Fred Evans (AS Caerffili)

gwleidydd Llafur

Roedd Alfred (Fred) Thomas Evans (24 Chwefror 1914 - 13 Medi 1987) yn brifathro ac yn wleidydd Llafur Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Caerffili o 1968 hyd 1979[1]

Fred Evans
Ganwyd24 Chwefror 1914 Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ebrill 1987 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Ganwyd Fred Evans yn Aberfan yn fab i Alfred Evans, glöwr, a Sarah Jane ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Bargoed a Choleg Prifysgol Cymru, Caerdydd lle graddiodd BA

Ym 1939 priododd â Mary Katherine, merch Joseph a Cecilia O'Marah bu iddynt un mab a dwy ferch; bu hi farw ym 1981.[2]

Wedi graddio cymhwysodd Evans fel athro Saesneg gan weithio fel pennaeth Adran Saesneg Ysgol Ramadeg Bargoed rhwng 1937 a 1949. Ym 1949 fe'i dyrchafwyd yn brifathro Ysgol Uwchradd Bedlinog ac ym 1966 yn brifathro Ysgol Lewis, Pengam lle fu'n gweithio hyd ei ethol i'r senedd ym 1968.[3].

Gyrfa Wleidyddol

golygu

Gwasanaethodd am gyfnod byr fel cynghorydd ar Gyngor Dinesig Gelli-gaer rhwng 1948 a 1951.

Safodd fel yr ymgeisydd Llafur yn etholaeth Llanllieni yn etholiad 1955 gan golli'n drom i'r ymgeisydd Ceidwadol. Yn etholiad 1959 safodd yn etholaeth Stroud gan golli i'r Ceidwadwyr eto.

Gwasanaethodd fel llywydd y Blaid Lafur yn etholaeth Caerffili, a phan fu farw AS Llafur yr etholaeth Ness Edwards ym 1968 dewiswyd Evans i amddiffyn y sedd i Lafur yn yr isetholiad. Llwyddodd Evans i dal gafael ar yr etholaeth wedi brwydr ffyrnig yn erbyn Dr Phil Williams, ymgeisydd Plaid Cymru.

Isetholiad Caerffili 1966
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Fred Evans 16,148 45.6
Plaid Cymru Phil Williams 14,274 40.4
Ceidwadwyr R Williams 3,687 10.4
Rhyddfrydol P Sadler 1,257 3.6
Mwyafrif 1,874
Y nifer a bleidleisiodd 75.9
Llafur yn cadw Gogwydd

Llwyddodd i gadw'r sedd i Lafur hyd ymddeol o'r senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1979 gan araf ail adeiladu mwyafrif ei blaid.

Doedd Evans ddim yn seneddwr amlwg, tueddai i ddilyn polisïau ei blaid yn deyrngar gwasanaethodd fel cadeirydd y Pwyllgor Mesurau Seneddol ym 1975 ac fel cadeirydd y Blaid Lafur Seneddol ym 1977. Ei unig gyfraniad nodedig i wleidyddiaeth Cymru oedd pan wrthwynebodd polisi ei blaid ar ddatganoli; daeth yn un o'r Gang o Chwech a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn datganoli i Gymru yn refferendwm 1979[4].

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref yn yr Hengoed yn 73 mlwydd oed ac amlosgwyd ei weddillion.

Cyfeiriadau

golygu
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Ness Edwards
Aelod Seneddol Caerffili
19681979
Olynydd:
Ednyfed Hudson Davies