Pidyn
Organau cenhedlu gwrywaidd |
---|
|
Organ cenhedlu allanol gwrywaidd yw pidyn (hefyd cala, cal neu penis). Mewn mamal gwrywaidd, trwy'r pidyn mae wrin yn gadael y corff yn ogystal.
Strwythur
golyguMae tair colofn o feinwe codiadol mewn pidyn dynol: dau corpora cavernosa (unigol: corpus cavernosum) ac un corpus spongiosum. Lleolir y corpus spongiosum ar ochr isaf y pidyn, ar corpora cavernosa ar yr ochr uchaf. Mae pen y corpus spongiosum yn eang ac yn oddfog; y glans (hefyd: 'sgetyn') ydyw. Ar du allan y glans, mae'r blaengroen, crychiad llac o groen sy'n gallu cael ei dynnu'n ôl i ddatguddio'r glans. Mae'r frenulum yn cysylltu'r blaengroen ag ochr isaf y pidyn. Mae'r wrethra yn mynd trwy'r corpus spongiosum, ac fe leolir ei agoriad, y meatus, ar ben eithaf y glans. Trwy'r wrethra'r alldeflir semen, a thrwyddo mae wrin yn llifo wrth adael y corff. Cynhyrchir sberm yn y ceilliau, a chaent eu storio yn yr epididymis. Mewn rhai mamolion, mae yna asgwrn codiad, y baculum. Nid oes asgwrn yn y pidyn dynol, yn hytrach, ceir codiad wrth iddo lenwi â gwaed. O gymharu â màs y corff, mae'r pidyn dynol yn fwy na'r hyn a geir yn gyfartalog ymysg anifeiliaid.
Y glasoed
golyguWrth i hogyn gychwyn y glasoed, wedi i'r ceilliau cychwyn ddatblygu, mae'r pidyn a gweddill yr organau cenhedlu yn cychwyn tyfu. Yn gydamserol, mae blew cedor yn tyfu uwchben ac o gwmpas y pidyn.
Maint
golyguEr bod amrywiaeth mawr rhwng astudiaethau, a'u bod yn annigonol braidd, cytunir yn gyffredinol fod cyfartaledd hyd y pidyn mewn cyflwr o godiad llawn rhwng 12.7 cm a 15cm. Mae yna wahaniaethau yn y maint cyfartalog o le i le yn y byd, a rhwng pobl o wahanol hil. Fel gyda sawl priodwedd gorfforol arall, mae hyd a lled y pidyn yn amrywio'n fawr rhwng unigolion. Mae maint y pidyn llipa yn llai na maint pidyn codedig o lawer. Yn ogystal, mae'r gwahaniaeth rhwng maint y pidyn yn ei gyflyrau llipa a chodedig yn amrywio cymaint, fel na ellir darogan y maint codedig o wybod y maint llipa. Ac eithrio achosion eithafol, does dim cydberthyniad rhwng gallu atgenhedliol neu rywiol a maint y pidyn.
Mewn llenyddiaeth Gymraeg
golyguYsgrifennodd y bardd enwog Dafydd ap Gwilym am y pidyn ("y gal") yn ei gerdd enwog, Cywydd y gal. Yn y gerdd mae'n rhestru llawer o gyfystyron ar gyfer y pidyn. Yn awdl arobryn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991 canodd y Prifardd Robin Llwyd ab Owain hefyd am y pidyn gan ei gymharu i: gleddyf ('Clun ynglŷn, gweinied fy nghledd' ), 'pinwydden' a 'choeden'.
Oriel
golygu
|