Bycanîr

(Ailgyfeiriad o Bycaniriaid)

Enw ar fôr-ladron neu breifatiriaid a oedd yn ysbeilio llongau a gwladfeydd Ymerodraeth Sbaen yn y Byd Newydd yn ystod ail hanner yr 17g yw bycanîr. Daethant o Loegr a Chymru, Ffrainc, a'r Iseldiroedd, gwledydd a oedd yn elynion Sbaen, a buont yn dwyn cyrchoedd ar y Sbaenwyr yn y Caribî ac ar hyd arfordir gorllewinol De America. Daw'r enw yn y bôn o'r gair Ffrangeg boucan, sef gridyll a ddefnyddiwyd ar longau i sychu cig mewn mwg. Poblogeiddiwyd yr enw gan Bucaniers of America (1684), cyfieithiad Saesneg o'r llyfr Iseldireg De Americaensche zee-rovers (1678) gan Alexandre Exquemelin. Yn ystod eu hoes eu hunain, cawsant eu galw'n privateers gan amlaf yn Saesneg, yn flibustiers yn Ffrangeg, yn zeerovers yn Iseldireg, ac yn corsarios yn Sbaeneg. Yn yr oes hon, roedd yr union wahaniaethau rhwng môr-ladron, preifatiriaid, ac anturiaethwyr yn aneglur. Fel rheol, nid oedd bycaniriaid yn meddu ar gomisiynau yn ôl cyfraith y môr, ac felly nid oeddynt yn breifatiriaid o'r un fath â Syr Francis Drake ac eraill o'r 16g a oedd yn gapteiniaid ar herwlongau gydag awdurdod llywodraethol. Er gwaethaf, cefnogwyd eu cyrchoedd ar y cyfan gan eu llywodraethau priodol, a gellir eu gwahaniaethu felly oddi ar fôr-ladron y 18g.

Bycanîr
Darluniad ystrydebol o fycanîr gan Howard Pyle (1905), o'r gyfrol Book of Pirates.[1]
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathmôr-leidr Edit this on Wikidata

Ymddangosodd y bycaniriaid cyntaf yng ngorllewin Hispaniola yn nechrau'r 17g. Helwyr Ffrengig oeddynt, a gawsant eu gyrru i ysbeilio wrth i'r Sbaenwyr oresgyn eu tiroedd hela. Symudasant i ynys Tortuga, un o diriogaethau Ymerodraeth Ffrainc, ac oddi yno—gyda chefnogaeth y llywodraethwyr—lansiwyd cyrchoedd ar fasnach forwrol Sbaen. Yn sgil gorchfygu Jamaica gan y Saeson ym 1655, dyma safle arall i'r bycaniriaid. Gweision ar ffo a chyn-filwyr oeddynt gan amlaf, a hefyd torwyr coed lliwio o arfordir Campeche. Morwyr galluog a disblygedig oeddynt gan amlaf a fuont yn ethol eu capteiniaid, yn ynysu miwtiniwyr, yn dosbarthu'r ysbail yn deg, ac yn cytuno ar yswiriant mewn achosion o anaf. Defnyddiwyd ffugenwau gan y bycaniriaid cynnar, er enghraifft François l'Olonnais (Jean-David Nau) a Roche Braziliano. Y capten rhagoraf i arwain criw o fycaniriaid, o bosib, oedd Harri Morgan, a gipiodd Portobelo ym 1668 a Phanama ym 1671. Oherwydd Cytundeb Madrid (1670) rhwng Lloegr a Sbaen, ni chefnogwyd y cyrch ar Banama yn swyddogol a chafodd Harri Morgan ei arestio, ond wedi i gysylltiadau rhwng y ddwy wlad chwalu eto fe'i gwobrwywyd drwy gael ei urddo'n farchog a'i benodi'n is-lywodraethwr Jamaica. Yn y swydd honno, ceisiai Syr Harri ostegu'r bycaniriaid ond ni fu'r gorchwyl hwnnw yn bosib heb longau'r Llynges Frenhinol yn cylch-hwylio holl Fôr y Caribî. Camp fawr olaf y bycaniriaid oedd y cyrch aflwyddiannus ar Banama ym 1685 gan lu o 3000, dan arweiniad Edward Davis, John Eaton, Charles Swan, a Saeson eraill. Yn sgil dechrau'r Rhyfel Naw Mlynedd ym 1688—a Lloegr, yr Iseldiroedd, a Sbaen yn gynghreiriaid yn erbyn Ffrainc—dyrchafwyd y bycaniriaid yn breifatiriaid cyfreithlon mewn gwasanaeth eu llywodraethau priodol.

Daeth anturiaethau a gorchestion y bycaniriaid yn gyfarwydd o ganlyniad i hanesion William Dampier, Lionel Wafer, Basil Ringrose, ac eraill. Dylanwadodd y llenyddiaeth hon ar awduron diweddarach megis Daniel Defoe, Jonathan Swift, a Robert Louis Stevenson, a chafodd effaith fawr ar ddelwedd y môr-leidr hanesyddol. O safbwynt yr hanesydd, nid yw enwogrwydd y bycaniriaid yn gymesur â'u pwysigrwydd. Fodd bynnag, buont yn ysbrydoliaeth i forwyr eraill a fforwyr yn ystod Oes y Darganfod, a chawsant ddylanwad ar fenter yr Albanwyr i wladychu Culdir Panama ym 1698 ac ar sefydlu Cwmni Moroedd y De ym 1711.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Howard Pyle, golygwyd gan Merle Johnson, Howard Pyle's Book of Pirates (Efrog Newydd: Harper & Brothers, 1921), t. 196.
  2. (Saesneg) Buccaneer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2021.

Darllen pellach golygu