Esgob euraid

rhywogaeth o adar
Esgob euraid
Euplectes afer

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Ploceidae
Genws: Euplectes[*]
Rhywogaeth: Euplectes afer
Enw deuenwol
Euplectes afer

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Esgob euraid (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: esgobion euraid) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Euplectes afer; yr enw Saesneg arno yw Golden bishop. Mae'n perthyn i deulu'r Golfanod (Lladin: Ploceidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn E. afer, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Teulu golygu

Mae'r esgob euraid yn perthyn i deulu'r Golfanod (Lladin: Ploceidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Cofnodion Unigol golygu

  • Mae'r aderyn lliwgar hwn wedi bod ar aber yr afon Dwyryd rhwng Talsarnau a Llandecwyn am chydig o ddyddiau ddechrau Gorffennaf 2019. Wedi dianc heb os. O'r Affrig yn wreiddiol ond mae na boblogaeth fferal ym Mhortiwgal hefyd.[3]
  • Mi roedd yna geiliog a iâr ym Mro Abertawe (ger Llansamlet) rai blynyddoedd yn ôl. Fel yn hanes yr aderyn uchod, wedi dianc neu eu rhyddhau i'r gwyllt.[4]
  • Mi ges i gofnod o aderyn tebyg o Ynys Las tua wyth mlynedd yn ôl. Y disgrifiad o aderyn bychan trawiadol melyn a du yn debyg iawn i'r rhywogaeth yma.[5]
  • Mae'n debyg fy mod wedi gweld esgob euraidd ond does dim tic wrth ei ymyl yn fy nghofnodion adar Affrica. Dim ond am gyfnod weddol fychan, Medi - Tachwedd yn y Gambia, mae'r ceiliog yn ei wisg cenhedlu, am weddill y flwyddyn mae yn edrych fel yr iar ac mae bron yn amhosibl gwahaniaethu rhwng aelodau benywaidd o deulu yr Esgobion. (Wedi bod yn y Gambia 3 gwaith ond erioed rhwng Medi - Tachwedd oherwydd dyma'r tymor gwlyb a poeth iawn)[6]

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Gwehydd mawr picoch Bubalornis niger
 
Gwehydd mawr pigwyn Bubalornis albirostris
 
Malimbe Gray Malimbus nitens
 
Malimbe Ibadan Malimbus ibadanensis
 
Malimbe Rachel Malimbus racheliae
Malimbe Tai Malimbus ballmanni
Malimbe copog Malimbus malimbicus
 
Malimbe corun coch Malimbus coronatus
 
Malimbe gyddfddu Malimbus cassini
 
Malimbe pengoch Malimbus rubricollis
 
Malimbe tingoch Malimbus scutatus
 
Malimbe torgoch Malimbus erythrogaster
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Elfyn Lewis, postiad 14 Mehefin 2019 ar Cymuned Llên Natur (Facebook)
  4. Dewi Lewis, postiad 14 Mehefin 2019 ar Cymuned Llên Natur (Facebook)
  5. Elfyn Lewis, postiad 15 Mehefin 2019 ar Cymuned Llên Natur (Facebook)
  6. Alun Williams, postiad 15 Mehefin 2019 ar Cymuned Llên Natur (Facebook)
  Safonwyd yr enw Esgob euraid gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.