C.P.D. Celtic Cwmbrân

clwb-pêl droed, Nid yr un un â Thref Cwmbrân
(Ailgyfeiriad o Cwmbrân Celtic FC)

Clwb pêl-droed yw Cwmbrân Celtic FC. Mae wedi ei leoli yn nhref Cwmbrân,Torfaen yn yr hen sir Gwent. Mae Cwmbrân Celtic yn dîm gwahanol i glwb Tref Cwmbrân a fu'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru yn yr 1990au.

Cwmbran Celtic
Enw llawnCwmbran Celtic Football Club
LlysenwauThe Celts
Sefydlwyd1925
MaesCeltic Park, Cwmbran NP44 3YS
(sy'n dal: 400)
CadeiryddScott Kinsella (gweithredol) manager = Lee Challenger
CynghrairCynghrair Cymru (Y De)
2022/238th
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Mae'r tîm cyntaf yn chware yng Adran Un Cynghrair Cymru (Y De) (Welsh League)[1] a'r ail dîm yng nghynghrair ail dimau Cynghrair Cymru (Y De). Ceir hefyd tîm menywod sy'n chwarae yng Nghynghrair Menywod De Cymru, a thîm dros 45 oed sy'n chwarae yn Cynghrair Veterans Cymru.

Mae'r timau i gyd yn chwarae yn Celtic Park, Henllys Way, Cwmbrân, sydd drws nesa i Stadiwm Cwmbrân

Hanes golygu

Ffurfiwyd y clwb yn 1925 fel CYMS (Catholic Young Men's Society)[2] gan chwarae, i gychwyn yng Nghynhrair Casnewydd a'r Cylch ('Newport & District League') ac ennill teitl Adran 2 Rhan A yn 1925–26. Rhwng 1930 a 1939 chwaraeodd y clwb yng Nghynhrair Gwent. Wedi'r Ail Ryfel Byd aeth y clwb nôl i chwarae yng Nghynghrair Casnewydd a'r Cylch gan ennill y Brif Adran yn 1950–51.

Newid Enw golygu

Yn yr 1960au cynnar newidiwyd enw'r clwb i Cwmbran Catholics ac yn 1972 newidiwyd yr enw eto i'r enw cyfredol, Cwmbran Celtic.

Maes Chwarae golygu

Prynodd y clwb ei safle ar Oak Street, Hen Gwmbran yn 1979 a dyna bencadlys y clwb. Arferai maes chwarae'r clwb fod ar Cwmbran Park ond oherwydd trafferthion draenio'r tir symudwyd y maes chwarae i feysydd y tu allan i Stadiwm Cwmbrân sy'n cael eu rhannu gyda Chlwb Criced Cwmbrân. Symudodd y clwb criced, maes o law, i Gaerleon a rhoddwyd les ar y maes i Celtic.

Cyfredol golygu

Mae Cwmbrân Celtic yn chwarae yn Adran Un Cynghrair Cymru. Dyma'r adran ar gyfer timau De Cymru sy'n bwydo fewn i Uwch Gynghrair Cymru, sef, prif adran system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dyrchafwyd y clwb i Adran Tri Cynghrair Cymru, Y De (y Welsh League) yn 2004-05. Dilyn dyrchafiad, chwaraeodd y clwb yn Adran Un am y to cyntaf yn nhymor 2010-11.

Uchafbwyntiau golygu

  • 1972-73 - Ennill Cwpan Amatur Gwent, ac ail yn Prif Adran Gwent
  • 1999-2000 - Ennill Cwpan Cynghrair Sir Gwent
  • 2015-16 - Cyrraedd rown y chwarteri Cwpan Cymru o dan reolaeth Nicky Church. Rhediad orau'r vlwb yn y gystadleuaeth.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-22. Cyrchwyd 2018-10-24.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-22. Cyrchwyd 2018-10-24.
Cynghrair Cymru (Y De), 2018-19

Cambrian a Clydach | Celtic Cwmbrân | Cwmaman | Ffynnon Taf | Goytre | Goytre Unedig | Gwndy | Hwlffordd | Lido Afan | Llanilltyd Fawr | Llansawel | Pen-y-bont | Tref Pontypridd | Port Talbot | Rhydaman | Ton Pentre |