Dean Acheson

cyfreithiwr, gwleidydd, diplomydd (1893-1971)

Gwleidydd a chyfreithiwr o'r Unol Daleithiau oedd Dean Gooderham Acheson (ynganer: /ˈætʃɪsən/; 11 Ebrill 189312 Hydref 1971) a wasanaethodd yn Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau o 1949 i 1953 yng nghabinet yr Arlywydd Harry S. Truman. Efe oedd prif gynllunydd polisi tramor yr Unol Daleithiau ym mlynyddoedd cynnar y Rhyfel Oer.

Dean Acheson
Dean Acheson
Ganwyd11 Ebrill 1893 Edit this on Wikidata
Middletown Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 1971 Edit this on Wikidata
Sandy Spring Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Iâl Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddYsgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
MamEleanor Gertrude Acheson Edit this on Wikidata
PriodAlice Acheson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Pulitzer am Hanes, Medal for Merit Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganed ef ym Middletown, Connecticut, Unol Daleithiau America. Astudiodd ym Prifysgol Yale ac Ysgol Gyfraith Harvard. Gweithiodd yn glerc i Louis Brandeis, Ustus y Goruchaf Lys, cyn ymuno â swyddfa o gyfreithwyr, Covington & Burling, yn Washington, D.C. ym 1921. O gychwyn ei yrfa, aelod o'r Blaid Ddemocrataidd ydoedd. O ganlyniad i'w brofiad mewn materion cyfreithiol rhyngwladol, fe'i penodwyd ym Mawrth 1933 yn Is-Ysgrifennydd y Trysorlys yn llywodraeth Franklin D. Roosevelt. Ar un gyfnod, pan oedd yr Ysgrifennydd William H. Woodin yn sâl, Acheson oedd pennaeth dros dro'r Trysorlys, er nad oedd ganddo brofiad ym maes arianneg. Bu'n rhaid iddo ymddiswyddo yn Nhachwedd 1933 am anghytuno â'r Arlywydd Roosevelt ar faterion polisi aur.

Yr Adran Wladol

golygu

Yn Chwefror 1941 penodwyd Acheson yn ysgrifennydd cynorthwyol yn yr Adran Wladol. Ar 16 Awst 1945, deuddydd wedi i Japan ddatgan ei bwriad i ildio yn yr Ail Ryfel Byd, dyrchafwyd Acheson yn Is-Ysgrifennydd Gwladol gan yr Arlywydd Harry S. Truman, yn ail i James F. Byrnes ac yna, wedi Ionawr 1947, George C. Marshall. Un o'i gyfrifoldebau oedd i sicrhau cefnogaeth y Senedd ar gyfer aelodaeth y Cenhedloedd Unedig. Yn y drefn newydd, daeth Acheson yn wrth-gomiwnydd pybyr, a dadleuai'n gryf dros wrthbwyso dylanwad yr Undeb Sofietaidd. Tybiodd y byddai'r bloc Dwyreiniol yn ceisio lledaenu comiwnyddiaeth i wledydd y Dwyrain Canol, ac felly siapiodd bolisi tramor o ddarparu cymorth milwrol ac economaidd i Dwrci a Gwlad Groeg i ostegu gwrthryfelwyr comiwnyddol, i atal maes dylanwad y Sofietiaid rhag estyn i'r Môr Canoldir. Cyhoeddwyd y polisi hwnnw, a elwir Athrawiaeth Truman, mewn araith gan yr arlywydd ym Mawrth 1947. Amlinellodd Acheson hefyd raglen eang ar gyfer cymorth i adfer economïau Gorllewin Ewrop, a ddygai enw'r Cynllun Marshall.[1]

