Cendl

Cymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Cendl[1] (Saesneg: Beaufort).[2] Saif ym mhen uchaf Cwm Ebwy Fawr, ac erbyn hyn mae'n un o faestrefi Glynebwy. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 10,328.

Cendl
Carno Reservoir - geograph.org.uk - 658800.jpg
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,866 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd343.88 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.797°N 3.206°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001043 Edit this on Wikidata
Cod postNP23 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAlun Davies (Llafur Cymru)
AS/auNick Smith (Llafur)
Map

Daw'r enw Cymraeg o enw Edwards Kendall, a gymerodd brydles yno yn 1782 ar gyfer gwaith haearn. Yn ddiweddarach, daeth Crawshay Bailey yn berchennog y gwaith yma. Daeth Capel Annibynnol Carmel yn adnabyddus. Roedd hwn wedi ei gynllunio gan y Parchedig Thomas Thomas, Abertawe, a bu Thomas Rees yn weinidog arno.

Theatr gymunedol Cendl

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).[3][4]

Y GymraegGolygu

Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.1% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 301 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 311 o bobl yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 261 o bobl yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 11.7% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[5]


Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cendl (pob oed) (3,866)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cendl) (301)
  
8.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cendl) (3526)
  
91.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Cendl) (684)
  
42.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Rhagfyr 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "The Changing Face of Wales - Welsh Speakers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-01. Cyrchwyd 2013-03-24.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]