Blanche Thebom
Roedd Blanche Thebom (19 Medi, 1915 - 23 Mawrth, 2010[1]) yn Mezzo-soprano operatig Americanaidd, athrawes llais, a chyfarwyddwr opera. Roedd hi'n rhan o'r don gyntaf o gantorion opera Americanaidd a gafodd yrfaoedd rhyngwladol hynod lwyddiannus.[2] Yn ei gwlad ei hun roedd ganddi gysylltiad hir â'r Opera Metropolitan yn Ninas Efrog Newydd a barhaodd 22 mlynedd.[3]
Blanche Thebom | |
---|---|
Thebom ym 1954 | |
Ganwyd | 19 Medi 1915 Monessen |
Bu farw | 23 Mawrth 2010 San Francisco |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, cyfarwyddwr opera, athro, ysgrifennydd, actor, cyflwynydd sioe siarad |
Cyflogwr | |
Arddull | opera |
Math o lais | mezzo-soprano, contralto |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Bywyd ac addysg gynnar
golyguYn enedigol o Monessen, Pennsylvania, ym 1915, roedd Thebom yn ferch i rieni o Sweden a oedd wedi mewnfudo i'r Unol Daleithiau.[4] Cafodd ei magu yn Canton, Ohio, lle bu’n astudio bale ac yn weithgar fel cantores yng nghôr ei heglwys. Parhaodd i gymryd gwersi bale i mewn i'w 40au.[5] Cwblhaodd goleg busnes ac yna cymerodd swydd fel ysgrifennydd mewn cwmni diwydiannol yn Canton.[1]
Ym 1938, wrth weithio fel ysgrifennydd, teithiodd Thebom gyda'i rhieni i Sweden. Yn ystod y daith mewn cwch o America i Ewrop, clywodd y pianydd Kosti Vehanen hi'n canu yn lolfa'r llong. Vehanen oedd cyfeilydd rheolaidd a hyfforddwr lleisiol Marian Anderson, a gwnaeth talent Thebom argraff fawr arno. Trefnodd i Thebom mynd yn ddisgybl i Giuseppe Boghetti yn Efrog Newydd, a oedd yn athro llais Anderson. Cafodd hi hefyd ei llofnodi gyda'r rheolwr talent Sol Hurok a oedd hefyd yn rheoli gyrfa Anderson.[6] Ar ôl marwolaeth Boghetti ym mis Gorffennaf 1941, astudiodd gyda mezzo-sopranos yr Opera Metropolitan Edyth Walker a Margarete Matzenauer yn Ninas Efrog Newydd.[7][8]
Gyrfa gynnar a pherfformio yn yr Opera Metropolitan
golyguDaeth cyfle amlwg cyntaf Thebom fel perfformiwr ym mis Tachwedd 1941 pan wnaeth ei hymddangosiad cyntaf fel unawdydd gyda Cherddorfa Philadelphia a Chlwb Glee Prifysgol Pennsylvania o dan yr arweinydd Eugene Ormandy yn yr Academi Gerdd yn Philadelphia.[6] Yna treuliodd y tair blynedd nesaf yn perfformio mewn cyngherddau a datganiadau ledled yr Unol Daleithiau. Canodd hefyd yn yr Academi Gerdd ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf mewn opera proffesiynol ar 28 Tachwedd 1944; yn portreadu rôl Brangäne yn Tristan und Isolde gan Wagner ar gyfer cwmni taith yr Opera Metropolitan. Atgyfododd y rôl honno am ei hymddangosiad cyntaf ar lwyfan Efrog Newydd y Tŷ Opera Metropolitan ar y 14 Rhagfyr canlynol.[8]
Canodd Thebom gyda’r Opera Metropolitan am y 22 tymor nesaf, gan roi cyfanswm o 357 o berfformiadau gyda’r cwmni yn ystod ei gyrfa. Ei rôl amlaf yn y Met oedd Amneris yn Aida gan Giuseppe Verdi; rhan a chwaraeodd mewn 80 o berfformiadau gyferbyn ag Aida yn cael ei phortreadu gan gantoresau fel Gloria Davy, Florence Kirk, Zinka Milanov, Herva Nelli, Delia Rigal, Antonietta Stella, Renata Tebaldi, a Ljuba Welitsch ymhlith eraill.[3] Roedd hi hefyd yn rhagori yn operâu Wagner yn y Met, gan bortreadu rolau Erda yn Das Rheingold, Magdalene yn Die Meistersinger von Nürnberg, Ortrud yn Lohengrin, Venus yn Tannhäuser, Waltraute yn Götterdämmerung, a Fricka yn Die Walküre a Das Rheingold.