Yn Ionawr 1949, ar ddechrau ail weinyddiaeth yr Arlywydd Truman, penodwyd Acheson yn Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, un o brif swyddi'r cabinet. Er gwaethaf ei ymarweddiad cryf yn erbyn comiwnyddiaeth, bu rhai yn bwrw amheuaeth ar yr Adran Wladol dan ei arweinyddiaeth. Ymchwiliodd y Seneddwr Joseph McCarthy i "weithgareddau tanseiliol"—hynny yw, cydymdeimlo â chomiwnyddiaeth—yn y llywodraeth ffederal mewn cyfres o wrandawiadau cyngresol ym 1949–50, ond gwrthododd Acheson ddiswyddo'r un o'i weithwyr a gyhuddwyd. Byddai ei gefnogaeth i un o swyddogion yr Adran Wladol, Alger Hiss, yn achosi sgandal wedi i Hiss gael ei ddyfarnu'n euog o anudoniaeth ym 1950 am wadu ysbïo ar gyfer yr Undeb Sofietaidd yn y 1930au.

Cynnyddodd y gwrthwynebiad i Acheson yn ystod Rhyfel Corea (1950–53), yn enwedig wedi i Tsieina ymuno â'r ffrae ac yn sgil diswyddo'r Cadfridog Douglas MacArthur gan Truman. Gosododd Acheson seiliau'r polisi o beidio â chydnabod Gweriniaeth Pobl Tsieina (a barodd nes 1979) a chynorthwyo Gweriniaeth Tsieina, dan arweiniad Chiang Kai-shek yn Nhaiwan. Cefnogodd hefyd ymdrech Ffrainc yn erbyn lluoedd gwrth-drefedigaethol a chomiwnyddol yn Indo-Tsieina.[1]

Cynghorydd answyddogol

golygu

Daeth tymor Acheson yn y swydd i ben wedi i Truman ildio'r arlywyddiaeth i Dwight D. Eisenhower yn Ionawr 1953. Dychwelodd i'w broffesiwn, yn drin y gyfraith yn Washington, gan barhau i ymwneud â phwyllgorau polisi tramor yn y brifddinas. Fe'i anwybyddwyd gan weinyddiaeth Weriniaethol Eisenhower (1953–61), ond cafodd ei ystyried yn gynghorydd answyddogol i'r Tŷ Gwyn yn ystod arlywyddiaethau'r Democratiaid John F. Kennedy (1961–63) a Lyndon B. Johnson (1963–69). Cynghorodd hefyd, drwy gyfrwng y Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol Henry Kissinger, weinyddiaeth Weriniaethol Richard Nixon o 1969 i 1970.[2]

Bywyd personol a diwedd ei oes

golygu

Priododd ag Alice Stanley (1895–1996) ym 1917, a chawsant un mab a dwy ferch. Enillodd Acheson Wobr Pulitzer am Hanes ym 1970 am ei hunangofiant, Present at the Creation: My Years in the State Department (1969). Ysgrifennodd sawl cyfrol arall, gan gynnwys Power and Diplomacy (1958), Morning and Noon (1965), The Korean War (1971), a Grapes from Thorns (1972). Bu farw Dean Acheson ar ei fferm yn Sandy Spring, yn nhalaith Maryland, o drawiad ar y galon yn 78 oed.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Dean Acheson. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Hydref 2023.
  2. Gregory T. D'Auria, "Present at the Rejuvenation: The Association of Dean Acheson and Richard Nixon", Presidential Studies Quarterly 18:2 (gwanwyn 1988), tt. 393–412.
  3. (Saesneg) "Dean Acheson Dies on His Farm at 78", The New York Times (13 Hydref 1971). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Hydref 2023.

Darllen pellach

golygu
  • Robert L. Beisner, Dean Acheson: A Life in the Cold War (Rhydychen: Oxford University Press, 2006).
  • Douglas Brinkley, Dean Acheson: The Cold War Years, 1953–71 (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 1992).
  • Douglas Brinkley (gol.), Dean Acheson and the Making of U.S. Foreign Policy (Llundain: Macmillan Press, 1993).
  • Robert J. McMahon, Dean Acheson and the Creation of an American World Order (Washington, D.C.: Potomac Books, 2009).
  • John T. McNay, Acheson and Empire: The British Accent in American Foreign Policy (Columbia, Missouri: University of Missouri Press, 2001).