Faunula Grustensis

Llyfr ar fyd natur gan John Williams yw Faunula Grustensis, a gyhoeddwyd yn Llanrwst yn 1830. Ystyr lythrennol y teitl Lladin yw "Planhigion ac anifeiliaid Crwstaidd", sef "Byd natur ardal Llanrwst".[1]

Faunula Grustensis
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurJohn Williams Edit this on Wikidata
CyhoeddwrJohn Jones Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1830 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLlanrwst Edit this on Wikidata
Prif bwncgwyddoniaeth naturiol, Dyffryn Conwy Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Cynnwys golygu

Mae'r Faunula Grustensis yn llyfr gwyddonol ar gyfer lleygwyr er mwyn iddynt allu dysgu am fyd natur a sut i gofnodi'r hyn y maent yn eu darganfod. Mae'r llyfr yn trafod yr anifeiliaid a'r planhigion y darganfu'r awdur yn ardal Llanrwst, ond roedd ei apêl yn ehangach na'r fro ei hun; gobaith yr awdur oedd y byddai darllenwyr trwy Gymru yn creu cofnodion cyffelyb ar gyfer eu hardaloedd hwy. Yn ogystal â nodi sut i greu cofnodion ysgrifenedig mae'r llyfr hefyd yn rhoi cyfarwyddyd ar sut i gadw samplau o fyd natur trwy egluro sut i flingo a stwffio anifeiliaid a sychu planhigion.[1]

Yn ogystal, mae'r llyfr yn cynnwys gwybodaeth am rai o'r afiechydon mwyaf cyffredin yn Nyffryn Conwy a chynghorion y meddyg ar y moddion gorau i'w trin nhw. Mae'n trafod cyflwr masnach ac amaethyddiaeth y fro gan resynu at ddiffyg mentergarwch y trigolion yn eu defnydd o'r cynnyrch naturiol; ymysg pethau eraill mae'n awgrymu tyfu afalau yn yr ardal ac agor bragdy er mwyn cynhyrchu seidr i'w werthu yn Lloegr, tyfu cnydau tybaco, agor ffatri sebon i greu sebon o wymon y môr a phuro halen o ddŵr yr arfordir ger Llandudno.[1]

Gwerth mwyaf y llyfr efallai yw ei restrau o enwau anifeiliaid a phlanhigion tair ieithol yn y Lladin, y Saesneg a'r Gymraeg a fu (yn ôl y diweddar Thomas Shankland, Llyfrgellydd Prifysgol Cymru Bangor) yn foddion i gadw rhai o'r enwau Cymraeg hynny yn fyw.[2]

Cyhoeddwyd argraffiad newydd o'r llyfr yn 2019 wedi'i olygu gan John Edmondson[3], gynt o'r Ardd Fontanegol Frenhinol yng Nghaeredin. Yn ogystal â chopi verbatim o'r testun gwreiddiol, ceir bywgraffiad o'r awdur, arolwg o'r llenyddiaeth gynnar sy'n trafod hanes naturiol yr ardal, rhestrau o enwau'r rhywogaethau a llyfryddiaeth.

Cyhoeddwr golygu

Cyhoeddwyd y Faunula Grustensis gan yr argraffydd lleol John Jones, Llanrwst (1786-1865), ŵyr yr argraffydd arloesol Dafydd Jones o Drefriw. Roedd yn un o sawl llyfr a argraffwyd ganddo ar y wasg argraffu a adeiladwyd ganddo ei hunan; mae'r llyfrau unigryw hynny yn cynnwys y llyfrau Cymraeg lleiaf a argraffwyd erioed.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Carey Jones, Y Llanc o Lan Conwy. Gwasg Gee, 1990.
  2. Llawysgrifau Thomas Shankland, Adran Archifau Prifysgol Bangor.
  3. John Edmondson (gol.), John Williams, Faunula Grustensis, the Natural History of the Parish of Llanrwst. Cambridge Scholars Press, 2019.
  4. Gerald Morgan, Y Dyn a Wnaeth Argraff (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1982).