St Illtyd

pentrefan ym Mlaenau Gwent

Pentrefan yng nghymuned Llanhiledd, bwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw St Illtyd.[1] (Ymddengys nad oes enw Cymraeg.)[2] Saif yn agos at Aber-bîg ar y ffordd fynyddig rhwng Pont-y-pŵl ac Abertyleri ym Mlaenau Gwent. Gorwedda tua 1,200 troedfedd uwchben lefel y môr. NP13 2AY yw ei gôd post. Cyn 1974 safodd o fewn ffiniau hynafol Sir Fynwy.

St Illtyd
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7106°N 3.1332°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO218020 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAlun Davies (Llafur Cymru)
AS/auNick Smith (Llafur)
Map

Mae wedi'i lleoli 1.26 milltir (2.03 km) i'r de o Abertyleri a 10.56 (16.99 km) i'r gogledd o Gasnewydd. Mae'r B4471 yn agos at y pentref.

Yn 2011, poblogaeth y gymuned ehangach, yn cynnwys Aber-bîg a Llanhiledd, oedd 4,797.[3]

Daearyddiaeth

golygu

Mae bythynnod, ffermydd a hen ffermydd, tafarn a hen dafarn, hen fwyngloddiau a cheunant a throsglwyddydd teledu i'w gweld yn ac o gwmpas y pentrefan.

Mae sawl ymdrech wedi'i wneud i agor mwynglawdd tywodfaen yn yr ardal gerllaw ers 2006. Roedd rhain yn amhoblogaidd iawn.[4]

Mae'r pentrefan mwyaf adnabyddus am Eglwys Sant Illtyd, a godwyd, yn ôl pob tebyg, yn y 3g gan fynachod Sistersaidd o Lanfihangel Llantarnam. Mae haneswyr yn credu iddi gael ei hadeiladu ar adfeilion eglwys o gyfnod cynharach - tua 863 OC. Ni chafodd yr egwys ei henwi ar ôl St Illtyd tan tua 1754.

Cyfeiria Llyfr Du Caerfyrddin at "Llan Heledd" neu "Llan Helet" (Heledd oedd chweched neu seithfed tywysoges Powys). Yn ôl yr hanesydd T.D. Breverton, yn ystod yr 16eg a'r 17eg ganrif, enw plwyf Llanhiledd oedd Llanheledd Forwyn ac mae'r cysgeriad hyn wedi parhau yn enw'r lle.

Hyd 1911, St Illtyd oedd eglwys plwyf Llanhiledd, sydd nawr yn Esgobaeth Mynwy, a pharhaodd fel addoly tan 1975. Ers hynny, mae'r eglwys wedi'i gadael yn wag. Mae'r mynwent ar gau ar gyfer claddedigaethau, ond mae'n parhau yng ngofal yr Eglwys yng Nghymru. Cafodd yr adeilad ei ddatgyseru ym 1985 oherwydd ei chyflwr pydredig, ond adnewyddwyd hi fel heneb hanesyddol ym 1990. Heddiw, mae Ffrindiau St Illtyd[5] yn gofalu am adeilad yr eglwys gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Trafnidiaeth

golygu

Mae'r pentrefan wedi'i lleoli 1.8 milltir o orsaf reilffordd Llanhiledd, lle mae trenau'n teithio rhwng Glynebwy a Chaerdydd Canolog. Mae yna gynlluniau i ddechrau gawasnaethau i Gasnewydd ym mis Rhagfyr 2021.

Yng nghanol Brynithel, tua milltir i ffwrdd o St Illtyd, mae preswylwyr yn cael eu gwasanaethu gan fws rhwng Chwe Chloch ac Abertyleri. Mae arhosfan y Clwb Rygbi yn darparu cysylltiadau gan Stagecoach yn Ne Cymru:[6]

  • 62 (Glynebwy-Cwmbrân)
  • X15 (Casnewydd-Bryn-mawr)
  • X1 (Cwmbrân-Bryn-mawr a Pont-y-pŵl)
  • 95B (Trecelyn)

Llywodraeth

golygu

Mae'r pentrefan yn cael ei gwasanaethu gan ward etholiadol Llanhiledd. Mae Norman Lee Parsons (annibynnwr), Hedley McCarthy (Llafur), a Joanne Collins (annibynnwr), yn ei gynrychioli.[7]

Alun Davies (Llafur) yw Aelod o'r Senedd yr ardal[8], a Nick Smith (Llafur) yw ei Aelod Seneddol.[9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 26 Tachwedd 2021
  2. Enwau Cymru
  3. "Custom report - Nomis - Official Labour Market Statistics". www.nomisweb.co.uk. Cyrchwyd 2021-11-23.
  4. "Residents face new battle over Abertillery beauty spot". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-23.
  5. "Friends of St Illtyd". www.illtyd.co.uk. Cyrchwyd 2021-11-23.
  6. "Brynithel – bustimes.org". bustimes.org. Cyrchwyd 2021-11-24.
  7. "Cyfeiriadur Cynghorwyr". Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Cyrchwyd 2021-11-23.
  8. "Alun Davies MS". senedd.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-24.
  9. "Nick Smith MP, Blaenau Gwent". TheyWorkForYou (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-24.