Erwain
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Genws: Filipendula
Rhywogaeth: F. ulmaria
Enw deuenwol
Filipendula ulmaria
(L.) Maxim.

Planhigyn blodeuol bythol (lluosflwydd) sy'n perthyn i deulu'r Rosaceae ac sy'n tyfu mewn gweirgloddiau gwlyb yw'r erwain (Lladin: Filipendula ulmaria; Saesneg: meadowsweet). Mae'n blanhigyn brodorol yn y rhan fwyaf o Ewrop ac Asia ac fe'i ceir hefyd yng ngogledd America ar ôl iddo gael ei gyflwyno yno a dechrau tyfu yn y gwyllt. Mae enwau eraill arno yn y Gymraeg yn cynnwys chwys Arthur, brenhines y weirglodd, blodau'r mêl, llysiau'r Forwyn, barf y bwch a meddlys.

Mae'n blodeuo ym mis Gorffennaf.

Chwedlau golygu

Mae gan y planhigyn le arbennig ym mytholeg Cymru fel un o'r blodau a ddefnyddir gan Math fab Mathonwy a Gwydion i greu Blodeuwedd:

Ac yna y cymerasant hwy blodeu y deri, a blodeu y banadl, a blodau yr erwein, ac o'r rhei hynny, aswyno yr un forwyn decaf a theledicaf a welas dyn eiroed.[1]

Rhinweddau meddygol golygu

 
Blodau a dail yn Jutland

Dywedir ei fod yn dda at yr annwyd, diffyg traul, gwrthweithio gwenwyn, ffliw, anhwylder ar yr arennau a'r bledren, llid yr isgroen (cellulitis), diffyg caws a nerfusrwydd. Dywedir hefyd fo ganddo'r gallu i ladd poen, fel asparin, heb effeithio leinin y stumog. Fel llawer o lysiau rhinweddol, y cwbl sydd angen ei wneud ydy berwi'r blodau am ddeg munud; dylid wedyn yfed tair cwpanaid y dydd am bythefnos - cyn brecwast.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Pedeir Keinc y Mabinogi, gol. Ifor Williams, (Caerdydd), tud. 83.
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato