Chwarel y Rhosydd

mwynglawdd yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Chwarel Rhosydd)

Hen chwarel lechi rhyw filltir i'r gorllewin o ardal Blaenau Ffestiniog, Gwynedd yw Chwarel y Rhosydd. Saif ar dir uchel, i'r gogledd-orllewin o gopa Moel-yr-hydd a heb fod ymhell o Chwarel Croesor a Chwarel Cwmorthin. Mae twnnel yn cysylltu'r chwarel yma a Chwarel Croesor. I'r dwyrain, yr ochr arall i'r Foel Ddu, gorwedd pen gogleddol Llyn Cwmorthin.

Chwarel y Rhosydd
Baner Cymru Cymru
MathGwlad
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.997°N 3.991°W Edit this on Wikidata
Map
Fideo (awyrlun) o'r chwarel a'r Barics, gyda Chwmorthin yn y pellter

Dechreuwyd gweithio'r chwarel ar raddfa fechan yn y 1830au ac agorwyd ogof danddaearol yn y 1850au, ac erbyn 1883 roedd yn un o'r chwareli tanddaearol mwyaf yng Nghymru, y tu allan i Flaenau Ffestiniog ei hun, gyda 170 o siamberi. Cynhyrchwyd 5,616 tunnell o lechi y flwyddyn honno. Yn y blynyddoedd cynnar, cludid y llechi ar gefn ceffyl heibio'r Moelwyn a Chwm Maesgwm i gyrraedd Rheilffordd Ffestiniog.

Dechreuodd y gwaith yn y 1830au a sylweddolwyd ar unwaith ei bod hi’n anodd symud llechi o’r safle i'w gwerthu. Roedd y tir tua 1850 troedfedd uwch y môr felly roedd y safle’n angyfleus. Ffurfiwyd Cwmni Llechi’r Rhosydd ym 1853, a daeth yn gwmni cyfyngedig ym 1856. Rhwystrwyd cludo'r llechi i Reilffordd Ffestiniog gan berchnogion Chwarel Cwmorthin. Datryswyd y broblem pan agorwyd Tramffordd Croesor ym 1864 a chystylltwyd y chwarel i’r dramffordd gan inclein. Caewyd y chwarel ym 1873 ond ffurfiwyd Cwmni Chwarel Newydd y Rhosydd Cyf ym 1874. Dymchwelodd rhan mawr o’r safle danddaearol ym 1900, blwyddyn anodd yn y diwydiant llechi oherwydd dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf a chaewyd y chwarel, gan ail-agor ym 1919. Prynwyd y chwarel gan aelodau o deulu'r Colman, teulu adnabyddus am wneud mwstard. Caewyd y chwarel eto ym 1930 oherwydd problemau gwerthu llechi ac eilwaith ym 1947. Prynwyd y chwarel gan McAlpines yn y 1990au ac mae wedi cau ers hynny.

Yn y 1830au, cafwyd dadl a oedd ei lleoliad ar stad Croesor Fawr neu ar stad Cwmorthin Uchaf a chafwyd achos llys ym 1833, a ddaeth i'r casgliad fod Chwarel y Rhosydd ar stad Cwmorthin Uchaf. Cymerodd Edward Barker ‘take-note’ yn 1852, a ffurfiodd bartneriaeth efo William Taylor, John Pearce, John Harper a’r rheolwr Thomas Jones. Daeth y partneriaeth y Cwmni Llechi Rhosydd ar 27 Mehefin 1853, a daeth y ‘take-note yn brydles ym Medi. Aeth llechi o’r chwarel ar Reilffordd Ffestiniog ym 1854, ac aeth rhai ar longau o Borthmadog ym 1855. Newidiwyd yr enw i Cwmni Llechi Rhosydd Cyf ar 7 Rhagfyr 1856.

Symudwyd y llechi gan geffylau ar y dechrau; mae’n debyg aethant rhwng y Moelwyn Mawr a Llyn Stwlan ac i lawr Cwm Maesgwm i’r ffordd rhwng Maentwrog a Bwlch Aberglaslyn.[1] Gyda datblygiad y chwarel, roedd ffordd arall i lawr Cwmorthin i Reilffordd Ffestiniog yn Nhanygrisiau[2] ond cwynodd perchnogion Cwmorthin, gan eu gwahardd.[3][4] Crëwyd y cwmni gyda buddsodiadau o £80,000, y mwyafrif o Lundain a Chaerfaddon.

