Bryngaer a chastell yn ne Powys yw Castell Dinas neu Gastell Bwlch y Dinas. Gydag uchder o 450 m (1,476 troedfedd), dyma'r castell uchaf yng Nghymru a Phrydain i'r de o ucheldiroedd yr Alban. Fe'i lleolir ar safle strategol sy'n amddiffyn y bwlch rhwng cymoedd Rhiangoll a Llynfi, rhwng Talgarth a Chrucywel. (cyfeiriad grid SO179301).

Castell Dinas
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9636°N 3.1965°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR015 Edit this on Wikidata

Enw golygu

Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', Dinas Emrys a Dinas Cerdin er enghraifft; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw).

Hanes golygu

Codwyd bryngaer ar y safle yn Oes yr Haearn, yn y cyfnod rhwng tua 600 CC a 50 OC. Bryngaer amlfurog oedd hon, gydag atodiad ar y mur gorllewinol.[1]

Codwyd castell Normanaidd gyda muriau carreg yno, efallai gan William FitzOsbern neu ei fab Roger de Breteuil, Iarll Henffordd tua 1070 i 1075 OC. Collodd ei bwysigrwydd strategol i'r Normaniaid pan godwyd castell yn Aberhonddu cyn 1093. Mae haneswyr eraill yn cynnig iddo gael ei godi gan deulu de Braose (Brewys) cyn 1180.[1] Ymddengys mai castell o gerrig oedd hwn o'r cychwyn cyntaf yn hytrach na chastell mwnt a beili, gyda gorthwr-neuadd a amgylchynid gan lenfur gyda thyrau sgwâr arno. Arhosodd Castell Dinas yn nwylo arglwyddi Normanaidd Brycheiniog hyd 1207 pan roddodd y brenin John o Loegr y castell i Peter fitz Herbert. Daeth yn caput (prif ganolfan) arglwyddiaeth Talgarth (Blaenllyfni).

Ymosododd y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth arno yn Hydref 1233 a'i difetha. Ond cafodd ei ailgodi gan y brenin Harri III o Loegr a'i adfer i Peter Fitz Herbert. Yn nes ymlaen cipiwyd y castell gan Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, a'i ddal gan ei ddeiliaid Cymreig lleol o 1263 hyd 1268. Dinistriwyd y castell yn derfynol gan luoedd Owain Glyndŵr ganol y 1400au.

 
Castell Dinas. Gwelir adfail y gorthwr ar y dde.
 
Castell Dinas: rhan o'r fynedfa ogleddol

Y safle heddiw golygu

Mae'r muriau yn adfail gyda phridd yn gorchuddio rhannau ohonynt. Gellir gweld y ffynnon wreiddiol o hyd. Mae cloddiau a ffosydd yr hen fryngaer yn amlwg i'w gweld.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: BR015.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Gellir cyrraedd y safle mewn 30 munud trwy'r caeau o faes parcio tafarn Pengenffordd, ger Talgarth.

Llyfryddiaeth golygu

  • Helen Burnham, Clwyd and Powys yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO, Llundain, 1995)
  • P. M. Remfry, Castell Bwlch y Dinas and the families of Neufmarché, Hereford, Braose, Fitz Herbert, Mortimer and Talbot (ISBN 1-899376-79-8).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Helen Burnham, Clwyd and Powys, tud. 196.
  2. Cofrestr Cadw.