Fan Nedd

mynydd (663m) ym Mhowys

Copa yn y Fforest Fawr, sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yw Fan Nedd. Saif yn sir Powys rhwng Llanymddyfri a Threfynwy; cyfeiriad grid SN913184. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 489 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Ceir dwy garnedd o Oes yr Efydd ar ei lechweddau dwyreiniol.

Fan Nedd
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr663 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8529°N 3.5792°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN9133518413 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd174 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaFan Gyhirych Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
Map

Mae'r nentydd ar lethrau gorllewinol y mynydd yn llifo i Afon Nedd Fechan, ac ar y llethrau dwyreniol i Afon Llia. Islaw y llechweddau gogleddol mae cwm Blaen Senni, tarddle Afon Senni, sy'n llifo i Afon Wysg.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 663 metr (2175 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.