ransohoff yn y Deyrnas Gyfunol; y cwmni cynhyrchu oedd Filmways. Lleolwyd y stori yn Llundain ac yno hefyd y cafodd ei ffilmio. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn Saesneg a hynny gan Clive Exton a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan John Dankworth. Mae'n ffilm a ddosbarthwyd drwy fideo ar alw.

10 Rillington Place
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1971 Edit this on Wikidata
Genreffilm drosedd, ffilm am berson, ffilm ddrama, ffilm yn seiliedig ar lyfr Edit this on Wikidata
Prif bwncllofrudd cyfresol, y gosb eithaf Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLlundain Edit this on Wikidata
Hyd110 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrRichard Fleischer Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrMartin Ransohoff Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuFilmways Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJohn Dankworth Edit this on Wikidata
DosbarthyddColumbia Pictures, Netflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddDenys Coop Edit this on Wikidata

Y prif actorion yn y ffilm hon yw Richard Attenborough, John Hurt, Edward Evans, Barwn 1af Mountevans, Robert Hardy, Isobel Black, Basil Dignam, André Morell, Edward Woodward, David Jackson, Jimmy Gardner, Judy Geeson a Geoffrey Chater. Mae'r ffilm 10 Rillington Place yn 110 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn lliw. [1][2]

Cefndir

golygu

Roedd John Reginald Halliday Christie (8 Ebrill 1899 - 15 Gorffennaf 1953), yn llofrudd cyfresol o Loegr ac yn necroffiliaid honedig. Roedd yn weithredol yn ystod y 1940au a dechrau'r 1950au. Llofruddiodd Christie o leiaf wyth o bobl - gan gynnwys ei wraig, Ethel - trwy eu tagu yn ei fflat yn 10 Rillington Place, Notting Hill, Llundain. Cafwyd hyd i gyrff tri o ddioddefwyr Christie mewn cilfach gegin wedi’i orchuddio â phapur wal yn fuan ar ôl iddo symud allan o Rillington Place yn ystod mis Mawrth 1953. Darganfuwyd olion dau ddioddefwr arall yn yr ardd, a daethpwyd o hyd i gorff ei wraig o dan yr estyll llawr o'r ystafell ffrynt. Cafodd Christie ei arestio a'i ddyfarnu'n euog o lofruddiaeth ei wraig, a chafodd ei grogi am hynny.[3]

Dwy o'r rai a llofruddiwyd gan Christie oedd Beryl Evans a'i merch fach Geraldine, a oedd, ynghyd â gŵr Beryl, Timothy Evans, Cymro o Ferthyr Tudful, yn denantiaid yn 10 Rillington Place yn ystod 1948-49. Cafodd Timothy Evans ei gyhuddo o'r ddwy lofruddiaeth, ei ganfod yn euog, a'i grogi ym 1950.[4] Roedd Christie yn un o brif dystion yr erlyniad. Pan ddarganfuwyd ei droseddau ei hun dair blynedd yn ddiweddarach, codwyd amheuon difrifol ynghylch cyfiawnder collfarn Evans. Cyfaddefodd Christie ei fod wedi lladd Beryl, ond nid Geraldine.[5] Diddymodd yr Uchel Lys euogfarn Evans yn 2004, gan dderbyn na lofruddiodd Evans ei wraig na'i blentyn.

Mae'r ffilm yn dechrau yn 1944. Mae John Christie yn llofruddio cydnabod iddo o'r enw Muriel Eady, mae'n ei denu hi i'w fflat yn 10 Rillington Place trwy addo gwella ei broncitis gyda "chymysgedd arbennig". Mae o'n ei hanalluogi gyda Nwy, yn ei thagu â darn o raff, ac wedyn (awgrym) yn cael rhyw efo'i chorff marw. Mae'n ei chladdu yng ngardd gymunedol ei floc o fflatiau, wrth gloddio'r bedd mae'n dod o hyd i gorff Ruth Fuerst, un o'i ddioddefwyr blaenorol, yn ddamweiniol.[6]

