Agor y brif ddewislen

Arfon Uwch Gwyrfai

cwmwd yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Arfon Uwch-Gwyrfai)

Cwmwd yng ngogledd Teyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol oedd Arfon Uwch Gwyrfai (ffurf amgen: Arfon Uwch-Gwyrfai). Gyda'i gymydog Arfon Is Gwyrfai, roedd yn un o ddau gwmwd cantref Arfon.

Arfon Uwch Gwyrfai
Math Cwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Yn ffinio gyda Arfon Is Gwyrfai Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.02°N 4.364°W Edit this on Wikidata

Dynodai afon Gwyrfai y ffin rhwng y ddau gwmwd. Rhed yr afon honno o'i tharddle yn Llyn y Gadair ger Rhyd Ddu i'r gogledd i aberu yn Afon Menai rhwng plwyfi Llanwnda a Llanfaglan. Mae'n gorwedd i'r gorllewin o gwmwd Is Gwyrfai. I'r de ffiniai Uwch Gwyrfai â chantref Eifionydd. I'r de-orllewin cyffyrddai â rhan o gantref Llŷn, ac i'r gorllewin ymagorai'r cwmwd ar Fae Caernarfon.

Yn nhermau daearyddol mae rhan orllewinol y cwmwd yn rhan o benrhyn Llŷn gyda chopaon Yr Eifl (safle bryngaer Tre'r Ceiri) yn ei dominyddu. I'r dwyrain o'r arfordir o fryniau isel, ymestynnai'r cwmwd i mewn i ganol Eryri a llethrau gorllewinol Yr Wyddfa. Mae'n cynnwys y Mynydd Mawr a Chrib Nantlle gyda Dyffryn Nantlle yn gorwedd rhyngddynt.

Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr

Mae gan Uwch Gwyrfai gysylltiadau cryf â'r chwedl Math fab Mathonwy, y bedwaredd o Bedair Cainc y Mabinogi. Yma ceir Dolbebin a Baladeulyn. Oddi ar yr arfordir gyferbyn â Dinas Dinlle ceir safle Caer Arianrhod.

Nodweddir y cwmwd gan ei gysylltiadau crefyddol. Yma ceir eglwys hynafol Clynnog Fawr. Mae eglwsi cynnar eraill yn cynnwys Llanaelhaearn, Llandwrog a Llanwnda. Ar dir Rhedynogfelen yn y plwyf olaf ymsefydlodd y mynachod Sistersiaid cyntaf a ddaeth i Arfon: aethant oddi yno i sefydlu Abaty Aberconwy ar aber afon Conwy.

Roedd y "trefi" neu drefgorddi canoloesol yn cynnwys Elernion (ger Trefor), Pennardd, Eithinog, Dolbebin a Dinlle.

Yn 2006 sefydlodd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn adeilad hen ysgol ragbaratoawl y Presbyteriaid yng Nghlynnog Fawr, lle cynhelir cyfarfodydd a gweithgareddau yn ymwneud â hanes y cwmwd a'r gymdogaeth ehangach. Mae gan y Ganolfan hon bellach gronfa gynyddol ar-lein o ffeithiau hanesyddol ar batrwm wici, sef Cof y Cwmwd [1].

PlwyfiGolygu

FfynonellauGolygu

  • A. D. Carr, 'Medieval Administrative Divisions', yn Atlas of Caernarfonshire (Caernarfon, 1974)