Ffasgaeth yn yr Ariannin

Yr Ariannin yw un o'r gwledydd yn Ne America a brofai mudiad gwir ffasgaidd yn ystod ei hanes, ac hynny yn y 1930au.

Ffasgaeth ddeallusol y 1920au

golygu

Yn y 1920au ymddangosodd fudiad o lenorion a deallusion ffasgaidd yn yr Ariannin, gan gynnwys Leopoldo Lugones, Juan Carulla, Ernesto Palacio, Manuel Gálvez, Carlos Ibarguren, Roberto de Laferrere, Mario Amadeo, a'r brodyr Rodolfo a Julio Irazusta, a mynegasant eu syniadau yn y cylchgrawn La Nueva República. Dylanwadwyd arnynt yn gryf gan syniadaeth y Ffrancwr Charles Maurras.[1] Sefydlwyd y grŵp ADUNA (Afirmación de Una Nueva Argentina) ganddynt, er na enillodd fawr o gefnogaeth.[2]

Década Infame

golygu

Yn y cyfnod o hanes yr Ariannin a elwir Década Infame (1930–43), bu ddwy ymdrech i sefydlu gwladwriaeth gorfforaethol. Arweinwyd y cyntaf gan y Cadfridog José Félix Uriburu gyda chymorth ADUNA, wedi i'r fyddin gipio grym oddi ar y democratwr Hipólito Yrigoyen. Nid oedd ei ymgais yn hollol lwyddiannus, oherwydd gwrthsafiad gan y ceidwadwyr. Yn y 1930au, blodeuodd mudiadau cenedlaetholgar yr adain chwith a'r adain dde fel ei gilydd yn y gyhoeddfa Archentaidd. Bu rhai yn ceisio uno naill pen y sbectrwm gwleidyddol, y ddau ohonynt yn gwrthwynebu'r elît rhyddfrydol yn yr Ariannin ac imperialaeth economaidd yr Ymerodraeth Brydeinig. Trodd nifer o'r ffasgwyr yn raddol at ffurf genedlaetholgar ar boblyddiaeth. Cynhelid gwrthdystiadau ffasgaidd yn strydoedd Buenos Aires gan fudiadau'r Legión Cívica, y Liga Republicana, a'r Alianza Nacionalista. Cafodd mudiadau eithafol a chenedlaetholgar y chwith a'r dde ddylanwad sylweddol ar y syniadaeth i ddod, Peroniaeth, ideoleg syncretaidd a ellir ei hystyried yn ffurf Archentaidd unigryw ar ffasgaeth.[3] Daeth Juan Perón i rym am y tro cyntaf yn sgil chwyldro milwrol 1943. Sefydlodd wladwriaeth awdurdodaidd a pholisi economaidd awtarcïaidd. Dadleuai'r hanesyddion Felipe Pigna ac Tulio Halperín Donghi nad oedd Perón ei hunan yn ffasgydd, er iddo edmygu ac efelychu polisïau Benito Mussolini ac arweinwyr ffasgaidd eraill.[4]

Jwnta'r cadfridogion

golygu

Weithiau gelwir y jwnta filwrol a reolodd yr Ariannin o 1976 i 1983 yn llywodraeth ffasgaidd. Er yr oedd llywodraeth Jorge Rafael Videla a'r cadfridogion eraill yn awdurdodaidd ac yn wrth-sosialaidd, mae'r mwyafrif o ysgolheigion yn gwrthod y disgrifiad o'r jwnta fel cyfundrefn ffasgaidd. Mae rhai hefyd wedi galw'r Carapintadas, criw o filwyr dan arweiniad Aldo Rico a Mohamed Alí Seineldín a wrthryfeloedd yn erbyn y llywodraeth ddemocrataidd yn 1987–90, yn ffasgwyr.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Sandra McGee Deutsch, Las Derechas (1999), tt. 197-8
  2. Roger Girffin, The Nature of Fascism (1993), t. 149
  3. 3.0 3.1 Alberto Spektorowski, "Argentina" yn World Fascism: A Historical Encyclopedia, cyfrol 1, golygwyd gan Cyprian P. Blamires (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2006), tt. 55–57.
  4. Pigna, Felipe (2008). Los mitos de la historia argentina 4. Buenos Aires: Editorial Planeta. tt. 28–29. ISBN 978-950-49-1980-3.