Dewi 'Pws' Morris

actor a aned yn 1948
(Ailgyfeiriad o Dewi Pws Morris)

Cerddor, bardd, actor a chomediwr yw Dewi 'Pws' Morris (ganwyd 21 Ebrill 1948). Mae'n adnabyddus am fod yn brif leisydd Y Tebot Piws ac yn ddiweddarach am ei gyfresi comedi ar S4C. Ef oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2010 a 2011.

Dewi 'Pws' Morris
FfugenwDewi Pws Edit this on Wikidata
GanwydDewi Gray Morris Edit this on Wikidata
21 Ebrill 1948 Edit this on Wikidata
Treboeth Edit this on Wikidata
Man preswylTre-saith, Nefyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, cerddor, bardd, digrifwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Dewi Gray Morris yn Nhreboeth, Abertawe.[1] Aeth i Ysgol Gymraeg Lôn Las ac yna Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe.[2] Daeth i sylw Cymru gyfan gyntaf fel aelod o Aelwyd yr Urdd, Treforys. Wedi hynny, aeth i Goleg Cyncoed i hyfforddi'n athro a bu'n dysgu am rai blynyddoedd yn y Sblot, Caerdydd, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, datblygodd ei ddiddordeb ym myd actio, gyda swydd llawn amser gyda Chwmni Theatr Cymru.[3]

Gyrfa golygu

Cerddoriaeth golygu

Bu'n aelod o'r band pop cynnar Y Tebot Piws ac wedyn y supergroup Cymraeg cyntaf Edward H. Dafis. Enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971 gyda'i gân "Nwy yn y Nen" a cyfansoddodd y gân nodedig "Lleucu Llwyd". Mae wedi chwarae gyda'r band pync-gwerin Radwm ac mae wedi ymddangos ar lwyfan gyda'r band gwerin Ar Log.[4]

Datganodd wrth y Cymro ym mis Ionawr 2010 y byddai'n gwrthod ymddangos ar nifer raglenni Radio Cymru bellach gan eu bod yn chwarae gormod o gerddoriaeth Saesneg. Eglurodd nad oedd Radio Wales yn chwarae caneuon Cymraeg, felly doedd dim rheswm i'r unig sianel radio cenedlaethol Cymraeg chwarae caneuon Saesneg.[5]

Comedi ac actio golygu

Chwaraeodd y cymeriad "Wayne Harries" ar Pobol y Cwm o'r cychwyn yn 1974 hyd at 1987. Roedd ganddo un o'r brif rannau yn y ffilm gomedi eiconig Grand Slam ym 1978. Yn yr 1970au ymddangosodd yn y gyfres i blant Miri Mawr. Bu'n actio hefyd yn y gyfres sebon Taff Acre (HTV Cymru, 1981). Yn yr 1980au daeth i sylw ehangach yn perfformio ac ysgrifennu yn y gyfres comedi sgets Torri Gwynt. Yn y 1990au cynnar bu'n serennu fel tad y teulu yn y gomedi sefyllfa Hapus Dyrfa.[1]

Bu'n actor ar y gyfres deledu Rownd a Rownd ers dechrau'r gyfres yn 1995 hyd at 2007 ac enillodd wobr y cyflwynwr rhanbarthol gorau am ei raglen Byd Pws ar S4C yng nghwobrau'r Royal Television Society yn 2003.[6]

Bywyd personol golygu

Mae'n briod a Rhiannon a bu'n byw yn Nhre-saith[7] cyn ymgartrefu yn Nefyn, Gwynedd.[8]

Yn 2010 fe'i dderbyniwyd i'r orsedd fel Urdd Derwydd er Anrhydedd, gan ddewis yr enw barddol "Dewi’n y Niwl".[9] Derbyniodd radd anrhydedd gan Brifysgol Abertawe ar 18 Rhagfyr 2018.[4]

Llyfryddiaeth golygu

 
Clawr Dewi, Dwpsi a'r Dreigiau

Straeon ar Grynoddisgiau golygu

  • Straeon Cymru: 10 o Chwedlau Cyfarwydd (CD) (Scd2480) (Awduron: Esyllt Nest Roberts ac Elena Morus), Rhagfyr 2004 (Cwmni Recordiau Sain)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Pwy ydy Pwy yn Noson Lawen?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2007-10-31.
  2.  Cyngor Llyfrau Cymru Adnabod Bardd (PDF). Adalwyd ar 27 Ionawr 2016.
  3.  Llenyddiaeth Cymru - Rhestr Awduron Cymru. Adalwyd ar 27 Ionawr 2016.|
  4. 4.0 4.1 Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r diddanwr enwog o Gymru, Dewi Pws Morris. , Prifysgol Abertaw, 18 Rhagfyr 2018.
  5. "Dewi Pws Wedi Cael Llond Bol", Y Cymro, 15 Ionawr 2010.
  6. Ross wins TV entertainer award BBC 19 Mawrth 2003
  7. Erthygl o gylchgrawn Sgrîn
  8. Awn i ail Adfer bro... , BBC Cymru, 26 Tachwedd 2015. Cyrchwyd ar 20 Mehefin 2016.
  9. "Anrhydeddau 2010 – Gorsedd Cymru". 2016-07-21. Cyrchwyd 2023-08-07.