Nidum
Caer Rufeinig a godwyd yng Nghastell-nedd yw Nidum (Lladiniad o'r gair Brythoneg *Nid, sef 'Nedd'); cyfeiriad grid SS747977. Fe'i codwyd rhwng tua 75 ac 120 OC ar diriogaeth y Silwriaid fel rhan o rwydwaith o gaerau a ffyrdd ar draws de Cymru.
Math | caer Rufeinig, adeilad Rhufeinig, safle archaeolegol |
---|---|
Cysylltir gyda | Silwriaid, Maridunum |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cwrt Herbert |
Sir | Blaenhonddan |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.664706°N 3.813039°W |
Cod OS | SS747977 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM215 |
Fe'i canfuwyd yn agos i'r ystad dai a adnabyddir fel Roman Way, ar lan orllewinol Afon Nedd. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin heddiw.
Codwyd caer bren yno tua'r flwyddyn 75 OC yng nghyfnod y llywodraethwr Julius Frontinus. Tynwyd y gaer gyntaf honno i lawr a chodi un o gerrig yn ei lle tua'r flwyddyn 120 OC, ond ymddengys mai bur fu ei barhad. Mae rhannau o'r pyrth deheuol a de-ddeheuol i'w gweld ac mae rhai rhannau eraill o'r safle wedi'u cloddio gan archaeolegwyr.[1]
Roedd yn mesur tua 525m wrth 525m ac yn ddigon mawr i fod yn wersyll i tua 500 o filwyr. Cysylltiai ffordd Rufeinig caer Nidum gyda Maridunum (Caerfyrddin) i'r gorllewin a Viroconium (Caerwrygion) i'r dwyrain.[2]
Mae darganfyddiadau o'r safle i'w gweld yn Amgueddfa Castell-nedd.
Cadw
golyguMae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: GM215.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1978), tud. 138.
- ↑ "Nidum". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-05-27. Cyrchwyd 2010-02-12.
- ↑ Cofrestr Cadw.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Nidum Archifwyd 2006-05-27 yn y Peiriant Wayback ar wefan RomanBritain.org
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |