Alun Herbert Davies

Cyfarwyddwr cyntaf Cyngor Llyfrau Cymru (y Cyngor Llyfrau Cymraeg yn wreiddiol)

Cyfarwyddwr cyntaf Cyngor Llyfrau Cymru oedd Alun Herbert Davies (31 Mai 192720 Chwefror 2005) a adnabwyddyd hefyd fel Alun Creunant.[1]

Alun Herbert Davies
Ganwyd31 Mai 1927 Edit this on Wikidata
Llansamlet Edit this on Wikidata
Bu farw26 Hydref 2005 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfarwyddwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Davies (sylwer mai enw mabwysiedig yw'r enw canol Creunant) ar 31 Mai 1927 yn Llansamlet, Morgannwg, yn unig blentyn y Parchedig Thomas Herbert (Creunant) Davies a Hannah Davies (née Thomas). Symudodd y teulu i Bumsaint, sir Gaerfyrddin yn 1936 a chafodd Alun ei addysg uwchradd yn Llanymddyfri. Ar ôl marwolaeth annhymig ei dad aeth i Goleg y Drindod, Caerfyrddin, ac wedi dwy flynedd o wasanaeth milwrol dechreuodd ar ei yrfa fel athro yn Nhregaron cyn symud i Langeitho yn brifathro ifanc yn 1952.

Gyrfa golygu

Yn 1957 priododd Megan (née Davies) o Benrhiw-llan, Ceredigion, athrawes ysgol, a ganed iddynt ddau blentyn, Gwenan (ganwyd 1962) a Deian (ganwyd 1968). Magodd wreiddiau dwfn yng Ngheredigion yn y cyfnod hwn. Ymdaflodd ef (a'i wraig) i fywyd y gymuned leol a gwneud llawer o waith gwirfoddol a dyngarol. Bu'n arbennig o weithgar gydag Urdd Gobaith Cymru (gan wasanaethu yn ei dro fel cadeirydd Cyngor yr Urdd), a chwaraeodd ran bwysig yn ffurfiant a datblygiad Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) gan wasanaethu fel Ysgrifennydd Cyffredinol am bum mlynedd ac fel ymddiriedolwr am ugain mlynedd. Mesur o'i gyfraniad oedd y sylw chwareus a glywid yn aml mai ‘Undeb Cenedlaethol Alun Creunant’ oedd UCAC!

Erbyn hyn, yr oedd yn prysur wneud enw iddo'i hun fel gwr ifanc egnïol a feddai ar bersonoliaeth garismatig, doniau hyrwyddo a chyfathrebu arbennig a sgiliau gweinyddol nid ansylweddol. Dyma'r union ddoniau a'i gwnâi'n ymgeisydd delfrydol ar gyfer swydd trefnydd amser-llawn cyntaf y Cyngor Llyfrau Cymraeg, corff newydd a ddaeth i fod yn 1961 trwy ddygnwch nifer o ymgyrchwyr brwd. Yr amlycaf o'r rhain, a'r un a gydnabyddir yn brif sylfaenydd y corff newydd, oedd Alun R. Edwards, llyfrgellydd eneiniedig sir Aberteifi, ac o'i swyddfa ef yn Llyfrgell Ceredigion yn Aberystwyth y gweinyddwyd y Cyngor nes i'r gwaith gynyddu digon i gyfiawnhau cyflogi trefnydd amserllawn i ddatblygu'r weledigaeth. Dechreuodd Alun Creunant Davies yn y swydd ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1965. Dros yr ugain mlynedd a mwy y bu wrth y llyw (1965-87) tyfodd y Cyngor Llyfrau i fod yn gorff pwysig a dylanwadol ym maes cyhoeddi llyfrau Cymraeg. Perswadiodd yr awdurdodau lleol, ac yn ddiweddarach Gyngor Celfyddydau Cymru, i ariannu'r sefydliad ac yna, fesul tipyn, dechreuwyd ar y gwaith o ddatblygu'r fasnach gyhoeddi yng Nghymru. Ymhlith ei lwyddiannau pennaf gellir nodi sefydlu Canolfan Ddosbarthu i gynnig gwasanaeth cyfanwerthu i gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr Cymru, sefydlu adrannau canolog i gynorthwyo cyhoeddwyr i wella safonau cynhyrchu a chyhoeddi llyfrau (gyda chymorth Meic Stephens, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau ar y pryd) a throi'r Cyngor o fod yn sefydliad a ddarparai wasanaethau yn unig i fod yn gorff a oedd hefyd yn gweinyddu grantiau cyhoeddi ar gyfer gwella ac ehangu'r ddarpariaeth. Yn achos yr olaf, roedd yn ddechrau perthynas â'r Swyddfa Gymreig a'r Llywodraeth a fyddai'n profi'n allweddol mewn cyfnod diweddarach.

Ni fu'r gwaith bob amser yn rhwydd a chafodd gryn wrthwynebiad gan rai carfanau o'r diwydiant o bryd i'w gilydd, yn enwedig pan ddaeth y Cyngor Llyfrau yn gyfrifol am ddosbarthu grantiau cyhoeddi yng Nghymru a bu ysgrifennu carlamus yn y wasg a chryn ymgecru am gyfnod. Er iddo gael ei frifo'n bersonol gan rai o'r ymosodiadau ffyrnicaf, daliodd ei dir a llwyddo i berswadio ymron pawb fod y Cyngor Llyfrau a'r diwydiant ar yr un ochr. Ond roedd ganddo hefyd ei gefnogwyr pybyr, llawer o'r rheiny'n awduron ac yn llyfrgellwyr ac yn ddarllenwyr cyffredin ar draws gwlad. Does dim amheuaeth nad oedd y dyn iawn wrth y llyw ar yr adeg iawn ac roedd ei ysbryd cenhadol a'i egni rhyfeddol yn ddihafal. Pan ddaeth yn bryd iddo ymddeol yn 1987 roedd gan y Cyngor staff o 36, roedd y trosiant blynyddol yn £1.7 miliwn ac roedd y sefydliad yn berchen ar ddau adeilad pwrpasol - Castell Brychan ar y bryn uwchben Aberystwyth, a'r Ganolfan Ddosbarthu ar Ystad Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr. Roedd seiliau cadarn wedi'u gosod ar gyfer datblygu'r gwaith ymhellach.

Ond er cymaint ei gyfraniad i fyd llyfrau a darllen, dewisodd wasanaethu ei gymdeithas a'i genedl mewn llu o feysydd eraill yn ogystal. Bu'n Ustus Heddwch ymroddgar, ac yn Gadeirydd y Fainc yng ngogledd Ceredigion. Bu'n aelod o Lys a Chyngor Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Bu hefyd yn aelod o Fwrdd Datblygu Cymru Wledig. Yr hyn sy'n rhyfeddol yw iddo gyflawni'r dyletswyddau hyn a llawer mwy tra oedd hefyd wrth ei waith pob dydd. Er mor drwm oedd gofynion ei swydd gyflogedig, roedd y rhyddid a'r hyblygrwydd cymharol a fodolai ar y pryd yn fantais i'r holl gyrff a elwai o'i gyngor a'i arweiniad. Roedd galw mawr amdano fel aelod o bwyllgor a hynny'n ddiau am ei fod yn deyrngar, yn gadarnhaol ac yn galonogwr wrth natur. Er ei fod yn barod i ddweud ei farn ac i anghytuno neu wrthwynebu ar dro, nid oedd byth yn anodd er mwyn bod yn anodd: roedd ganddo bob amser rywbeth gwerth ei ddweud ac fe'i dywedai yn gryno, yn huawdl ac yn aml â chryn ddogn o hiwmor.

