C.P.D. Tref Port Talbot

Clwb pêl-droed Cymraeg
(Ailgyfeiriad o C.P.D. Port Talbot)

Clwb pêl-droed ym Mhort Talbot ydy Clwb Pêl-droed Tref Port Talbot (Saesneg: Port Talbot Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru.

C.P.D. Port Talbot
Enw llawn Clwb Pêl-droed Tref Port Talbot
Llysenw(au) Y Gwŷr Dur
Sefydlwyd 1901
Maes Stadiwm Genquip
Rheolwr Baner Cymru Andrew Dyer
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2015-2016 10fed

Ffurfiwyd y clwb ym 1901[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar Faes Ffordd Victoria sy'n cael ei adnabod, am resymau nawdd, fel Stadiwm Genquip. Mae'r maes yn dal uchafswm o 6,000 o dorf gyda 1,000 o seddi.

Hanes golygu

Roedd y clwb yn aelodau o Prif Gynghrair Abertawe o 1901 hyd nes 1926 pan ymunodd Port Talbot â chynghrair newydd Port Talbot a'r Cylch.[1]. Wedi'r Ail Ryfel Byd ymunodd y clwb â Chynghrair Cymru (Y De)[2] ond wedi dau ddegawd o symud rhwng yr Uwch Adran a'r Adran Gyntaf disgynodd y clwb i'r adran isaf yn nhymor 1970-71[3].

Ar ôl brwydro yn ôl i'r brif adran erbyn 1984-85 cafwyd dechrau tymhestlog i'r 1990au wrth i Bort Talbot ddisgyn yn ôl i'r adran isaf ym 1993-94[1] cyn i gyfnod o ail strwythuro oddi ar y maes sicrhau dyfodol disglair i'r clwb wrth iddyn nhw anelu tuag at sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru.

Daeth eu dyrchafiad yn nhymor 1999-2000[4] ac maent wedi bod yn yr Uwch Gynghrair byth ers hynny.

Record yn Ewrop golygu

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
2010–11 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1   TPS Turku 0–4 1-3 1-7

Anrhydeddau golygu

  • Cwpan Cymru
  • Cwpan Cynghrair Cymru
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 2005-06
Cynghrair Cymru (Y De), 2018-19

Cambrian a Clydach | Celtic Cwmbrân | Cwmaman | Ffynnon Taf | Goytre | Goytre Unedig | Gwndy | Hwlffordd | Lido Afan | Llanilltyd Fawr | Llansawel | Pen-y-bont | Tref Pontypridd | Port Talbot | Rhydaman | Ton Pentre |


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Port Talbot Town History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-13. Cyrchwyd 2014-08-29. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Welsh Football Data Archive: Welsh League (South) 1947-48". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Welsh Football Data Archive: Welsh League (South) 1970-71". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Welsh Football Data Archive: Welsh League (South) 1999-2000". Unknown parameter |published= ignored (help)