Preswylfa wledig Arlywydd yr Unol Daleithiau yw Camp David a leolir ym mryniau coediog Parc Mynydd Catoctin yn Frederick County, ger trefi Thurmont ac Emmitsburg, yn nhalaith Maryland, Unol Daleithiau America. Saif rhyw 62 milltir (100 km) i ogledd-orllewin y brifddinas Washington, D.C., lle mae preswylfa swyddogol yr arlywydd, y Tŷ Gwyn. Mae safle Camp David yn cwmpasu 200 erw (81 hectar) a amgylchynir gan ffensys o'r radd eithaf o ddiogelwch. Safle filwrol yw Camp David, dan awdurdod Llynges yr Unol Daleithiau, a'i enw swyddogol yw'r Naval Support Facility Thurmont. Fe'i gweinyddir gan Swyddfa Filwrol y Tŷ Gwyn. Daw'r mwyafrif o weithwyr Camp David o'r llynges, yn enwedig y Seabees a Chorfflu'r Peirianwyr Sifil, a Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau.

David Eisenhower, ŵyr yr Arlywydd Dwight D. Eisenhower, wrth arwydd Camp David ym 1960.
Camp David
Mathcanolfan filwrol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDavid Eisenhower Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1935 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolCatoctin Mountain Park Edit this on Wikidata
SirFrederick County Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,850 troedfedd, 564 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.6483°N 77.4636°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganLlynges yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddCatoctin Mountain Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolNational Park Service rustic Edit this on Wikidata

Adeiladwyd y safle ym 1935–38 gan y Weinyddiaeth Brosiectau Gwaith (WPA), un o asiantaethau'r Fargen Newydd, fel gwersyll i asiantau'r llywodraeth ffederal a'u teuluoedd. Sefydlwyd y breswylfa gan yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt ym 1942 dan yr enw Shangri-La, enw'r paradwys yn Nhibet yn y nofel Lost Horizon (1933) gan James Hilton. Fe'i dynodwyd yn breswylfa wledig swyddogol yr arlywydd gan Harry S. Truman ym 1945. Ailenwyd y safle gan Dwight D. Eisenhower yn Camp David, ar ôl ei ŵyr, ym 1953. Mae Camp David yn cynnwys ystafelloedd i'r arlywydd a'i deulu a swyddfa iddo, pwll nofio, a neuadd gyfarfod.[1] Yn ystod ei hanes mae wedi cynnal nifer o gyfarfodydd pwysig rhwng yr arlywydd ac arweinwyr gwledydd eraill, gan gynnwys ymweliad Nikita Khrushchev, arweinydd yr Undeb Sofietaidd, yn ystod arlywyddiaeth Eisenhower ym 1959; y trafodaethau dan wahoddiad yr Arlywydd Jimmy Carter ar gyfer Cytundebau Camp David ym 1978 a arwyddwyd gan Anwar Sadat, Arlywydd yr Aifft, a Menachem Begin, Prif Weinidog Israel; y gynhadledd rhwng yr Arlywydd Bill Clinton, Ehud Barak, Prif Weinidog Israel, ac Yasser Arafat, Arlywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, yn 2000; a 38ain Uwchgynhadledd yr G8 yn 2012.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Camp David. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mehefin 2021.

Darllen pellach golygu

  • Michael Giorgione, Inside Camp David: The Private World of the Presidential Retreat (Efrog Newydd: Little, Brown & Co., 2017).