Badminton, Blaenau Gwent

cymuned ym Mlaenau Gwent

Cymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Badminton. Crëwyd y gymuned o ran o gymuned Cendl yn 2010 dan The Blaenau Gwent (Communities) Order 2010.[1] Mae'n rhannu'i enw gyda Badminton Grove[2], stryd yn yr ardal, a thafarn y Badminton[3] a arferai fod yn glwb Badminton. Mae'n cynnwys y rhan gogleddol o Lynebwy, sef yr ardaloedd maestrefol Eglwys Newydd (Newchurch) a Glyn-coed.

Badminton
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,110 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd267.65 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.791391°N 3.21717°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000925 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAlun Davies (Llafur Cymru)
AS/auNick Smith (Llafur)
Map

Ystadegau:[4]

  • Mae gan y gymuned arwynebedd o 2.67 km².
  • Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 3,110.
  • Yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2020 roedd ganddi boblogaeth o 3,189, gyda dwysedd poblogaeth o 1,191/km².

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Blaenau Gwent (Communities) Order 2010", The National Archives; adalwyd 23 Hydref 2021
  2. "Dod o hyd i gyfeiriad".
  3. "The Badminton". Facebook. Cyrchwyd 2021-11-02.
  4. City Population; adalwyd 23 Hydref 2021