Dai Lewis
Roedd David 'Dai' Henry Lewis (4 Rhagfyr 1866 - 8 Medi 1943) yn flaenwr rygbi Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Glybiau Rygbi Treganna a Chaerdydd a rygbi rhyngwladol i Gymru.
Dai Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1866 Radur |
Bu farw | 8 Medi 1943 Buffalo |
Dinasyddiaeth | Cymru UDA |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cefndir
golyguGanwyd Lewis yn Radur yn fab i Jacob Lewis, ffermwr gweddol gefnog, ac Elizabeth ei wraig. Wedi gadael yr ysgol bu Lewis yn gweithio fel clerc i gwmni rheilffordd Great Western. Ym 1886 ymfudodd i Buffalo, Efrog Newydd[1] lle fu'n gwerthu beiciau ac yn niweddarach ceir. Roedd hefyd yn rasiwr beiciau amlwg yn yr Unol Daleithiau[2] ac fel ysgrifennydd yr American Automobile Association yn trefnu rasys ffordd i geir ar hyd a lled y wlad.[3] [4] Ym 1893 priododd Loretta M Meaney, bu iddynt un mab.[5]
Bu farw yn Buffalo yn 76 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Mount Olivet, Erie County, Talaith Efrog Newydd.[6]
Gyrfa rygbi
golyguCafodd Lewis ei gapio gyntaf i Gymru wrth chwarae i Gaerdydd. Cafodd ei ddewis i dîm Cymru dan gapteiniaeth Charlie Newman i wynebu Lloegr yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1886. Roedd Lewis yn un o bedwar cap newydd a ddaeth i mewn i bac Cymru, ochr yn ochr â chyd-aelod o dîm Caerdydd George Young, Evan Roberts o Lanelli a William Bowen o Abertawe. Collodd Cymru’r ornest o drwch y blewyn, ond cadwodd y dewiswyr ffydd gyda Lewis ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn yr Alban. Roedd y gêm yn erbyn yr Alban, a chwaraewyd ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, yn nodedig am fod y gêm ryngwladol gyntaf i weld tîm yn defnyddio'r system pedwar tri chwarter. Gyda Newman ddim ar gael, trosglwyddwyd y gapteniaeth i Frank Hancock, canolwr Caerdydd sy'n adnabyddus am gyflwyno trefn cefnwyr newydd ar lefel clwb. Gyda chwe chwaraewr o Gaerdydd yn y tîm, gan gynnwys Lewis, roedd yn cael ei ystyried yn amser da i arbrofi'r system ar lefel ryngwladol. Gwelwyd yr arbrawf yn fethiant a chafodd ei ollwng gydag effaith drychinebus hanner ffordd trwy'r ornest. Collodd Cymru'r ornest ac ni ddewiswyd Lewis i'w wlad eto.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru [7]
Llyfryddiaeth
golygu- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Grafton Street, Llundain: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Griffiths, Terry (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
- Budd, Terry (2017). That Great Little Team On The Other Side Of The Bridge:The 140 Year History of Canton RFC (Cardiff) Season 1876-77 to 2016-17. Penarth, Morgannwg: Beacon Printers Ltd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "ATHLETIC NOTES - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-09-27. Cyrchwyd 2021-05-13.
- ↑ "International Gossip - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1894-01-26. Cyrchwyd 2021-05-13.
- ↑ "Autoists Arrive" Baltimore Sun 23 Gorffennaf 1907 tud 14
- ↑ "A.A.A. TOUR ROUTE FINALLY COMPLETE; Secretary Lewis Announces Detailed Schedule for Annual Event. TO COVER ABOUT 1,700 MILES Sunday Stops at Bedford Springs and Poland Springs -- Daily Runs to Average 140 Miles". The New York Times (yn Saesneg). 1908-05-24. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-05-13.
- ↑ United States of America, Bureau of the Census. Twelfth Census of the United States, 1900. Washington, D.C.: National Archives and Records Administration, 1900. Census Place: Buffalo Ward 17, Erie, New York; Page: 7; Enumeration District: 0134
- ↑ "David H. "Dai" Lewis (1866-1943) - Find A Grave..." www.findagrave.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-13.
- ↑ Smith (1980), tud 468.