Eryr môr

rhywogaeth o adar
Eryr môr
Haliaeetus albicilla

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Accipitriformes
neu Falconiformes
Teulu: Accipitridae
Genws: Eryrod môr[*]
Rhywogaeth: Haliaeetus albicilla
Enw deuenwol
Haliaeetus albicilla
(Linnaeus, 1758)
Dosbarthiad y rhywogaeth

     Bridfa      Preswylfa      Teithfa      Gaeafle      Mewn bod + ailgyflwyno (preswyl)      Mewn bod + ailgyflwyno (dibreswyl)

Eryr hiradain pysgysol corffog sydd gyda chynffon letem fer wen ac yn mynychu arfordiroedd a gwlyptiroedd yw eryr môr (enw gwrywaidd; lluosog: eryrod môr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Haliaeetus albicilla; yr enw Saesneg arno yw white-tailed sea eagle. Mae'n perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae) sydd yn urdd y Falconiformes.[1] Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn H. albicilla, sef enw'r rhywogaeth.[2] Eryr y môr, eryr cynffonwen, eryr tinwyn a môr-eryr yw enwau eraill ar y rhywogaeth.

Mae'n aderyn mawr, 69 – 91 cm (27 – 36 modfedd) o hyd a 182 – 238 cm (72 – 94 modfedd) ar draws yr adenydd. Pwysa'r ieir 4 – 6.9 kg (8.8–15.2 pwys), tra mae'r ceiliogod yn llai, 3 – 5.4 kg (6.6–12 pwys). Saif yn bedwerydd ymhlith eryrod y byd o ran maint.

Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop a gogledd Asia. Ceir poblogaeth fwyaf Ewrop o gwmpas arfordir Norwy. Pysgod ac adar yw eu prif fwyd, ond gall mamaliaid bychain fod yn bwysig hefyd.

Diflannodd y rhywogaeth o'r Alban yn y 19g, ond yn 1975, gollyngwyd nifer o adar ar ynys Rùm i geisio ei adfer. Mae'r eryr yma yn awr yn nythu ar draws Ynysoedd Heledd a rhai ar dir mawr yr Alban. Mae rhaglen i geisio adfer y rhywogaeth i Iwerddon, a bu awgrym y gellid gwneud yr un peth yng Nghymru. Nid oes sicrwydd a fu'r rhywogaeth yn nythu yng Nghymru yn y gorffennol ai peidio, ond mae'n bosibl fod rhai o'r cyfeiriadau at "eryr" yn cyfeirio at y rhywogaeth yma yn hytrach na'r Eryr euraid.

Haliaeetus albicilla
Haliaeetus albicilla groenlandicus

Mae'r Eryr môr yn perthyn i deulu'r Eryr (Lladin: Accipitridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Accipiter atricapillus Accipiter atricapillus
 
Gwalch Besra Accipiter virgatus
 
Gwalch Cooper Accipiter cooperii
 
Gwalch Ffiji Accipiter rufitorques
 
Gwalch brith Accipiter albogularis
 
Gwalch gwyn Awstralia Accipiter novaehollandiae
 
Gwalch torwinau Accipiter castanilius
 
Gwyddwalch coch Erythrotriorchis radiatus
 
Gwyddwalch du Accipiter melanoleucus
 
Gwyddwalch ysgwydd winau Erythrotriorchis buergersi
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  Safonwyd yr enw Eryr môr gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.