Bhujangasana (Y Cobra)

asana mewn ioga hatha

Asana, neu osgo'r corff o fewn ymarferion ioga yw Bhujangasana (Sansgrit: भुजंगासन; IAST: Bhujaṅgāsana) neu'r Cobra[1]. Gelwir y math hwn y osgo yn gefnblyg ac yn asana lledorwedd.

Bhujangasana
Enghraifft o'r canlynolasanas ymestyn Edit this on Wikidata
Mathasanas lledorwedd, ioga Hatha Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fe'i ceir o fewn ioga hatha ac ioga modern fel ymarfer corff[2] a chaiff ei berfformio'n aml mewn cylch o asanas yn Surya Namaskar (Cyfarchiad i'r Haul) fel dewis arall yn lle Urdhva Mukha Svanasana (Ci ar i Fyny).

Geirdarddiad golygu

 
Mae'r osgo yma wedi'i enwi oherwydd ei fod yn debyg i gobra gyda'i gwfl wedi'i godi

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit भुजंग bhujaṅga, "neidr" neu "gobra" a आसन āsana, "osgo" neu " siap y corff". Awgrymir y tebygrwydd rhwng cobra gyda'i chwfl wedi'i godi a siap yr asana hwn. Disgrifiwyd Bhujangasana yn y testun ioga hatha yn y 17g a elwir yn <a href="https://en.wikipedia.org/wiki/Gheranda_Samhita" rel="mw:ExtLink" title="Gheranda Samhita" class="cx-link" data-linkid="20">Gheranda Samhita</a>, pennod 2, adnodau 42-43. Yn y 19g Sritattvanidhi, mae'r asana'n cael ei enwi'n Sarpasana, sy'n golygu 'y Sarff'.[3]

 
Amrywiad, gyda chefnblyg llai eithafol

Mae'r osgo yma'n dilyn yr Adho Mukha Svanasana (Ci ar i Lawr). Rhoddir y cledrau o dan yr ysgwyddau, gan wthio i lawr nes bod y cluniau'n codi ychydig. Mae cefnau'r traed yn gorffwys ar y llawr, y coesau'n ymestyn; mae trem yr iogi yn syth ymlaen. Ar gyfer yr asana llawn, mae'r cefn yn fwaog (fel bwa) nes bod y breichiau'n syth, a'r canolbwyntio, y tro hwn, yn cael ei gyfeirio'n syth i fyny neu ychydig yn ôl. Mae'r coesau'n aros ar y llawr, yn wahanol i Urdhva Mukha Shvanasana (Ci ar i Fyny)[4]

Mae Bhujangasana yn rhan o'r dilyniant o asanas ioga mewn rhai mathau o Surya Namaskar, Cyfarchiad i'r Haul.[5]

Amrywiadau golygu

 
Asana'r Sffincs, amrywiad haws, ac un o asanas Ioga Yin
 
Padma bhujangasana

Amrywiad haws yw Asana'r Sffincs, a elwir weithiau'n Salamba Bhujangasana (षलम्ब भुजंगासन),[6] lle mae'r eliniau'n (forearms) yn gorffwys ar y llawr, a'r asgwrn cefn yn fwy gwasatd, gyda llai o dro.[7] Fe'i defnyddir o fewn Ioga Yin, naill ai gyda'r eliniau ar y ddaear neu gyda'r breichiau wedi'u sythu.[8]"Sphinx & Seal". Yin Yoga. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2019.</ref>

Gall uwch-ymarferwyr blygu'r coesau i mewn i Padmasana (Safle Lotws).[8]

Gellir addasu osgo'r corff, er enghraifft, yn ystod beichiogrwydd, trwy osod blanced o dan y pelfis.[8]

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. YJ Editors (28 Mai 2007). "Cobra Pose". Yoga Journal.
  2. How To Do Cobra Pose https://www.verywell.com/cobra-pose-bhujangasana-3567067
  3. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace (arg. 2nd). Abhinav Publications. t. 71. ISBN 81-7017-389-2.
  4. Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga. Schocken. tt. 107–108, 396–397. ISBN 0-8052-1031-8.
  5. "Surya Namaskara". Divine Life Society. 2011. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2019.
  6. "Sphinx Pose -Salamba Bhujangasana". Ekhart Yoga. Cyrchwyd 4 Chwefror 2019.
  7. YJ Editors (28 Awst 2007). "Sphinx Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 4 Chwefror 2019. Sphinx Pose is the infant of backbends.
  8. 8.0 8.1 8.2 "Sphinx & Seal". Yin Yoga. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2019."Sphinx & Seal". Yin Yoga. Retrieved 26 July 2019.