Ym 1951 ymddangosodd Thebom fel Dorabella yn y perfformiad cyntaf o gynhyrchiad Saesneg poblogaidd Alfred Lunt Così fan tutte, Mozart yn y Met. Ymddangosodd hefyd mewn dau berfformiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn y Met; yn canu rolau Baba y Twrc yn The Rake's Progress (1953) gan Igor Stravinsky ac Adelaide yn Arabella Richard Strauss (1955).[3] Ymhlith y rolau eraill a pherfformiodd yn y Met oedd Adalgisa yn Norma, Azucena yn Il trovatore, Dalila yn Samson et Dalila, Eboli yn Don Carlos, Geneviève yn Pelléas et Mélisande, Giulietta yn Les contes d'Hoffmann, Herodias yn Salome, Klytämnestra yn Elektra, Laura Adorno yn La Gioconda, Marfa yn Khovanshchina, Marina yn Boris Godunov (1956),[9] yr Hen Farwnes yn Vanessa, Orlofsky yn Die Fledermaus, a'r rolau teitl yn Carmen a Mignon. Ei pherfformiad olaf yn y Met oedd fel yr Iarlles yn Pikovaya dama gan Tchaikovsky ym 1967. Dyna'r unig gynhyrchiad iddi ymddangos yn y Tŷ Opera Metropolitan newydd oedd wedi ei godi yng Nghanolfan Lincoln.[10]
Gwaith perfformio amgen
golyguTu allan i'r Met, roedd Thebom yn perfformio'n aml fel artist gwadd gyda chwmnïau opera ledled yr Unol Daleithiau a thramor. Ym 1946 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y llwyfan yn Chicago fel Brangäne gyda Chwmni Opera Chicago. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf gydag Opera San Francisco (SFO) y flwyddyn ganlynol yn canu Amneris i Aida Stella Roman. Fe’i clywyd yn aml yn San Francisco trwy 1963; yn arbennig yn portreadu rôl y Fam Marie ym première yr Unol Daleithiau o Dialogues des Carmélites gan Poulenc i Opera San Francisco ym 1957. Rolau eraill a gyflawnodd yn San Francisco oedd Brangäne, Cherubino yn Le nozze di Figaro, Carmen, Dalila, Fricka, Giulietta, Laura Adorno, Marina, Octavian yn Der Rosenkavalier, ac Orfeo yn Orfeo ed Euridice.[11] Canodd Dalila hefyd i Samson Giovanni Martinelli i Gwmni Opera Fawreddog Ddinesig Philadelphia ym 1950.[12]
Gwnaeth Thebom ei ymddangosiad cyntaf yn Ewrop ym 1950 fel Dalila yn Opera Brenhinol Sweden. Dychwelodd i Opera Brenhinol Sweden sawl gwaith, gan ganu rolau fel Amneris, Eboli ac fel Elisabeth yn Tannhäuser.[4] Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn y DU gyda Gŵyl Opera Glyndebourne yn Haf 1950 fel Dorabella.[8] Ym 1957 aeth i Lundain i ganu Dido yng nghynhyrchiad canmoladwy 1957 o Les Troyens gan Berlioz yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden. Dyma'r tro cyntaf i'r opera hon gael ei llwyfannu gan gwmni proffesiynol. Yn y cynhyrchiad hwn gwnaeth ddefnydd effeithiol o'i gwallt hir, gan ganiatáu iddo ddisgyn i lawr ei chefn wrth iddi esgyn i'r goelcerth angladdol ar y diwedd.[13]
Ym 1957, pan oedd y Rhyfel Oer ar ei anterth daeth Thebom yr Americanwr cyntaf i berfformio yn y Theatr Bolshoi ym Moscow, lle portreadodd rôl y teitl mewn rhediad tair wythnos o Carmen.[5] Yn fuan wedi hynny rhoddodd daith gyngerdd o amgylch Rwsia. Hefyd rhoddodd berfformiadau yng Ngwlad Roeg, gan gynnwys cyngerdd o flaen y Parthenon gyda miloedd yn bresennol. Ym 1960 ymddangosodd yn Opera Dallas fel Ruggiero mewn cynhyrchiad enwog o Alcina Handel, gyda Joan Sutherland yn rôl y teitl.[3] Ym 1964, portreadodd Thebom yr Iarlles Geschwitz yn Lulu Alban Berg ar gyfer Grŵp Opera Boston. Fe bortreadodd hefyd y Tywysog Orlofsky (1965 a 1967) a Brangäne (1967) gyda Chwmni Opera Fawreddog Philadelphia.[14]
Gyrfa wedi'r opera
golyguAr ôl iddi ymddeol o'r Opera Metropolitan ym 1967, ni ymddangosodd Thebom ar y llwyfan opera mwyach. Fodd bynnag, roedd hi'n canu o bryd i'w gilydd mewn cyngherddau a datganiadau; yn arbennig yn ymddangos mewn sawl datganiad gydag Eleanor Steber. Ym mis Mehefin 1967 fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr yr adran opera yn Theatr Ddinesig Atlanta.[15] Pan methdalodd y sefydliad hwnnw'n ym 1969, sefydlodd ei chwmni opera ei hun: Atlanta's Southern Regional Opera.[16] Parhaodd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol y cwmni hwnnw tan 1973 pan gaeodd.[3]
