Ieithoedd Indo-Ariaidd
Mae'r Ieithoedd Indo-Ariaidd yn deulu o ieithoedd sy'n perthyn i'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd a'r uwch-deulu o Ieithoedd Indo-Iraneg. Fe'i siaredir yn bennaf ar is-gyfandir India.
Y prif ieithoedd Indo-Ariaidd yw:
- Sansgrit*, iaith lenyddol hynafol India
- Hindi, prif iaith swyddogol India heddiw, a siaredir fel iaith gyntaf yn y gogledd yn bennaf
- Wrdw, prif iaith Pacistan a Mwslemiaid India
- Bengaleg, iaith Gorllewin Bengal a Bangladesh
- Marathi, iaith swyddogol talaith Maharashtra yn India.
- Rajasthani, iaith swyddogol talaith Rajasthan yn India.
- Konkaneg, iaith Goa ac ardaloedd cyfagos yn India.
- Pwnjabeg, iaith y Punjab
- Cashmireg, iaith ardal Cashmir
- Gwjarati, iaith talaith Gujarat yng ngogledd-orllewin India
- Nepaleg, prif iaith Nepal a siaredir hefyd yn ardaloedd Sikkim a Darjeeling
- Sinhaleg, prif iaith Sri Lanca (Ceylon)
Mae'r ieithoedd llai yn cynnwys:
- Chhattisgarhi, prif iaith talaith Indiaidd Chhattisgarh
- Sindhi, iaith Sindh
Siaredir yr ieithoedd yma gan gyfanswm o dros 900 miliwn o bobl ar yr is-gyfandir.