Oliver Cromwell

gwleidydd, ffermwr, arweinydd milwrol (1599-1658)
(Ailgyfeiriad o Cromwell)

Gwleidydd a milwr o Sais oedd Oliver Cromwell (25 Ebrill 15993 Medi 1658), "Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr" a phennaeth Gwerinlywodraeth Lloegr o 1653 hyd 1658.

Oliver Cromwell
Ganwyd25 Ebrill 1599 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Huntingdon Edit this on Wikidata
Bu farw3 Medi 1658 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Palas Whitehall Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr, Gwerinlywodraeth Lloegr, The Protectorate Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaetharweinydd milwrol, gwleidydd, ffermwr, swyddog y fyddin Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Arglwydd Amddiffynnydd, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1628-29 Parliament, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr Ebrill 1640, Member of the 1640-42 Parliament, Member of the 1653 Parliament, Member of the 1648-53 Parliament, Member of the 1642-48 Parliament, Chancellor of the University of Oxford Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolChwigiaid Edit this on Wikidata
TadRobert Cromwell Edit this on Wikidata
MamElizabeth Steward Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Cromwell Edit this on Wikidata
PlantRichard Cromwell, Bridget Cromwell, Mary Cromwell, Elizabeth Claypole, Henry Cromwell, Frances Cromwell, Robert Cromwell, Oliver Cromwell Edit this on Wikidata
llofnod
Ail-greu un o frwydrau Cromwell yn Rhuthun, 2007. Coed Marchan yn y cefn.

Ganed Cromwell yn 1599 yn Huntingdon (yn Swydd Gaergrawnt heddiw). Roedd o dras Gymreig, yn ddisgynnydd i Morgan ap William, mab William ap Ieuan. Priododd Morgan a Catherine Cromwell, chwaer y gwleidydd Thomas Cromwell, a newidiodd y teulu ei enw i Cromwell.

Yr oedd Oliver Cromwell o du ei fam yn Steward, o'r un gwaed â Stiwartiaid brenhinol yr Alban a Lloegr; o du ei dad, yr oedd yn disgyn yn unionllin o Bleddyn ap Cynfyn, Brenin Gwynedd a Phowys. Yma y canlyn ei achau o du ei dad, fel y casglwyd hwynt gan ddirprwyaeth a apwyntiwyd ganddo ef ei hun yn yr ail flwyddyn o'i ddiffynwriaeth:

Llinach ei uchelder, yr anrhydeddusaf a'r ardderchocaf Oliver Cromwell, pennaeth goruchel, neu arglwydd amddiffynnydd gwerinlywodraeth Lloegr, yr Alban, Iwerddon, a'r tiriogaethau perthynol iddynt:—
Oliver Cromwell, neu Williams, fab Robert Cromwell, neu Williams, fab Syr Henry Cromwell, neu Williams, fab Syr Richard Williams (yr hwn a gymerodd yr enw Cromwell gyntaf, trwy drwydded freiniol, ar ôl ei ewythr Thomas, yr arglwydd Cromwell, iarll Essex), fab William ab Morgan, o Gwm Castell, Eglwys newydd, sir Gaerfyrddin, fab Morgan ap Hywel, fab Hywel ap Madog, fab Madog ab Alan, fab Alan ab Owain, fab Owain ap Cadwgan, fab Cadwgan ap Gruffydd, fab Gruffydd Maelor, fab Meredydd ap Madog, fab Madog ap Bleddyn, fab Bleddyn ap Cynfyn, tywysog Powys a Gwynedd, OC 1064–1073."

Yr oedd gorhendaid Oliver Cromwell—Morgan ab Ioan neu Ieuan—yn cyfranogi o holl newidiadau bywyd Siasbar Tudur, Iarll Penfro, a'i nai Harri Tudur. Wedi i'r olaf orchfygu Lloegr ar Faes Bosworth, gwobrwyodd Morgan ab Ieuan â thiroedd yn siroedd Essex a Huntingdon. Pa fodd bynnag, parhaodd ei fab William ab Ioan i breswylio yn anneddfa'r teulu yng Nghwm Castell, ym mhlwyf yr Eglwys Newydd, Sir Gaerfyrddin, hyd oni phriododd â chwaer Thomas Cromwell, Iarll Essex. O barch i'w ewythr, cymerodd ei fab hynaf—Syr Richard Williams ap Morgan—yr enw Cromwell. Ysgrifennai amryw ganghennau o'r teulu eu henwau yn Cromwell neu Williams mor ddiweddar â 1740. Yr oedd Syr Richard yn dra enwog mewn campau milwraidd, ac ar un achlysur, heriodd y campwyr pennaf yn Ewrop i'w gyfarfod ef mewn ymdrechfa agored ar ei breswylfod ei hun yn Swydd Gaergrawnt. Y Brenin Harri VIII, yr hwn ydoedd dra hoff o ddifyrwch rhith-ymladdau, ac i'r hwn yr oedd Syr Rhisiart yn hoffddyn neillduol, a lywyddai fel beirniad yr ymdrechfa. Cafodd pawb o'r dyfodiaid eu trechu yn fuan oddigerth un marchog Ffrengig: gan hynny, cyfyngwyd yr ymornest yn ebrwydd rhwng Syr Richard a'r Ffrancwr, ac nis llwyddodd y blaenaf hyd y trydydd cyrch i fwrw ei wrthwynebydd gwrolwych oddi ar ei farch. Yr oedd y brenin mor lawen o'r canlyniad, fel y darfu, wrth ddyfarnu gwobr y fuddugoliaeth i'r pencampwr o Deyrnas Lloegr, gymeryd modrwy ddiemwnt dra gwerthfawr oddi am ei fys, a'i gosod ar fys Syr Richard, gan ddweud, "Hyd yn hyn, ti a fuost i mi yn Ddic; o hyn allan, byddi i mi yn Ddiemwnt". Oddi wrth y digwyddiad yma, daeth helm Cromwell i fod yn llew cyrchneidiol, yn gwasgu modrwy ddiemwnt yn ei grafangau.

Preswyliai Syr Henry Cromwell, mab ac etifedd Syr Richard, ar ei etifeddiaeth eang yn Swydd Gaergrawnt, ac yr oedd yn dad i ddau fab: Syr Oliver Cromwell, a wnaed yn Farchog y Baddon ym 1603 ac a fu farw yn ddiblant, a Robert Cromwell, yr hwn, er mwyn gwneud ei gyfran fechan fel mab ieuangaf yn helaethach, a gymerodd y gorchwyl o ddarllawydd mewn llaw yn Huntingdon. Priododd Robert Cromwell â gweddw William Lynn, o Bassingbourn, Sir Gaergrawnt, merch Syr Robert Steward, marchog o ddinas Ely, ac ar 25 Ebrill 1599 daethant yn rhieni i Oliver, a alwyd felly er cof am ei ewythr.

Dienyddiad ar ôl marwolaeth

golygu

Yn 1661, cafodd corff Oliver Cromwell ei gloddio a'i gludo i Tyburn i'w grogi, ei dynnu a'i chwarteru, gosodwyd ei ben ar bolyn, lle cwympodd yn ddiweddarach oherwydd storm.

Cyfeiriadau

golygu
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.