Llanwnda, Gwynedd

pentref yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriwyd o Llanwnda (Gwynedd))

Pentref, cymuned, a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanwnda ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Arfon ar briffordd yr A499 tua 3 milltir i'r de o dref Caernarfon. Llifa Afon Carrog drwy'r gymuned.

Llanwnda
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,084, 1,893, 1,994 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1017°N 4.2783°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000087 Edit this on Wikidata
Cod OSSH475584 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au y DUHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Am y pentref yn Sir Benfro, gweler Llanwnda (Sir Benfro).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]

Hanes a hynafiaethau

golygu

Mae'r eglwys, a gysegrir i Sant Gwyndaf (Gwnda), yn sefydliad hynafol, ond mae'r rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn dyddio i 1847 pan gafodd yr eglwys ei hailadeiladu yn gyfangwbl. Yn ôl y disgrifiadau o'r hen eglwys, roedd hi'n dyddio i'r 13g ac ar ffurf croes. Dim ond darnau o waelod muriau'r hen eglwys sy'n aros.[3]

Mae henebion y plwyf yn cynnwys caer hynafol Dinas y Pryf, bryngaer Hen Gastell a chaer dybiedig Dinas Dinoethwy.

Hefyd yn y plwyf ceir Rhedynog Felen, safle gwreiddiol Abaty Aberconwy. Daeth mynachod yno o Abaty Ystrad Fflur ar 24 Gorffennaf, 1186, ond symudasant i Aberconwy yn fuan wedyn. Arosodd y tir yn nwylo'r abaty Sistersiaidd hyd at gyfnod diddymu'r mynachlogydd.[3]

Pobl o Lanwnda

golygu

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanwnda, Gwynedd (pob oed) (1,994)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanwnda, Gwynedd) (1,556)
  
81.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanwnda, Gwynedd) (1577)
  
79.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanwnda, Gwynedd) (277)
  
33.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Canolfan Bro Llanwnda

golygu
 
Y Ganolfan Fro

Mae yma ganolfan fro a agorwyd ym Medi 2006 i wasanaethu nifer o gymunedau gwledig Cymreig fel Bethesda Bach, Chatham, Dinas, Llanfaglan, Llandwrog, Llanwnda, Rhos Isa, Tai Lon a Saron, ac eraill. Mae'r ganolfan y drws nesaf i Ysgol Gynradd Felinwnda.

Ers ei hagor, mae yma ddwy gymdeithas wedi eu ffurfio o'r newydd, sef Clwb Garddio Felinwdna a Chymdeithas Hanes Tair Llan. Mae Cylch Meithrin Llanwnda yn cyfarfod yma, a Merched y Wawr Dinas. Mae'r ysgol gynradd leol hefyd yn defnyddio'r ganolfan, a cheir nifer o weithgareddau eraill ynddi, na fuasent yn digwydd heb y Ganolfan.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. 3.0 3.1 Harold Hughes a H. L. North, The Old Chuches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, 1984).
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolen allanol

golygu