Tryleg

pentref yn Sir Fynwy

Pentref yng nghymuned Tryleg Unedig, Sir Fynwy, Cymru, yw Tryleg.[1] Defnyddir y ffurfiau Trelech, Trellech,[2] Trelyg a Trelleck ar y pentref yn ogystal.

Tryleg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTryleg Unedig Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7451°N 2.7256°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO500054 Edit this on Wikidata
Cod postNP25 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map

Mae yno safle archaeolegol arwyddocaol. Ceir meini hirion yn y fynwent a elwir yn "Feini Harold", ac mae olion castell o'r cyfnod Normanaidd i'w gweld yno. Ystyrir Ffynnon y Santes Ann yn ffynnon gysegredig, ac mae traddodiad o adael darnau o frethyn o'i chwmpas.

Sefydlwyd Tryleg gan deulu de Clare, ac roedd yn dref bwysig yn y Canol Oesoedd. Yn dilyn lladd Gilbert de Clare ym Mrwydr Bannockburn ym 1314, ac effeithiau'r Pla Du, collodd ei phwysigrwydd. Fe'i llosgwyd i'r llawr gan Owain Glyndŵr

Enwogion

golygu

Ganwyd Bertrand Russell yma ym 1872.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Hydref 2021

Dolenni allanol

golygu