Roedd Zinka Milanov (17 Mai 190630 Mai 1989) yn soprano operatig ddramatig a anwyd yng Nghroatia a gafodd yrfa fawr wedi canolbwyntio ar yr Opera Metropolitan yn Ninas Efrog Newydd. Ar ôl gorffen ei haddysg yn Zagreb, gwnaeth Milanov ei pherfformiad cyntaf ym 1927 yn Ljubljana fel Leonora yn Il trovatore gan Giuseppe Verdi. Rhwng 1928 a 1936, hi oedd prif soprano Theatr Genedlaethol Croatia. Ym 1937, perfformiodd Milanov yn yr Opera Metropolitan am y tro cyntaf, lle parhaodd i ganu hyd 1966. Bu hefyd yn perfformio fel canwr cyngerdd a bu yn hyfforddwr ac athro lleisiol. Mae Milanov yn chwaer i'r cyfansoddwr a'r pianydd Božidar Kunc.[1]

Zinka Milanov
Ganwyd17 Mai 1906 Edit this on Wikidata
Zagreb Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1989 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Croatia Croatia
Galwedigaethcanwr opera, athro cerdd, canwr Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd hi yn Zagreb, Croatia fel Zinka Kunc, astudiodd gyda'r soprano Wagneraidd, Milka Ternina a'i chynorthwyydd Marija Kostrenčić. Astudiodd hefyd ym Milan gyda Carpi ac yn Berlin gyda Stückgolt. Ar 29 Hydref 1927, gwnaeth ei ymddangosiad operatig fel Leonora yn Il Trovatore gan Giuseppe Verdi yn Ljubljana, Slofenia, yn 21 oed.[2]

Ar ôl ymddangosiad cynnar yn Dresden (Tachwedd 5, 1928, hefyd fel Leonora), nid oedd ei hathrawes, Ternina, wedi plesio a'i pherfformiad a dechreuodd llawer o waith i berffeithio ei thechneg. Perfformiodd yn Zagreb a Ljubljana bron yn ddieithriad am y chwe blynedd nesaf. Yn ddiweddarach daeth yn aelod o'r Theatr Almaeneg Newydd ym Mhrâg, lle canwyd pob perfformiad mewn Almaeneg. Fe'i darganfuwyd yno gan Bruno Walter, a argymhellodd hi i Arturo Toscanini am berfformiad o Requiem Verdi yn Salzburg.

Ym 1937, ymddangosodd y soprano am y tro cyntaf yn yr Opera Metropolitan, unwaith eto fel Leonora. Bryd hynny, mabwysiadodd yr enw Milanov, enw llwyfan ei hail ŵr a oedd yn actor. Yn ôl Milanov ei hun, nid oedd "Kunc" yn ddigon "hudol" i'r Opera Metropolitan. Yn ôl erthygl Opera News yn 2004 “Zinka Takes Off”, ystyriwyd bod y newid enw yn angenrheidiol gan fod rheolwyr y Met yn ofni'r hyn oeddent yn ei ragweld byddai'r ynganiad Americanaidd o'i henw (yr ynganiad Croateg yw [zîːŋka kûnt͡s])

Ym 1940, roedd Milanov yn un o'r unawdwyr a ymddangosodd mewn perfformiad radio o Missa Solemnis gan Beethoven, ynghyd â Jussi Bjoerling (tenor), Alexander Kipnis (bas), Bruna Castagna (mezzo), a Chôr Westminster gyda Toscanini yn arwain Cerddorfa Symffoni NBC.

Ym 1947, gadawodd y Met pan briododd, am y trydydd tro, i'r cadfridog a'r diplomydd o Iwgoslafia, Ljubomir Ilić. Ar ôl priodi aeth i fyw i Iwgoslafia. Roedd hi ar frig ei phwerau artistig a lleisiol pan wnaeth hi ei hymddangosiad gyntaf yn y Teatro alla Scala fel Tosca ym 1950. Dychwelodd Milanov i'r Opera Metropolitan yr un flwyddyn, dan wahoddwyd Rudolf Bing yn ei flwyddyn gyntaf yno fel rheolwr cyffredinol.[3]

Rhoddodd ei pherfformiad terfynol ym 1966 ar noson gloi'r hen Dŷ Opera Metropolitan. Ar ôl gweithio fel athro llais wrth dal i berfformio, fe wnaeth Milanov ymroi i addysgu ar ôl iddi ymddeol. Ymhlith ei disgyblion roedd Betty Allen, Grace Bumbry, Christa Ludwig, Regina Resnik, Dubravka Zubovic a Milka Stojanovic. Recordiodd yn helaeth o'r 1940au hyd at y 1960au. Roedd ei llais yn addas iawn i operâu Eidalaidd fel rhai Verdi, Ponchielli, Puccini a'r cyfansoddwyr verismo. Bu farw yn Ysbyty Lenox Hill ym Manhattan ar 30 Mai 1989 yn dilyn strôc, yn 83 mlwydd oed.[4]

Disgyddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

Ffynonellau
  • E.K. Einstein jr: ‘Zinka Milanov: a Discography’, Grand Baton, 5/2 (1968), 7–16, 21
  • R. Jacobson: ‘The Most Beautiful Voice in the World’, Opera News, 41/22 (1976–7), 11–15
  • L. Rasponi: The Last Prima Donnas (New York, 1982), tud 216–22 ISBN 0-394-52153-6
  • A. Blyth: ‘Zinka Milanov: an Appreciation’, Opera, 40 (1989), tud 929–32
  • P. Jackson: Saturday Afternoons at the Old Met (New York, 1992)