Glangrwyne

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan yng nghymuned Cwm Grwyne, Powys, Cymru, yw Glangrwyne,[1] (Saesneg: Glangrwyney)[2] weithiau Llangrwynau neu Llangrwynau. Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain ardal Brycheiniog, rhwng Crucywel a'r Fenni, bron am y ffin rhwng Powys a Sir Fynwy. Saif ar briffordd yr A40. Y pentref agosaf yw Cwrt-y-gollen, llai na milltir i'r gogledd-orllewin.

Glangrwyne
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.84004°N 3.103541°W, 51.838532°N 3.104204°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO239162 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Enwir y pentref ar ôl Afon Grwyne Fawr. O Aberhonddu llifa Afon Wysg i gyfeiriad y de-ddwyrain drwy Llangynidr a phasio Crucywel i gyrraedd Glangrwyne, lle mae Afon Grwyne Fawr yn ymuno â hi, ac mae'n llifo yn ei blaen o Langrwyne i'r Fenni.

Gorwedd y pentref ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wrth droed y Mynydd Du sy'n codi i'r gogledd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 5 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.