Dathliadau Geraint Thomas yn Tour de France 2018

Yn sgîl llwyddiant Geraint Thomas yn ennill Tour de France yn 2018 cafwyd don o ddathlu ar draws Cymru.

Geraint Thomas yn y Crys Melyn
 
Cerdd i Geraint Thomas gan Cwrw Llŷn

Yn sgil llwyddiant cynyddol Geraint Thomas yn ystod Tour de France 2018 rhannwyd clip fideo ar Facebook o ffans Geraint Thomas yn canu fersiwn hwyliog ohonynt yn canu cân Hogia'r Wyddfa, Titw Tomos Las[1] gyda Geraint yn dod allan o'i bws teithio i'w harwain yn y canu.[2]

Ynghanol holl hwyl llwyddiant Geraint yn y Tour, recordiodd BBC Radio Cymru fersiwn newydd o Titw Tomos Las[1] ar gyfer rhaglen foreuol Aled Hughes. Canwyd y fersiwn newydd gan ddau o aelodau Hogia'r Wyddfa, y bandi Siddi, Band Pres Llarebbug a phlant lleol.[3] a bu sylwi iddi ar Radio Cymru a'r we.[4]

Rhannwyd sawl fersiwn ar Facebook a Twitter adeg llwyddiant Geraint Thomas.

Cân Rap Tour de France gan grŵp Llwybr Llaethog

golygu

I ddathu llwyddiant Geraint Thomas yn ennill y ras, ail-recordiodd cân Llwybr Llaethog 'Tour de France', cân a recordiwyd yn wreiddiol yn 1987, o dan teitl newydd, 'I Won the Tour Man' [8], sef dyfyniad o araith Geraint Thomas ar y Champs-Élysées ym Mharis.

Cerddi Mawl i Geraint Thomas

golygu

 

 
Siop Summit Cycles, Aberystwyth, 2018

Cafwyd sawl cerdd ei chyfansoddi mewn mawl i lwyddiant Geraint Thomas. Rhannwyd nifer o'r rhain ar y cyfryngau cymdeithasol megis Twitter.

Iwan Rhys, @anoracyracen ar Twitter, oedd 'Bardd y Mis' ar BBC Radio Cymru ym mis Gorffennaf 2018. Ysgrifennodd gerdd ar gyfer yr orsaf[9]

Cerdd i Geraint Thomas

Ar ras hir i Baris est ar y beic,
Gymro balch. Drwy'r ornest,
Credu ac anelu wnest
Yn iawn, a'i wneud yn onest.
Wedi'r reid, tyrd adre wedyn, yn d'ôl
O'th bedalu sydyn,
A gwn y bydd gan bob un
Groeso a mawl i'th grys melyn.

Cyhoeddwyd englyn gan brifardd Eisteddfod 2016, Aneirin Karadog, @NeiKaradog ar Twitter.

Ein Tywysog Geraint

Enwn bont i'w felynwib e, Geraint
y goron, ddod gatre'n
arwr dewr, t'wysog o'r De,
a'i lys yn Champs Elysées.

Englyn gan Priflenor Eisteddfod Casnewydd 2004, Annes Glynn, @Yr_Hen_Goes ar Twitter.

I ddathlu buddugoliaeth Geraint Thomas yn y Tour de France

Ei ddwy olwyn sy'n wynias – a melyn
yw mawl ei Brifddinas,
os ein harwr sy'n eirias,
y Ddraig a daniodd ei ras.

Englyn gan Huw Dylan Owen, @Gurfal ar Twitter. Geraint Thomas

Yn fraint it Geraint rhown gân - yn folawd
I'th felyn a'th hedfan,
Dy awch - un gŵr ar dân
Yw afiaith Cymru gyfan.

Geraint Thomas

Di ymffrost mewn ras didostur - y cawr
A’i ddraig goch yn gysur;
Geraint hedegog eryr.(Pengwern)
Dyn y dorf, ein dewin dur.

Cafwyd dau ddarn o farddoniaeth gan y prifardd, Llion Jones at Twitter @LlionJ

Dyn siocled nid un seiclo ydw i,
ond wir, trwy ddawn Cymro
i greu ei chwedl wrth bedlo,
rasio beics yw 'nghyffur sbo!
Y ddraig ar 'sgwyddau'r hogyn
a'i orfoledd hirfelyn
yw'r ddelwedd ar ddiwedd hyn

Cyhoeddwyd englyn y prif lenor, Eurig Salisbury, ar ei gyfrif Twitter, @eurig

Team Sky oedd Thomas cyhyd – ond ei awr
sy'n dod, a chawn hefyd
y fraint â Geraint i gyd
o rannu cyffro'r ennyd.

Englyn gan Catrin Rowlands, Abertawe, @RCatrin ar Twitter.

Y beic meddai rhai â barn - a elwid
Yn geffylau haearn,
Ond cennad ar ddraig gadarn
I'w fro yw'r Cymro i'r carn.

Cerdd Jon Meirion Jones, Llangrannog

golygu
Tour fu’n goron i’w ddonie-a diwedd,
L’Alpe D’uez a’i chreigle,
Yn edyn aur i’w seithfed ne’,
I ias y Champs-Élysées.

Cerdd Cyfrif Trydar @BolycsCymraeg

golygu

Rhoddwyd cerdd ar gyfrif trydar ddychannol, boblogaidd, @BolycsCymraeg i ddathlu camp Geraint Thomas.

Reidio beic yn gyflym iawn
Rownd Ffrainc ar ei ddwy olwyn
Nid malwen yw'r gŵr rhyfeddol hwn
Ond Titw Tomos Melyn.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu