Llywodraeth Cymru (Saesneg: Welsh Government) yw'r llywodraeth ar gyfer Cymru sy'n cynnwys y Prif Weinidog a'i Gabinet. Hyd mis Mai 2011, yr enw oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg: Welsh Assembly Government). Newidiwyd yr enw er mwyn osgoi dryswch rhwng y llywodraeth ei hun sydd, fel pob llywodraeth, yn gorff gweithredol, a Senedd Cymru, sy'n gorff deddfwriaethol.[1] Fe'i cyfansoddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; mae Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu unrhyw lywodraeth a senedd arall. Y corff democrataidd, etholedig, sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.[2] Hyd at Mai 2020 yr enw ar Senedd Cymru oedd 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru'.

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Aelodau'r Cabinet a Gweinidogion

golygu

Dyma gyfansoddiad presennol Llywodraeth Cymru (ers 16 Gorffennaf 2024):[3][4]

Ysgrifenyddion y Cabinet

golygu
Portffolio Enw Etholaeth Plaid Tymor
Prif Weinidog   Vaughan Gething AS De Caerdydd a Phenarth Llafur 2024–
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet   Rebecca Evans AS Gŵyr Llafur 2021–
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol   Eluned Morgan AS Canolbarth a Gorllewin Llafur 2021–
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg Dim[4]
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth   Ken Skates AS De Clwyd Llafur 2024–
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Dim[4]
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig   Huw Irranca-Davies AS Ogwr Llafur 2024–
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg   Lynne Neagle AS Torfaen Llafur 2024–
Cwnsler Cyffredinol Dim[4]
Prif Chwip a Threfnydd y Senedd   Jane Hutt AS Bro Mogannwg Llafur 2024–

Gweinidogion

golygu
Portffolio Enw Etholaeth Plaid Tymor
Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar   Jayne Bryant AS Gorllewin Casnewydd Llafur 2021–
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol   Dawn Bowden AS Merthyr Tudful a Rhymni Llafur 2024–
Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol   Sarah Murphy AS Pen-y-bont ar Ogwr Llafur 2024–


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Carwyn Jones unveils three new faces in Welsh cabinet. BBC (13 Mai 2011).
  2. "Cynulliad Cenedlaethol Cymru". 8 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
  3. "Cabinet newydd Vaughan Gething: Newidiadau i amaeth, addysg a thrafnidiaeth". Newyddion S4C. 2024-04-02. Cyrchwyd 2024-04-02.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 "Nifer o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi ymddiswyddo". BBC Cymru Fyw. 2024-07-16. Cyrchwyd 2024-07-16.

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.