Wrth weithio yn Atlanta, dechreuodd Thebom weithio'n fel athrawes llais. Ymddangosodd hefyd mewn adfywiadau theatr haf o sioeau cerdd Broadway yn Atlanta yn portreadu rolau fel y Fam Abates yn The Sound of Music. Yn 1973 symudodd i Little Rock i ymuno â'r gyfadran gerddoriaeth ym Mhrifysgol Arkansas. Bu’n dysgu canu a bu’n gyfarwyddwr y rhaglen opera yno tan Wanwyn 1980 pan gafodd ei phenodi’n gyfarwyddwr y rhaglen opera ym Mhrifysgol Daleithiol San Francisco.[3]
Wrth ddysgu ym Mhrifysgol Daleithiol San Francisco ac yn ddiweddarach yn breifat, gwasanaethodd Thebom fel cadeirydd Clyweliadau Cyngor Cenedlaethol Opera Metropolitan Rhanbarth y Môr Tawel am bymtheng mlynedd. Ar ddiwedd yr 1980au cydsefydlodd Raglen Hyfforddi Celfyddydau Opera i Gorws Merched San Francisco gydag Elizabeth Appling. Parhaodd i arwain y sefydliad hwnnw hyd at ddechrau'r 2000au. Yn ddiweddarach daeth nifer o'r merched a fynychodd y rhaglen yn gantorion opera proffesiynol.[4] Gwasanaethodd Thebom hefyd ar fwrdd yr Opera Metropolitan rhwng 1970-2008,[3] ac roedd yn farnwr ar lefel genedlaethol pasiant Miss America.[5]
Marwolaeth
golyguBu farw Blanche Thebom o fethiant y galon yn ei chartref yn San Francisco yn 94 oed.[17]
Recordiadau
golygu- Blanche Thebom, mezzo-soprano: Arias o Don Carlos, La Gioconda, Tristan und Isolde, Das Rheingold, Die Walküre, Götterdämmerung a Samson et Dalila ; caneuon Hugo Wolf, a Lieder eines fahrenden Gesellen gan Gustav Mahler. Preiser 89559 CD
- Samson et Dalila (Camille Saint-Saëns), 1956, Set Svanholm, Blanche Thebom, Sigurd Björling, Herbert Sandberg, Cerddorfa a Chorws Opera Brenhinol Sweden, Caprice; CAT: CAP 22054
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "In Memoriam: Blanche Thebom(1915-2010)". San Francisco Classical Voice. Cyrchwyd 2021-02-27.
- ↑ Fox, Margalit (2010-03-29). "Blanche Thebom; was Met Opera star". Boston.com. Cyrchwyd 2021-02-27.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 "Blanche Thebom, 94, Standard Bearing Met Mezzo Who Sang at Company for Twenty-Two Seasons, Has Died". www.operanews.com. Cyrchwyd 2021-02-27.[dolen farw]
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "Blanche Thebom: mezzo soprano". ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 2021-02-27.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Blanche Thebom". The Telegraph. Cyrchwyd 2021-02-27.
- ↑ 6.0 6.1 "Former Secretary Scores Hit During Vocal Debut In Phila". Reading Eagle. 8 Tachwedd 1941.
- ↑ Anne McKeever (October 19, 1941). "Moss Thebom Scores With Local Audience". The Telegraph-Herald.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 Elizabeth Forbes (30 Ebrill 2010). "Blanche Thebom: Mezzo-soprano lauded for her interpretations of Wagner". The Independent. Cyrchwyd 27 Chwefror 2021.
- ↑ Opera News, Volume XX: Number 18: March 5, 1956
- ↑ "Metropolitan Opera Archives", archives.metoperafamily.org/archives, http://archives.metoperafamily.org/archives/frame.htm, adalwyd 2021-02-28
- ↑ "Blanche Thebom". San Francisco Opera Archives. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-19. Cyrchwyd 2021-02-28.
- ↑ New York Public Library for the Performing Arts: Folder: Philadelphia Civic Grand Opera Company
- ↑ "Famed Canton opera singer Blanche Thebom dies". CantonRep.com. 26 Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mawrth 2010. Cyrchwyd 27 Chwefror 2021.
- ↑ Free Library of Philadelphia: Bound: Philadelphia Grand Opera Company 1955-1974
- ↑ "Opera Star Gets Position". The Windsor Star. June 21, 1967.
- ↑ "Opera Not Dead In Atlanta, Blanche Thebom Declares". Waycross Journal-Herald. 6 Mawrth 1969. Cyrchwyd 27 Chwefror 2021.
- ↑ "Blanche Thebom dies at 94; operatic mezzo-soprano". Los Angeles Times. 30 Mawrth 2010. Cyrchwyd 27 Chwefror 2021.