Cen Williams (dylunydd)
Roedd Cen Williams, neu'n gyffredin, Cen Cartŵn Williams (7 Ebrill 1946 – 24 Mai 2020) yn ddylunydd ac aelod gweithgar o gymuned Gymraeg Caerdydd o'r 1970au ymlaen gan ddylunio amrywiaeth eang o gloriau llyfrau, recordiau a thaflenni Cymraeg a chyfrannu cartwnau i lyfrau a chylchgronau. Magwyd yng Ngwalchmai. Bu'n athro yn ysgol plant anghenion arbennig, Ysgol y Llys, Llanisien, Caerdydd hyd ei ymddeoliad.[1]
Cen Williams | |
---|---|
Ganwyd | 7 Ebrill 1946 Gwalchmai |
Bu farw | 24 Mai 2020 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd |
- Noder: nid Dr Cen Williams yw gwrthrych y bywgraffiad hwn.
Dylunyddâ
golyguRoedd Cen Williams yn adnabyddus am ei gartŵnau a'i arddull unigryw. Bu'n gyfrannwr cyson i bapur bro Caerdydd, Y Dinesydd o'r cychwyn gan ddarlunio bywyd Cymraeg y brifddinas. Cyhoeddwyd detholiad o'i gartwnau a oedd wedi ymddangos yn y papur dros y 25 mlynedd oddi ar sefydlu'r Dinesydd yn y rhifyn o'r Dinesydd a gyhoeddwyd yn Ebrill/Mai 1998 i ddathlu pen-blwydd y papur yn 25 oed.
Bu hefyd yn dylunio cloriau Recordiau Sain gan gynnwys rhai o recordiadau enwocaf y cwmni fel Cwm-Rhyd-y-Rhosyn a recordiwyd gan Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones.[2] Yn sgil llwyddiant y record hir, daeth cyfres llyfrau lliwio a phosteri – pob un yn cynnwys darluniau Cen Williams.[3]
Dyluniodd a chyfrannodd i doreth o lyfrau a chylchgronau Cymraeg. Ymysg ei enwocaf oedd ei gartŵnau i gyd-fynd â nofel Dyddiadur Dyn Dŵad gan Dafydd Huws oedd yn portreadu a dychanu bywyd Caerdydd yn yr 1970au. Seiliwyd y nofel ar golofn gyson gan Dafydd Huws i'r Dinesydd. Yn ôl Siôn Jobbins, roedd Cen yn "Un o genhedlaeth 'Dyddiadur Dyn Dŵad' ifanc, gwych drawsffurfiodd a Chymreigiodd Caerdydd yn 1970au. Un o bobl Aelwyd yr Urdd, Conway Rd. Dyn hoffus, tipyn o arwr i mi'n blentyn. Coffa da amanno. Roedd yn un o'r criw gwych roddodd oriau lawer yn ddi-dal i helpu aelwyd yr Urdd Conway Rd neu Ysgol Bryntaf. Dyma'r bobl ymladdodd dros addysg Gymraeg ond hefyd i wneud yr iaith yn rhywbeth bywiog, hapus a chymdeithasol."[4]
Roedd yn gartwnydd i'r cylchgrawn wythnosol, Golwg a'r cartŵn olaf ganddo i'w chyhoeddi gan y cylchgrawn oedd cartŵn o deyrnged i'w ffrind, yr awdur Dafydd Huws ar 23 Ebrill 2020, gwta fis cyn ei farwolaeth ei hun.[3]
Sefydlu Clwb Pêl-droed Cymry Caerdydd
golyguRoedd yn bél-droediwr ac yn un sylfaenwyr Clwb Pel-droed Cymric [5] (clwb pêl-droed Cymraeg ei hiaith yng Nghaerdydd) yn 1969. Yn ôl Wynford Ellis Owen "roedd yn caru chwarae a gwylio pêl-droed yn fwy na dim byd arall, a byddai’n dadlau a thrafod rhyfeddodau’r gêm hyfryd yn ddi-baid."[3]
Roedd yn ddilynwr brwd o bêl-droed a bu iddo gyflwyno cartŵn i Tim Hartley yn dilyn penderfyniad C.P.D. Dinas Caerdydd i ddychwelyd i chwarae yn ei lliwiau glas a gwyn traddodiadol wedi cyfnod yn chwarae mewn coch.[6]
Gwaith Elusennol
golyguBu Cen Williams yn gwerthu ei gartŵns ar gais, gan roi’r arian at elusen fu’n helpu dioddefwyr myasthenia gravis, cyflwr sy’n effeithio ar y cyhyrau a chyflwr y bu ei chwaer yn dioddef ohono.
Bu iddo hefyd sefydlu Cyfeillion Ystafell Fyw Caerdydd gan gynorthwyo i ganfod dodrefn a ffyrdd o godi arian i'r elusen.
Aelwyd yr Urdd
golyguRoedd Cen yn un o griw Aelwyd yr Urdd, Conway Rd Caerdydd yn yr 1970au. Lleoliad a dynnodd ynghyd criw eang o bobl a weithiodd dros y Gymraeg a sefydlu sefydliadau Cymraeg newydd yng Nghaerdydd. Bu'n cynorthwyo gyda chynnal 'Aelwyd' yr Urdd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf,[7] Caerdydd - yr unig ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd ar y pryd. Er nad oedd yn athro, yn ôl Wynfford Elis Owen, "roedd o’n athro par excellence gan ddysgu plant a phobol ifanc ledled Cymru wir gwerth celf a llawenydd creadigrwydd. Roedd o’n dynnwr coes eithriadol ac roedd ganddo fo synnwyr digrifwch direidus dros ben.”
Marwolaeth
golyguBu farw yn 74 oed yng Nghaerdydd o effaith COVID-19, un o'r miloedd o bobl a gollwyd y flwyddyn honno yn y Gofid Mawr yng Nghymru.
Teyrngedau
golyguCafwyd dyfyniad o deyrnged iddo gan Wynfford Elis Owen yng nghylchgrawn Golwg a chan eraill ar y cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys gan YesCymru ar Twitter:
"Wedi clywed bod Cen ‘cartŵn’ Williams wedi marw o COVID-19. Un o hogia’ Gwalchmai, Môn symud i Gaerdydd a dod yn rhan – a darlunio – adfywiad cenedlaethol y brifddinas. 2 gartŵn nodweddiadol: tafarn ‘New Ely’ yn 1970au a thaflen etholiad Owen John Thomas 1980au. Coffa da amdano."[8]
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.thecourtschool.co.uk/
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-26. Cyrchwyd 2020-05-28.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Cen Williams, cartwnydd Golwg, wedi marw’n 74 oed , Golwg360, 27 Mai 2020. Cyrchwyd ar 28 Mai 2020.
- ↑ https://twitter.com/MarchGlas/status/1264858372408578053
- ↑ http://www.clwbcymric.cymru/
- ↑ https://twitter.com/timhhartley/status/1266348028987879424
- ↑ https://twitter.com/1010davies/status/1265175894227775491
- ↑ pic.twitter.com/Sg9nsA0ybv