Anna Fison (Morfudd Eryri)
Ieithydd, bardd ac addysgydd oedd Anna Fison, a adnabyddwyd fel Morfudd Eryri (14 Chwefror 1839 – 21 Chwefror 1920).
Anna Fison | |
---|---|
Ffugenw | Morfudd Eryri |
Ganwyd | 14 Chwefror 1839 Suffolk |
Bu farw | 12 Chwefror 1920 Dyffryn Ardudwy |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ieithydd, athro, llenor |
Priod | David Walter Thomas |
Fe'i ganwyd yn Barningham, Suffolk, yr ieuengaf o ugain o blant Thomas Fison, a'i ail wraig, Charlotte. Derbyniodd ei haddysg yn Llundain, Cheltenham ac ar y cyfandir, ac yna symud i fyw at ei brawd yn Rhydychen. Yn ystod y cyfnod hwnnw y dysgodd ddarllen y Gymraeg, a hynny dan ddylanwad Dr Charles Williams, a oedd yn Brifathro Coleg Iesu ar y pryd. Ymddiddorai yn fawr mewn ieithoedd, ac yn ogystal â Chymraeg, medrai ddarllen Hebraeg, Groeg, Lladin, Eingl-Sacsoneg, Saesneg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg.
Yn 1871, priododd â David Walter Thomas, a oedd yn Ficer yn Eglwys y Santes Ann, Mynydd Llandygái, ger Bethesda, ar y pryd. Tra'n byw yno y dysgodd i siarad Cymraeg, a llwyddodd i'w llwyr feistroli. Enillodd wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei chyfieithiadau, ei chaneuon a'i thraethodau. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn addysg Gymraeg a dywedir bod ganddi ystor o straeon tylwyth teg, ac y gallai eu hadrodd a'u hysgrifennu yn fedrus. Roedd yn cynnal dosbarthiadau nos i chwarelwyr a bu'n rhan o'r ymgais i ddiwygio'r Eisteddfod Genedlaethol yn y 1870au a'r 1880au.
'Cydnabyddir Mrs Thomas yn gyffredinol fel un o brif lenorion ein cenedl,' medd darn amdani yn Papur Pawb yn 1895, 'dywedwn ein cenedl, oherwydd, er nad oes ddyferyn o waed Cymreig, fel y cyfryw, yn rhedeg drwy ei gwythienau, eto y mae ei chydnabyddiaeth helaeth a'n hiaith, ein llenyddiaeth, ein defion, &c., yn hawlio iddi safle anrhydeddus yn mysg goreugwyr llenyddol a gwladgarol y genedl.'
'Nid Cymraes o gyff,' meddai, 'ond Cymraes o galon ydwyf'.
Llyfryddiaeth
golygu- 'FISON, ANNA ‘Morfudd Eryri’ (1839-1920)' yn Y Bywraffiadur Ar-lein
- 'Morfudd Eryri', Perl y plant: Misolyn i blant yr eglwys (Medi 1900)
- 'Morfudd Eryri', Papur Pawb (12 Ionawr 1895), 4.