Asghar Leghari yn erbyn Ffederasiwn Pacistan
Achos yr Uchel Lys yn Lahore oedd Asghar Leghari vs. Ffederasiwn Pacistan a gynhaliwyd yn 2015 ac a ddyfarnodd fod y llywodraeth wedi torri Polisi Newid Hinsawdd Cenedlaethol 2012 a'r Fframwaith ar gyfer Gweithredu Polisi Newid Hinsawdd (2014-2030) trwy fethu â chyrraedd nodau a osodwyd gan y polisïau. Mewn ymateb i'r dyfarniad, gwnaed ffurfio Comisiwn Newid Hinsawdd er mwyn helpu Pacistan i gyflawni ei nodau hinsawdd yn ofynnol.[1]
Llifogydd mawr ym Mhacistan yn 2010. | |
Enghraifft o'r canlynol | cyfreitha newid hinsawdd |
---|---|
Gwladwriaeth | Pacistan |
Mae Cyfreitha newid hinsawdd yn derm a ddefnyddir i fframio cynhesu byd-eang fel mater moesegol a gwleidyddol, yn hytrach nag un sy'n amgylcheddol neu'n ffisegol ei natur yn unig. Gwneir hyn trwy gysylltu achosion ac effeithiau newid hinsawdd â chysyniadau cyfiawnder, yn enwedig cyfiawnder amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol. Mae cyfiawnder hinsawdd yn archwilio cysyniadau fel cydraddoldeb, hawliau dynol, hawliau ar y cyd, a materion hanesyddol, megis y cyfrifoldeb dros newid hinsawdd. Gall cyfiawnder hinsawdd gynnwys cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cyrff nad ydynt wedi ymateb i newid hinsawdd, neu gyrff sydd wedi cyfrannu tuag at gynhesu byd eang. Gelwir hyn yn Cyfreitha newid hinsawdd (Climate change litigation). Yn 2017, nododd adroddiad o Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig 894 o gamau cyfreithiol ledled y byd ar yr adeg honno.
Cefndir
golyguYn fyfyriwr y gyfraith yn rhanbarth Punjab ym Mhacistan, bygythwyd cnydau Asghar Leghari a'i gymdogion gan brinder dŵr a stormydd a gafodd eu dwysáu gan newid hinsawdd. Fe ffeiliodd ddeiseb yn dweud bod ei hawliau sylfaenol wedi eu torri trwy esgeuluso polisi newid yn yr hinsawdd.[2]
Ysgrifennodd fod y llywodraeth wedi dangos "diffyg gweithredu, oedi a diffyg difrifoldeb" yn wyneb newid hinsawdd. Roedd Leghari o'r farn bod y diffyg gweithredu hwn yn bygwth diogelwch bwyd, dŵr ac ynni'r genedl.[3]
Cyn yr achos llys, roedd y rhabarthau unigol yn gyfrifol am bolisiau er mwyn atal newid hinsawdd. Fodd bynnag, canfu astudiaeth gan Brifysgol Gwyddorau Rheoli Lahore a'r WWF nad oedd gan unrhyw daleithiau bolisi ar waith.[4]
Penderfyniad
golyguDyfarnwyd bod angen i'r llywodraeth orfodi polisi 2012. Dywedodd y Barnwr Syed Mansoor Ali Shah o’r Uchel Lys fod newid yn yr hinsawdd “yn ymddangos fel y bygythiad mwyaf difrifol y mae Pacistan yn ei wynebu,” a mynnod bod pob adran o'r Llywodraeth yn enwebu person i sicrhau bod y polisïau’n cael eu gweithredu ac i greu rhestr o “bwyntiau gweithredu” erbyn y dydd olaf o 2015. [5] [6]
Fe greodd y penderfyniad hefyd Gomisiwn Newid Hinsawdd, a oedd yn cynnwys cyrff anllywodraethol, arbenigwyr technegol a chynrychiolwyr y gweinidogion er mwyn cadw golwg ar gynnydd y llywodraeth.[7][8]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gill, Anam (2015-11-13). "Farmer sues Pakistan's government to demand action on climate change". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-21.
- ↑ Gill, Anam (2015-11-13). "Farmer sues Pakistan's government to demand action on climate change". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-21.Gill, Anam (2015-11-13). "Farmer sues Pakistan's government to demand action on climate change". Reuters. Retrieved 2021-04-21.
- ↑ Estrin, David (2016). "THE DEVELOPING ROLE OF DOMESTIC COURTS IN STATE CLIMATE RESPONSIBILITIES". LIMITING DANGEROUS CLIMATE CHANGE: THE CRITICAL ROLE OF CITIZEN SUITS AND DOMESTIC COURTS — DESPITE THE PARIS AGREEMENT: 14-16. https://www.jstor.org/stable/resrep15534.8?Search=yes&resultItemClick=true&searchText=Ashgar+Leghari&searchUri=%2Faction%2FdoBasicSearch%3FQuery%3DAshgar%2BLeghari%26acc%3Don%26wc%3Don%26fc%3Doff%26group%3Dnone%26refreqid%3Dsearch%253A87872504f810e931c7932ab70a01262d&ab_segments=0%2Fbasic_search_gsv2%2Fcontrol&refreqid=fastly-default%3A0cca6b1dd7314afe79bde37fc794e2f8&seq=9#metadata_info_tab_contents.
- ↑ Alam, Ahmad Rafay (2015-09-25). "Pakistan court orders government to enforce climate law". DAWN.COM (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-21.
- ↑ Sterman, David. "Pakistani Court Orders Climate Law Enforcement; US Reviews Afghan Withdrawal Plans; Modi Dines With Fortune 500 CEOs". Foreign Policy (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-21.
- ↑ "Leghari v. Federation of Pakistan". Climate Change Litigation (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-30. Cyrchwyd 2021-04-21.
- ↑ Sterman, David. "Pakistani Court Orders Climate Law Enforcement; US Reviews Afghan Withdrawal Plans; Modi Dines With Fortune 500 CEOs". Foreign Policy (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-21.Sterman, David. "Pakistani Court Orders Climate Law Enforcement; US Reviews Afghan Withdrawal Plans; Modi Dines With Fortune 500 CEOs". Foreign Policy. Retrieved 2021-04-21.
- ↑ "Leghari v. Federation of Pakistan". Climate Change Litigation (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-30. Cyrchwyd 2021-04-21."Leghari v. Federation of Pakistan" Archifwyd 2021-04-30 yn y Peiriant Wayback. Climate Change Litigation. Retrieved 2021-04-21.