Ym 1949, symudodd Tim a Beryl Evans i 10 Rillington Place, gorllewin Llundain, gyda'u merch fach Geraldine. Mae Beryl yn feichiog eto ac yn ceisio achosi erthyliad trwy gymryd tabledi. Pan fydd hi'n rhoi gwybod i Tim, mae'r cwpwl yn cael ffrae wyllt, ac mae Christie'n torri'r ffrae. Yn fuan wedyn, mae Christie yn cynnig helpu Beryl i erthylu. Mae'n esgus darllen gwerslyfr meddygol, i argyhoeddi Tim o'i arbenigedd yn y maes. Gan fod Tim, i bob pwrpas yn anllythrennog, mae'n anymwybodol bod Christie yn ei dwyllo. Mae'r Evansiaid yn cytuno i adael i Christie gyflawni'r erthyliad. Gan esgus cyflawni'r weithdrefn feddygol mae Christie yn ceisio analluogi Beryl trwy gael iddi anadlu nwy stryd. Mae hi'n yn cael adwaith gwyllt i'r nwy. Mae Christie yn ei dyrnu yn ei hwyneb i gnocio hi allan. Yna mae'n ei thagu i farwolaeth ac yn ymosod yn rhywiol ar ei chorff.

Mae Christie yn dweud wrth Tim fod Beryl wedi marw o gymhlethdodau yn ystod yr erthyliad. Mae Tim eisiau mynd at yr heddlu, ond mae Christie yn ei argyhoeddi y bydd yn cael ei weld fel cynorthwywr mewn erthyliad anghyfreithiol. Mae Christie yn awgrymu bod Tim yn gadael y ddinas y noson honno, tra bod Christie yn cael gwared ar gorff Beryl. Mae’n addo y bydd yn rhoi’r babi yng ngofal cwpl heb blant o East Acton. Mae Tim yn cytuno'n anfoddog, ac yn gadael y tŷ yng nghanol y nos. Yna mae Christie yn tagu Geraldine gyda thei.

Mae Tim yn cuddio yn nhŷ ei fodryb a'i ewythr ym Merthyr Tudful. Mae'n honni bod Beryl a'r babi yn ymweld â'i theulu yn Brighton. Mae perthnasau Tim yn anfon llythyr at dad Beryl, sy'n anfon telegram mewn ymateb i ddweud nad yw wedi gweld Beryl ers misoedd. Wedyn mae Tim yn esgus bod Beryl wedi rhedeg i ffwrdd gyda dyn cyfoethog. O dan deimlad o euogrwydd mae Tim yn ymweld â'r orsaf heddlu leol. Mae'n cyfaddef ei fod wedi cael gwared ar gorff Beryl mewn carthffos ar ôl yr erthyliad aflwyddiannus. Mae swyddogion heddlu Llundain yn archwilio'r garthffos, ond yn methu dod o hyd i gorff Beryl. Wrth archwilio 10 Rillington Place mae'r heddlu yn canfod cyrff Beryl a'r babi yn yr ystafell ymolchi, lle cuddiodd Christie nhw.

Mae Tim yn cael ei ddychwelyd i Lundain a'i gyhuddo o lofruddio ei wraig a'i blentyn. Mae Christie yn dwyn tystiolaeth yn ei erbyn. Mae Tim yn cael ei ddyfarnu'n euog ac yn cael ei grogi ar gam am droseddau Christie.[7]

Ddwy flynedd ar ôl achos Evans, mae Ethel yn dechrau ofni ei gŵr, ac yn hysbysu Christie y bydd yn symud allan i aros gyda pherthnasau. Mae'n erfyn arni i beidio â'i adael. Yn ddiweddarach y noson honno mae Christie yn ei llofruddio ac yn cuddio ei chorff o dan yr estyll yn eu hystafell ffrynt. Yn ddiweddarach, mae'n cwrdd â menyw sy'n dioddef o'r feigryn mewn caffi. Mae'n cymryd arno ei fod yn gyn meddyg ac yn addo iachâd iddi. Fe'i gwelir nesaf yn rhoi papur wal ffres ar wal yn ei gegin; awgrymir ei fod wedi cuddio corff y fenyw yn y gofod y tu ôl i'r wal.

