Mae meicro-organeb, neu feicrob yn organeb o faint meicrosgopig, a all fodoli yn ei ffurf ungell neu fel cytref o gelloedd.

Meicro-organeb
Clwstwr o facteria Escherichia coli wed'i chwyddo 10,000 o weithiau
Mathorganeb byw Edit this on Wikidata
Rhan oconsortiwm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Amheuwyd bodolaeth bywyd meicrobaidd anweledig yn yr hen amser, fel yn ysgrythurau Jain o India'r 6g CC. Dechreuodd yr astudiaeth wyddonol o feicro-organebau o dan y meicrosgop yn y 1670au gan Anton van Leeuwenhoek . Yn y 1850au, canfu Louis Pasteur fod meicro-organebau yn achosi i fwyd bydru. Yn y 1880au, darganfu Robert Koch fod meicro-organebau yn achosi'r afiechydon diciâu, colera, difftheria, ac anthracs.

Gan fod meicro-organebau yn cynnwys y rhan fwyaf o organebau ungellog o bob un o'r tri pharth bywyd gallant fod yn hynod o amrywiol. Mae dau o'r tri pharth Archaea a Bacteria, yn cynnwys meicro-organebau'n unig. Mae'r trydydd parth Eukaryota yn cynnwys yr holl organebau amlgellog yn ogystal â llawer o brotyddion ungellog a phrotosoaid sy'n feicrobau. Mae rhai protosoaid yn perthyn i anifeiliaid a rhai i blanhigion gwyrdd. Mae yna hefyd lawer o organebau amlgellog sy'n feicrosgopig, sef meicro-anifeiliaid, rhai ffyngau, a rhai algâu, ond yn gyffredinol ni chaiff y rhain eu hystyried yn feicro-organebau. 

Gall micro-organebau fodoli mewn cynefinoedd gwahanol iawn, gan fyw yn y pegynnau a'r cyhydedd, yr anialwch, geiserau, creigiau, a'r môr dwfn. Mae rhai wedi'u haddasu i eithafion megis amodau poeth iawn neu oer iawn, eraill i bwysedd uchel, ac ychydig, megis radiodurans Deinococcus, i amgylchedd gydag ymbelydredd uchel. Mae meicro-organebau hefyd yn ffurfio'r meicrobiota a geir ym mhob un o'r organebau amlgellog. Credir fod creigiau Awstralia, sy'n 3.45-biliwn oed ar un adeg yn cynnwys meicro-organebau, y dystiolaeth uniongyrchol gynharaf o fywyd ar y Ddaear.[1][2]

Mae meicrobau'n bwysig mewn diwylliant ac iechyd dynol mewn sawl ffordd, o eplesu bwyd i drin carthion, ac i gynhyrchu tanwydd, ensymau a chyfansoddion bioactif eraill. Mae meicrobau yn arfau hanfodol mewn bioleg fel organebau model ac maent wedi'u defnyddio mewn rhyfela biolegol a bioderfysgaeth. Mae microbau'n rhan hanfodol o bridd ffrwythlon. Yn y corff dynol, meicro-organebau yw'r meicrobiota dynol, gan gynnwys fflora hanfodol y perfedd. Meicrobau yw'r pathogenau sy'n gyfrifol am lawer o glefydau heintus ac, o'r herwydd, dyma darged mesurau hylendid.

Mewn ffuglen golygu

  • Roedd Osmosis Jones, ffilm o 2001, a'i sioe Ozzy Drix, wedi'u gosod mewn fersiwn o'r corff dynol, yn cynnwys meicro-organebau anthropomorffig.

Cyfeiriadau golygu

  1. Tyrell, Kelly April (18 December 2017). "Oldest fossils ever found show life on Earth began before 3.5 billion years ago". University of Wisconsin–Madison. Cyrchwyd 18 December 2017.
  2. Schopf, J. William; Kitajima, Kouki; Spicuzza, Michael J.; Kudryavtsev, Anatolly B.; Valley, John W. (2017). "SIMS analyses of the oldest known assemblage of microfossils document their taxon-correlated carbon isotope compositions". PNAS 115 (1): 53–58. Bibcode 2018PNAS..115...53S. doi:10.1073/pnas.1718063115. PMC 5776830. PMID 29255053. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5776830.

Dolenni allanol golygu