Cactws

(Ailgyfeiriad o Cacti)
Cacti
Ferocactus pilosus yn tyfu ger Saltillo, Coahuila, yng ngorllewin-ddwyrain Mecsico.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Magnoliophyta
Dosbarth: Magnoliopsida
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Cactaceae
Juss.
Blodyn ar gactws y lloergan.
Cactws a chanddo bigau hir a meinion.
Ffrwyth draig, enghraifft o ffrwyth cactws a a chanddi nifer o hadau bychain.
Cactws torrog.

Planhigyn suddlon di-ddail yw'r cactws ac iddo fonyn cnawdiog trwchus gyda phigau ac yn aml blodau lliwgar. Mae'r cacti yn gyfystyr â'r teulu Cactaceae, yn yr urdd Caryophyllales. Maent yn seroffytau ac yn tyfu mewn hinsawdd boeth a sych.

Mae cacti yn frodorol i'r Amerig, ac yn tyfu o Batagonia i orllewin Canada. Yr unig rywogaeth o gactws nad yw'n hollol frodorol i'r Amerig yw Rhipsalis baccifera, sydd hefyd yn tyfu yn AffricaSri Lanca.[1] Mae cacti'n hynod o boblogaidd i'w tyfu dan do neu yn yr ardd, ac wedi eu cyflwyno ar draws y byd.

Mae nifer o gacti yn byw mewn ardaloedd sych, megis yr anialwch. Mae gan y mwyafrif ohonynt ddrain meinion a chroen trwchus. Ceir amrywiaeth eang o gacti o bob siâp a maint. Mae gan nifer ohonynt flodau mawr a lliwgar. Mae rhai ohonynt yn blodeuo yn ystod y nos ac yn cael eu peillio gan wyfynod ac ystlumod. Mae rhai yn cynhyrchu ffrwythau sy'n faeth i eifr, adar, morgrug, ystlumod, a bodau dynol.

Addasiadau

golygu

Addasid y mwyafrif o gacti i fyw mewn amgylchedd sych iawn. 

Mae ganddynt wreiddiau bychain a thenau ger arwyneb y pridd. Mae'r rhain yn amsugno dŵr yn gyflym pan fo glaw. Mae'n bosib i gactws o'r fath hefyd meddu sodlwraidd hir a thrwchus sy'n treiddio'n ddwfn i'r pridd, ac sy'n amsugno dŵr os yw'r pridd uchaf yn sych.

Mae cacti yn storio dŵr mewn bonyn neu goesynnau trwchus. Mae ganddynt groen caled dan orchudd cwyraidd sy'n atal gormod o ddŵr rhag lifo i ffwrdd. Nid oes ganddynt ddail, ond pigau meinion sy'n amddiffyn y cactws rhag anifeiliaid.

Defnydd dynol

golygu

Mae cacti yn blanhigion tŷ poblogaidd iawn gan eu bod yn ddeniadol ac yn hawdd eu tyfu. Tyfir hefyd yn yr ardd, yn enwedig mewn ardaloedd sych. Gall linell o gacti greu ffens fyw bigog i rwystro tresmaswyr ac anifeiliaid crwydr. Defnyddir pren cactws fel deunydd adeiladu.

Bwyteir y ffrwyth o ambell rhywogaeth, er enghraifft ffrwyth draig a'r gellygen bigog. Mae'r cochbryf (Dactylopius coccus) yn byw ar gacti'r genws Opuntia, gan fwydo ar faeth y sudd. Mae'r pryfyn yn cynhyrchu asid carminig, sy'n ei amddiffyn rhag bryfed eraill. Defnyddir yr asid i wneud lliwur fflamgoch.

Credai'r Asteciaid taw planhigyn pwysig iawn yw'r cactws. Portreadir cacti mewn nifer o'u cerfluniau a darluniadau, a dangosir eryr yn sefyll ar gactws mewn arfbais a baner genedlaethol Mecsico.

Christopher Columbus a ddaeth â'r cactws cyntaf i Ewrop.

Cyflwynwyd yr ellygen bigog i Awstralia yn y 19g i'w dyfu fel ffens naturiol ac i gynhyrchu lliw'r cochbryf. Bu gorboblogaeth o'r cactws hwn, ond cafodd ei rheoli gan gyflwyno larfa gwyfyn o Dde America.

Ers cychwyn y 20g cynyddodd poblogrwydd y cactws. Darganfyddir rhywogaethau newydd o hyd, ond mae rhai ohonynt mewn perygl yn y gwyllt oherwydd mae cymaint yn cael eu tynnu o'r tir i'w plannu mewn potiau.

Coesynnau

golygu

Mae cacti yn arbed dŵr gan nad oes ganddynt ddail, sy'n trydarthu ac felly'n gwastraffu dŵr. Coesynnau yw'r rhannau gwyrddion o gacti, sydd weithiau'n edrych yn debyg i ddail. Y coesynnau sy'n gweithredu ffotosynthesis ac arnynt mae'r pigau amddiffynnol yn tyfu.

 

Genera

golygu

Mae teulu'r cacti yn cynnwys mwy na 100 o genera.[2] Dyma rai:

  • Gymnocalycium
  • Myrtillocactus
  • Schlumbergera

Cyfeiriadau

golygu
  1. Anderson, Edward F. 2001.
  2. Anderson, Miles 1999.

Dolenni allanol

golygu