Dechreuodd gwaith adeiladu Tramffordd Croesor o Borthmadog ym 1862 ac agorwyd y dramffordd ym 1864. Roedd 2 inclein yn Garreg Hylldrem ac un arall yn Blaencwm. Roedd yn gyffwrdd heibio Blaencwm; aeth un inclein i fyny at Chwarel Croesor ac un arall at y Rhosydd. Roedd y 2 inclein tua 750 troedfedd o hyd, yr uchaf yng Nghymru.[5][6] Arwyddwyd cytundeb rhwng Cwmni Llechi’r Rhosydd a Hugh Beaver Roberts, adeiladwr a pherchennog y dramffordd ar 1 Hydref 1863. Talwyd tollau o 2 geinog y tunnell.[7] Erbyn hyn, roedd gan y chwarel 5 lefel gyda 2 fynedfa.[8] Agorodd Tramffordd Croesor ar 1 Awst 1864, ac aeth 284 tunnell o lechi i lawr i Borthmadog yn ystod y mis. Aeth glo i fyny ar gyfer y chwarel a barics.[9] Codwyd buddsoddiad y cwmni i £125,000 ym 1866. Estynnwyd y prydles ym Mawrth 1871, ond aeth y cwmni i’r wal ar 27 Mehefin 1873.[10] Arwerthwyd y chwarel ym Manceinion ar 27 Mehefin 1874 am £29,500. Creodd y prynwyr Cwmni Llechi Newydd y Rhosydd ar 10 Hydref, a phrynwyd tri chwarter y cyfrandaliadau gan bobl o Ffestiniog, Porthmadog a’r ardal gyfagos, gan gynnwys meddygon, bancwyr, ynadyddion, asaiantau chwarel a chyfreithwyr. Cynigwyd 1600 o gyfrandaliadau ar bris o £50 yr un, ond codwyd dim ond £44,000. Richard Hughes o Ynystowyn, Porthmadog oedd ysgrifennydd y cwmni hyd at 1921 ac yn Ynystowyn oedd swyddfa’r cwmni. Roedd cyfarwyddwyr y cwmni i gyd yn Gymry. Talwyd rhandaliadau da rhwng 1876 a 1889 ond roedd y blynyddoedd dilynol yn llai llwyddiannus. Roedd cwmp mawr dan ddaearol ym 1900, ac roedd rhaid creu chwarel newydd heb lawer o bres. Agorwyd wynebau newydd ym 1906 gan Evan Jones.[10]

Llwyddodd Jones i raddau helaeth gyda chymorth gan Morris, gan asiant Chwarel Llechwedd a gan berchennog chwarelau ger Harlech. Ond roedd gostwng mawr ym marchnad llechi cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedyn daeth y rhyfel ei hun.[11], oherwydd na oedd chwareli’n dywidiant angenrheidiol[12]. Cadwyd dau ddyn ar gyfer gwaith cynnal a chadw, ac ail-agorodd y chwarel ym 1919. Gwerthwyd y chwarel i’r teulu Colman (enwog am eu mwstart) am £23,798 ac aeth y cwmni i’r wal ar 12 Gorffennaf 1921. Roedd y teulu eisoes wedi prynu Chwarel Groesyddwyafon ym 1920, ond roedd gwerthu llechi’n anodd a chaewyd Chwarel y Rhosydd ar 13 Medi 1930. Cadwyd 2 o weithwyr quarry eto ar gyfer gwaith cynnal a chadw.[11] Prynwyd y chwarel gan Gapten John S Matthews, perchennog Chwarel Graig Ddu a Chwarel Manod yn Rhagfyr 1947, yn ogystal â Chwarel Croesor a Chwarel Conglog, ond daeth dim byd o’i gynlluniau, a diffoddwyd y pympia ym 1948. Sgrapiwyd yr offer i gyd gan W O Williams o Harlech, a daeth y prydles i ben ar 23 Mai 1948. Rhwng 1949 a 1954, gweithiodd ychydig o bobl o Lanberis ar y safle[13]. Prynwyd y chwarel gan McAlpine yn y 90au ond ni ddechreuodd waith eto.[14]

