Adar ffrigad

teulu o ardar y môr
Aderyn Ffrigad
Amrediad amseryddol: Eosen cynnar i'r presenol 50–present Miliwn o fl. CP
Aderyn ffrigad gwych
(Fregata magnificens) ar Ynysoedd y Galapagos.
Dosbarthiad gwyddonol
Species
Cynefin y Ffrigad

Teulu o adar morol yw'r adar ffrigad neu aderyn ffrigad (Saesneg: Frigatebird) a elwir yn Lladin yn Fregatidae, sydd yn urdd y Suliformes (cyn y 1990au, fe'i rhoddwyd yn urdd y Pelecaniformes).[1] Ceir pum rhywogaeth o fewn y teulu, ac maen nhw'n cael eu grwpio mewn un genws, sef y Fregata.

Maent yn anifeiliaid o faint sylweddol, gyda lled yr adenydd agored yn aml yn fwy na 2.30 metr. Mae gan bob un o'r 5 rhywogaeth blu lliw du, cynffonau hir a fforchiog a phigau tro. Er gwaethaf eu maint maent yn adar ysgafn iawn, gyda phwysau ychydig gannoedd gram. Mae gan y menywod foliau gwyn ac mae gan y gwrywod fagiau gwynt coch-llachar yn y gwddf er mwyn dennu'r fenyw. Gallant aros yn yr awyr am fwy nag wythnos a gallant gyrraedd 400 km / h.

Nodweddion

golygu

Gall aderyn y ffrigad esgyn am wythnosau ar gerhyntau gwynt, mae adar y ffrigad yn treulio'r rhan fwyaf o'r dydd yn hela am fwyd, ac yn clwydo ar goed neu glogwyni yn y nos. Eu prif ysglyfaeth yw pysgod a ystifflog/môr-lawes, wedi'u dal wrth i ysglyfaethwyr mawr fel tiwna eu dal ar wyneb y dŵr. Cyfeirir at adar Ffrigad fel kleptoparasitiaid gan eu bod weithiau'n dwyn oddi ar adar y môr eraill ar gyfer bwyd, ac yn wybyddus eu bod yn cipio cywion adar môr o'r nyth. Mae adar unffurf un -amous, frigateb yn nythu yn y wlad. Mae nyth garw wedi'i adeiladu mewn coed isel neu ar y ddaear ar ynysoedd anghysbell. Gosodir wy sengl bob tymor magu. Mae hyd gofal rhieni ymhlith yr un rhywogaeth adar hiraf; dim ond bob yn ail flwyddyn y gall adar frigateb fridio.

Mae'r Fregatidae yn chwaer grŵp i Suloidea sy'n cynnwys mulfrain, dartiau, huganod a bŵts. Mae tair o'r pum rhywogaeth o frigatebwyr sydd eisoes yn bodoli yn gyffredin, (yr adar godidog, mawr a llai o frigatebwyr) tra bod dau ohonynt mewn perygl (adar frigateb yr Ynys Nadolig ac Ynys y Dyrchafael) ac yn cyfyngu eu cynefin magu i un ynys fach yr un. Mae'r ffosilau hynaf yn dyddio o'r Eocene cynnar, tua 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Wedi'i ddosbarthu yn y genws Limnofregata,[1] roedd gan y tair rhywogaeth filiau byrrach, llai bachog a choesau hwy, ac roeddent yn byw mewn amgylchedd dŵr croyw.

Rhywiogaethau

golygu

Ceir pum rhywogaeth i'r ffrigad:

Aderyn ffrigad gwych (Fregata magnificens)
Aderyn ffrigad Ynys y Dyrchafael (Fregata Aquila)
Aderyn ffrigad Ynys y Nadolig (Fregata andrewsi)
Aderyn ffrigad mawr (Fregata minor)
Aderyn ffrigad bach (Fregata ariel)

Daearyddiaeth

golygu

Cynefin aderyn y ffrigad yw moroedd cynnes o gylch y cyhydedd, sef, yn fras, oddi fewn i Trofan yr Afr (Tropic of Capricorn) a Throfan Cancr, ond ym Môr yr Iwerydd mae ond yn gyffredin o gylch Ynys Asencion yng nghanol y cefnfor ac o gylch yr ynysoedd oddi ar gorllewin Affrica.

Daw'r enw Cymraeg ar yr aderyn o'r Saesneg, Frigagebird, sydd ei hun yn dod o'r term gan forwyr Ffrengig ac sy'n rhoi enw'r rhywogaeth, aderyn la frégate sef llongryfel sydyn.[2]

Daeth Christopher Columbus i gyswllt gydag aderyn y ffrigad wrth basio Cabo Verde oddi ar gorllewin Affrica ar ei fordaith gyntaf ar draws yr Iwerydd yn 1492.[3][4] Yn ei ddyddiadur mae'n nodi ar 29 Medi iddo weld rabiforçado, sef, mewn Sbaeneg cyfoes, "rabihorcado" neu 'cynffon fforchiog'. Defnyddiwyd y term Man-of-War birds gan forwyr Saesneg ar adar ffrifad y Caribî hefyd.

Canfod tir

golygu
 
Baner Ciribati gydag aderyn ffrigad

Defnyddiwyd yr aderyn ffrigad er mwyn canfod tir. Oherwydd gallu'r ffrigar i hedfan am wythnos ar y tro a'i amharodrwydd i wlychu ei blu, gwyddai morwyr cynnar y byddai ffrigad a oedd yn dychwelyd i'r llong heb ganfod tir. Ond, os nad oedd ffrigad yn dychwelyd yna gellid ystyried bod tir wedi ei ganfod. Ceir tystiolaeth anecdotaidd o Polynesia a Micronesia yn y Môr Tawel. Roedd aderyn a fagwyd ar un ynys yn gallu ei chymryd ymaeth gan wybod y byddai'n dychwelyd i'w chynefin, ac felly gellid trosglwyddo neges gydag ef. Ceir tystiolaeth o'r arfer yma yn digwydd ar Ynysoedd Gilbert a Tuvalu.[5]

Mae darlun o'r aderyn ffrigad ar faner Citibari, y wladwarieth o gadwyn o ynysoedd yn y Môr Tawel.

Dolenni

golygu
  1. 1.0 1.1 [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Jobling, James A. (2010). The Helm Dictionary of Scientific Bird Names. London, United Kingdom: Christopher Helm. t. 164. ISBN 978-1-4081-2501-4.
  3. Hartog, J.C. den (1993). "An early note on the occurrence of the Magnificent Frigate Bird, Fregata magnificens Mathews, 1914, in the Cape Verde Islands: Columbus as an ornithologist". Zoologische Mededelingen 67: 361–64. http://www.repository.naturalis.nl/document/149308.
  4. Dunn, Oliver; Kelley, James E. Jr (1989). The Diario of Christopher Columbus's First Voyage to America, 1492–1493. Norman, Oklahoma: University of Oklahoma Press. t. 45. ISBN 0-8061-2384-2.
  5. name="Lewis1994">Lewis, David (1994). We, the Navigators: The Ancient Art of Landfinding in the Pacific. University of Hawaii Press. t. 208. ISBN 978-0-8248-1582-0.
  Safonwyd yr enw Adar ffrigad gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau

golygu