Ym 1953, mae Christie yn byw mewn tŷ clwydo. Yn y cyfamser, mae tenant newydd yn symud i mewn i fflat Christie. Mae arogl ofnadwy yng nghegin y tŷ. Mae Beresford Brown, y tenant newydd, yn tynnu'r papur wal i geisio canfod achos y drewdod. Mae'n dod o hyd i ofod tu ôl i'r wal, sy'n cynnwys olion dynol. Yn fuan wedyn, mae heddwas yn Putney yn canfod Christie ac mae'n cael ei arestio. Mae'r ffilm yn gorffen gyda byrddau deitl sy'n esbonio bod Christie wedi'i grogi a bod Tim wedi cael pardwn ar ôl ei farwolaeth a'i ail-gladdu mewn tir cysegredig.

Cyfarwyddwr

golygu
 

Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Richard Fleischer ar 8 Rhagfyr 1916 yn Ninas Efrog Newydd a bu farw yn Woodland Hills ar 25 Mawrth 2006. Roedd yn fwyaf cynhyrchiol yn 1946 ond ni ellir dweud fod y gwaith wedi cyrraedd enwogrwydd byd-eang. Derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Brown.


Ymhlith y gwobrau mae wedi'u hennill y mae:

  • Gwobr yr Academi am y Rhaglen Ddogfen Orau
  • 'Disney Legends'[8]

Derbyniad

golygu

Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:

  • 58%[9] (Rotten Tomatoes)
  • 6.8/10[9] (Rotten Tomatoes)

.

Gweler hefyd

golygu

Cyhoeddodd Richard Fleischer nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:

Rhestr Wicidata:

Ffilm Delwedd Gwlad Iaith wreiddiol dyddiad
Amityville 3-D Mecsico
Unol Daleithiau America
Saesneg 1983-01-01
Ashanti Unol Daleithiau America Saesneg 1979-02-21
Conan The Destroyer Unol Daleithiau America
Mecsico
Saesneg 1984-01-01
Mandingo Unol Daleithiau America Saesneg 1975-05-07
Mr. Majestyk Unol Daleithiau America Saesneg 1974-06-06
Red Sonja Unol Daleithiau America
Yr Iseldiroedd
Saesneg 1985-01-01
Soylent Green Unol Daleithiau America Saesneg
Sbaeneg
1973-01-01
The Boston Strangler Unol Daleithiau America Saesneg 1968-10-16
The Narrow Margin Unol Daleithiau America Saesneg 1952-05-02
Tora Tora Tora Unol Daleithiau America
Japan
Japaneg
Saesneg
1970-01-01
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Genre: http://www.imdb.com/title/tt0066730/. dyddiad cyrchiad: 21 Mai 2016.
  2. Cyfarwyddwr: http://www.imdb.com/title/tt0066730/. dyddiad cyrchiad: 21 Mai 2016. http://www.filmaffinity.com/en/film216260.html. dyddiad cyrchiad: 21 Mai 2016.
  3. "Confessed Killer Of 7 Women Must Die In London ". The Free Lance-Star. 25 Mehefin 1953. Cyrchwyd 13 Hydref 2022.
  4. Evans, Jason (2020-04-13). "The innocent Welshman wrongly hanged for killing his wife and child". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-13.
  5. "Did An Innocent Man Hang? Question In Christie Trial". The Montreal Gazette. 26 Mehefin 1953. Cyrchwyd 13 Hydref 2022.
  6. "10 Rillington Place: a truly horrifying true-crime classic". BBC Culture. Cyrchwyd 13 Hydref 2022.
  7. "Looking back on one of the scariest serial-killer films ever made, 10 Rillington Place". CrimeReads (yn Saesneg). 2022-04-15. Cyrchwyd 2022-10-13.
  8. https://d23.com/walt-disney-legend/richard-fleischer/.
  9. 9.0 9.1 "10 Rillington Place". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 7 Hydref 2021.