Daeareg

golygu

Mae 5 haen o lechi da yn ardal Blaenau Ffestiniog wedi gwahanu gan lechi gwael neu garrag arall. Y 5 haen yw y Gogledd, Cefn, Cul, Hen a Newydd; y Gogledd yw’r un agasaf i’r wyneb, ac maent i gyd yn disgyn ar ongl o 20-29 gradd tuag at y gogledd. Mae bron popeth o Chwarel y Rhosydd yn dod o’r Hen haen sydd tua 109 troedfedd o drwch.[15]

Gweithio

golygu

Lle mae’r llechi ar y wyneb, roedd hi’n bosibl gweithio fel chwarel, ac mae’r ‘West Twll’ yn dangos bod hyn wedi digwydd, ond roedd rhaid troi’r chwarel yn bwll ar ôl cyfnod byr. Roedd bylchau o 40 troedfedd yn unionsyth rhwng y lloriau. Adeiladwyd inclein rhwngddynt. Crewyd siambrau tanddaearol amrywiol. Ar gyfartaledd, roeddent 50 troedfedd o led, a pileri i ddal y to tua 30 troedfedd o led.[16] Dechreuwyd gwaith yn y chwarel 1893 troedfedd uwchben y môr. Roedd y Twll Gorllewinol, dechreuwyd yn yr 1840au, yn chwarel agored ac erbyn 1853 roedd 4 o lefelau. Crewyd mynedfeydd ar lefelau 1,2 a 4 i symud cerrig a draenio dŵr.[16] Roedd y mynedfa ar lefel un 370 troedfedd o hyd yn wreiddiol, ond dinistriwyd gan fawrhau’r Twll Gorllewinol. Yr un ar lefel 2 oedd 370 troedfedd o hyd, ond 193 troedfedd o hyd erbyn diwedd gwaith mawrhau’r Twll Gorllewinol. Dechreuwyd gwaith ar fynedfa lefel 4 ym mis Chwefror 1857. Cwblhawyd y gwaith ym 1859, ac oedd y fynedfa 1501 troedfedd o hyd. Roedd gan y Twll Dwyreiniol fynedfa ar lefel 2. Dilynodd y chwarel yma yr Haen Cul i lefel 3.[16] Roedd y fynedfa ar lefel 9 yr un hiraf, 2221 troedfedd o hyd, gyda graddfa 1:86 i hwyluso draenio dŵr. Cwblhawyd y fynedfa ym 1870 neu 1871. deiladwyd inclein rhwng lefel 5 a lefel 9 i symud cerrig i lawr i’r fynedfa, yn defnyddio tua dwsin o wagenni ar raff. Gosodwyd 3 gledr trwy fwyafrif y fynedfa; rhanwyd yr un yn y canol gan y 2 drac er daeth y 2 drac ar wahan ynghanol y twnnel ac ar y 2 ben i hwyluso wagenni’n pasio ei gilydd. Defnyddiwyd system o glychau i gyfathrebu rhwng 2 ben y twnnel.[17] Roedd yr inclein rhwng lefelau 5 a 9 309 troedfedd o hyd, yn dilyn ongl y llechi defnyddiol. Defnyddiwyd crud mawr ar gledrau lled safonol i symud llechi, a wagen drom – gyda dŵr - ar gledrau 32 modfedd o led i fod yn wrthbwys. Ar bn y daith, disgynnodd y crud mewn twll, gyda top y crud ar yr un lefel a’r llawr, i hwyluso gwagu’r crud.[18] Yn hwyrach, adeiladwyd inclein rhwng lefelau 3 a 6. Estynnwyd y chwarel o dan lefel 9 i lefel 14 ar ôl 1890. Mae’n debyg bod defnyddiwyd yr un system o gludiant. Defnyddiwyd 2 Olwyn Pelton wedi 1899, yn defnyddio dŵr o lefel 4.[19]

Allbynnu

golygu

Erbyn 1883 roedd y chwarel wedi dod un o’r chwareli danddaearol mwyaf tu allan o Flaenau Ffestiniog gyda 170 siambr ac yn allforio 5.616 tunell o lechi[20] Cyrhaeddwyd y brig ym 1885 pan gynhyrchwyd 6,484 tunell gan 207 o ddynion yn y chwarel. Cynhyrchwyd tua 222,000 tunell yn ystod hanes y chwarel yn ogystal â 2.5 miliwn tunell o wastraff.[16]. Defnyddiwyd llechi o’r Rhosydd ar Balas Blenheim, ffatri ceir Morris yn Rhydychen a garej bysiau Barking[16]

Galeri

golygu

Cyfeiriadau

golygu