C.P.D. Goytre Unedig
Lleolir Clwb Pêl-droed Goytre United ym mhentref Goetre, ger Port Talbot. Maent yn chwarae yng Nghyngrair Cymru (Y De) (y Welsh League, sef ail haen pêl-droed Cymru, nid Uwch Gynghrair Cymru). Er gwaetha'r ffaith iddynt ennill Cynghrair Gyntaf, Cynghrair Cymru (De) yn 2005–06 a 2007–08 ni ddyrchafwyd nhw i Uwch Gynghrair Cymru.
Enw llawn | Goytre United Football Club | ||
---|---|---|---|
Maes | Stadiwm Parc Glenhafod (sy'n dal: 4,000 (350 sedd)) | ||
Rheolwr | Andy Hill | ||
Cynghrair | Cynghrair Cymru (Y De) | ||
2023/2024 | Cynghrair Cymru (Y De), 8 | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
- Ar gyfer y clwb yn Sir Fynwy ewch i Goytre A.F.C.
Maent yn chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Parc Glenhafod.
Hanes
golyguSefydlwyd y Clwb yn 1963 gan chwarae yng Nghynghrair Ardal Port Talbot (Port Talbot and District Football League) a cael eu dyrchafu i Gynghrair Amatur De Cymru (South Wales Amateur League) ar ddiwedd y 1960au. Agorwyd Clwb Cymdeithasol Goytre United yn 1982 gan ddod ag incwm i'r clwb.
Mae Goytre United yn hynod am iddynt ennill Y Gynghrair Gymreig dair gwaith ond nad ydynt wedi dyrchafu i Uwch Gynghrair Cymru. Mae sawl rheswm am hyn, heb os mae criteria llym ar adnoddau a strwythur sydd angen eu cyrraedd ar stadiwm timau yr Uwch Gynghrair yn ffactor.
Gwobrau
golyguCynghrair Cymru (Y De) (Welsh Football League)
- Pencampwyr: 2005–06, 2007–08, 2009–10
Cwpan Her Cynghrair Port Talbot (Port Talbot League Challenge Cup)
- Cyrraedd y rownd olaf: 1985–86, 1988–89
Prif Adran Cynghrair Port Talbot (Port Talbor League Premier Division)
- Ail: 1988–89
Adran 2 Cynghrair Amatur De Cymru (South Wales Amateur League Division 2)
- Ail: 1989–90
Cwpan Her Port Talbot (Port Talbot Challenge Cup)
- Enillwyr: 1992–93
Adran Tri Cynghrair Cymru (Welsh League Division Three)
- Ail: 1993–94
Cynghrair Eilyddwyr Cynghrair Cymru (Welsh League Reserve Division)
- Ail: 1994–95
Adran 2 Cynghrair Cymru (Welsh League Division Two)
- Ail: 1995–96
Cwpan Cynghrair Eilyddwyr Cymru (Welsh League Reserve Division Cup)
- Gêm Derfynol: 1996–97
Adran Un Cynghrair Cymru (Welsh League Division One)
- Ail: 2003–04
Cwpan Shamrock Travel Cynghrair Cymru (Welsh League Shamrock Travel Cup)
- Enillwyr: 2004–05
Dolenni
golygu- Gwefan Goytre United Archifwyd 2018-09-01 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Cynghrair Cymru (Y De) Archifwyd 2018-09-30 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golyguCynghrair Cymru (Y De), 2018-19 | ||
---|---|---|
Cambrian a Clydach | Celtic Cwmbrân | Cwmaman | Ffynnon Taf | Goytre | Goytre Unedig | Gwndy | Hwlffordd | Lido Afan | Llanilltyd Fawr | Llansawel | Pen-y-bont | Tref Pontypridd | Port Talbot | Rhydaman | Ton Pentre | |