Teyrnas Glywysing

(Ailgyfeiriad o Glywysing)

Roedd Teyrnas Glywysing yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Roedd ei phobl yn ddisgynyddion i'r Silwriaid, llwyth Brythonaidd a drigai yn ne-ddwyrain Cymru yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ychydig iawn a wyddys amdani.

Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Hanes golygu

Yn ôl traddodiad, enwyd Glywysing ar ôl Glywys, y brenin a'i sefydlodd. Diau y symudai ffiniau'r deyrnas o bryd i'w gilydd, ond credir fod calon y deyrnas yn gorwedd yn yr ardal rhwng afonydd Wysg a Tawe. Ar adegau roedd ffiniau'r deyrnas yn ymestyn i gynnwys Gwent ac Ergyng, ond rhywbryd cyn yr 8g collwyd Cydweli a Gŵyr i deyrnas Dyfed.[1]

Gwyddys enwau rhai o'r brenhinoedd cynnar, fel Ithel (c.715-145). Ymranodd y deyrnas yn fuan ar ôl ei deyrnasiad.[1]

Yn hwyr yn y 10g, daeth teyrnas Glwysing yn rhan o deyrnas Morgannwg neu Gwlad Morgan, a enwyd felly ar ôl ei brenin Morgan Hen.[1]

Brenhinoedd Glywysing golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Gwasg Prifysgol Leicester, 1982).
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.