Ac eithrio'r byd llyfrau, crefydd oedd y maes oedd agosaf at ei galon a does dim amheuaeth na roddodd ei ddoniau oll at wasanaeth ei eglwys, ei enwad a mudiadau crefyddol ehangach. Roedd yn Gristion pybyr, yn flaenor ordeiniedig gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru (er 1956) ac yn bregethwr lleyg grymus a thra phoblogaidd. Daliodd y swyddi uchaf gyda'r enwad yn ganolog: bu'n Llywydd Cymdeithasfa'r De yn 1980, yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1993-94) ac yn drysorydd yr enwad. Gwasanaethodd hefyd ar amryw bwyllgorau a byrddau gan gynnwys y Cyngor Ysgolion Sul, Cymorth Cristnogol (yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig), a Chymdeithas y Beibl. Yn ôl Richard H. Morgan mewn erthygl deyrnged iddo yn y cylchgrawn Cristion: ‘Dyma ddyn oedd yr un mor nerthol yn pregethu'r Gair ym mhulpudau cefn gwlad Ceredigion a thu hwnt ag yr oedd yn amddiffyn buddiannau Cymru yng nghyfarfodydd Cymdeithas y Beibl yn Swindon.’

Tra oedd yn Gyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau llwyddodd i berswadio'r enwadau i sefydlu un cylchgrawn cydenwadol Cymraeg i ddisodli'r cylchgronau enwadol unigol. Nid ar chwarae bach y gwnaed hynny ond, o adnabod y dyn a'i barchu, gwyddai arweinwyr yr enwadau nad diffyg cefnogaeth oedd y bygythiad o du'r Cyngor Llyfrau i atal y cymhorthdal i'r cylchgronau unigol ond ffordd o sicrhau un cyhoeddiad cryfach a mwy ffyniannus a haeddai nawdd cyhoeddus. Trwy ei ymdrechion a'i anogaeth ef yn ddiamau y daeth Cristion i fod. Ac yn ddiweddarach, ac ar ôl ymddeol, chwaraeodd ran allweddol yn nhrefniadau cyhoeddi nifer o gyfrolau pwysig, yn eu plith Y Beibl Cymraeg Newydd yn 1988, ynghyd â'r Argraffiad Diwygiedig yn 2004, Mynegair i'r Beibl Cymraeg Newydd yn 1998 a'r llyfr emynau cydenwadol Caneuon Ffydd yn 2001.[1]

Blynyddoedd olaf golygu

Derbyniodd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1987 ac fe'i hurddwyd yn Gymrawd gan Brifysgol Cymru Aberystwyth yn 2004. Wrth ei gyflwyno ar gyfer y radd MA cyfeiriodd R. Geraint Gruffydd at y ffaith ei fod yn fawr o gorff (un o amryfal enwau'r cylchgrawn Lol arno oedd ‘yr C fawr’) ond ei fod ‘wedi profi'n ddigamsyniol drwy ei weithredoedd drwy gydol ei yrfa ei fod yn ogystal yn meddu ar fawredd gwahanol ac uwch’. Gellid ychwanegu ei fod yn gawr gyda'r addfwynaf a roes oes o wasanaeth i'w wlad a'i genedl.

Bu farw Alun Creunant Davies o'r cancr yn ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ar 26 Hydref 2005 (gwta wyth mis ar ôl ei wraig Megan a fu farw ar 20 Chwefror 2005). Cynhaliwyd ei angladd ar 31 Hydref yng Nghapel y Morfa ac yn Amlosgfa Aberystwyth lle y claddwyd ei lwch. Mae portread ohono gan David Griffiths ym mhencadlys y Cyngor Llyfrau yng Nghastell Brychan, Aberystwyth.[1]

Ffynonellau golygu

  • The Independent, 28 Hydref 2005
  • Meic Stephens, Necrologies. A Book of Welsh Obituaries (2008), 198-201
  • Y Goleuad, 2 Rhagfyr, 2005
  • Barn, Rhagfyr/Ionawr 2005/06
  • Cofio Alun Creunant Davies , 03556Cristion (Ionawr/Chwefror 2006)
  • Adroddiadau Blynyddol y Cyngor Llyfrau Cymraeg/Cyngor Llyfrau Cymru (1965-1987)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "DAVIES, ALUN HERBERT (CREUNANT) (1927-2005), Cyfarwyddwr cyntaf Cyngor Llyfrau Cymru (y Cyngor Llyfrau Cymraeg yn wreiddiol)". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-18.